Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 24 Medi 2019.
Manceinion Fwyaf. Sefais am 40 munud ddoe ar drên tanddaearol yn Llundain gyda miliynau o bobl eraill a does dim cyfleusterau toiled yno ychwaith. Yno, mae ganddyn nhw gyfleusterau toiled ar gael i chi mewn gorsafoedd a dyna'r hyn y byddwn ni'n ei wneud gyda'r trenau tram. Ond os gallwn ni ddod o hyd i ateb gwell, os gallwn ni ddod o hyd i gyflenwr sy'n gallu gwneud yr hyn yr hoffem ni ei wneud, yna dyna y gofynnwyd i Trafnidiaeth Cymru fynd ar ei drywydd.