– Senedd Cymru am 2:56 pm ar 24 Medi 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad.
Diolch, Llywydd. Nid oes newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddyfodol gwasanaeth GIG Cymru i gyn-filwyr? Mae'n cael ei werthfawrogi gan lawer o bobl, y gwasanaeth arbennig hwnnw, ac, wrth gwrs, mae cannoedd o gyn-filwyr wedi elwa ohono ers iddo gael ei sefydlu. Un o'r problemau gyda'r gwasanaeth hwnnw erioed, serch hynny, fu gallu'r gwasanaeth i ymdopi â'r gofynion arno. Buont yn ffodus iawn i sicrhau rhywfaint o gymorth grant i leihau rhai o'r amseroedd aros i bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth gan yr elusen Cymorth i Arwyr. Ond yn anffodus bydd cymorth grant yn dod i ben ymhen 12 mis ac yn amlwg, mae'r sefydliad, GIG Cymru i gyn-filwyr, yn awyddus iawn i wneud yn siŵr y gellir cael rhywfaint o barhad ar ôl hynny. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad am yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi capasiti'r gwasanaeth hwn y tu hwnt i gyfnod y grant, oherwydd rwy'n credu y byddai'n cael ei werthfawrogi'n fawr pe gallai Llywodraeth Cymru ychwanegu mwy o adnoddau.
A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad ar ddyfodol swyddogion cyswllt ysgolion yng Nghymru? Gwn fod Llywodraeth Cymru, yn y gorffennol, wedi darparu cyllid i gefnogi swyddogion cyswllt ysgolion drwy gyllid yr heddlu y mae'n ei ddarparu i heddluoedd. Ac, wrth gwrs, cafwyd elfen a ddaeth o ochr iechyd y cyllid er mwyn cefnogi'r gwaith ar gamddefnyddio sylweddau a wna'r swyddogion hynny. Nawr, yn amlwg, rydym i gyd yn gwybod yn ein hetholaethau ein hunain am waith gwerthfawr swyddogion cyswllt ysgolion, a deallaf mai tua £350,000 yw cost y rhain o gwmpas Cymru. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallai Llywodraeth Cymru gadarnhau, yn y gyllideb yn yr Hydref, y bydd yr arian hwnnw ar gael i alluogi'r swyddi pwysig hyn i barhau y tu hwnt i 1 Ebrill y flwyddyn nesaf.
Diolch yn fawr iawn. Byddaf yn cael sgwrs gyda'm cydweithiwr, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynglŷn â'ch diddordeb, yn enwedig yng Ngwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr a'r cymorth a roir iddo, ond hefyd y capasiti sydd ar gael o fewn y sefydliad hwnnw i ddiwallu anghenion cyn-filwyr.
O ran swyddogion cyswllt ysgolion, gofynnwyd sut y gellid eu hadlewyrchu mewn unrhyw benderfyniadau ar y gyllideb a wneir, ai peidio. Yn amlwg, mae'n gynnar iawn yn ein hystyriaethau cyllidebol, ond rwy'n siŵr y bydd y swyddi hyn yn cael eu trafod gyda'r Gweinidogion perthnasol yn ystod y broses honno o bennu'r gyllideb.
Rwyf eisiau codi'r problemau y mae etholwyr yn y Porth yn eu cael o ran signal ffonau symudol. Mae hyn o ganlyniad i'r tân o gwmpas mast ffôn symudol bron bythefnos yn ôl, ac nid oes signal ffôn symudol wedi bod mewn sawl ardal o gwmpas y dref ers hynny. Fel y gallwch ddychmygu, mae hyn yn achosi llawer iawn o anghyfleustra nid yn unig i unigolion, ond hefyd i fusnesau lleol. A oes unrhyw ganllawiau y gall y Llywodraeth eu rhoi i ddarparwyr ffonau symudol o ran yr arfer gorau iddynt ynglŷn ag adfer signal ffonau symudol cyn gynted â phosibl? Hefyd, a oes gan y Llywodraeth farn ynghylch pa mor hir y dylai gymryd cyn i iawndal ariannol gael ei sbarduno ar gyfer cwsmeriaid heb wasanaeth ffonau symudol?
Dychrynais o weld bod ail fab y Frenhines wedi'i wahodd i fynd i gampws Prifysgol De Cymru. Er fy mod yn gredwr cadarn yn yr egwyddor fod rhywun yn ddieuog nes profir ei fod yn euog, mae'r aelod hwn o'r teulu Brenhinol wedi cael ei gyhuddo o rai troseddau difrifol iawn ac o gam-ddefnyddio ei statws. Nid ydym yn gwybod eto a fydd yn ateb y cyhuddiadau yn y llys ai peidio, ac mae llawer yn credu y bydd ei gysylltiadau â haenau uchaf y sefydliad Prydeinig yn ei gysgodi rhag y system gyfiawnder, hyd yn oed os oes achos cryf i'w ateb.
Yr hyn a wyddom yw bod yr aelod hwn o'r teulu brenhinol wedi cadw ei gyfeillgarwch â phedoffiliaid drwg-enwog, Jeffrey Epstein, wedi iddo bledio'n euog i gaffael merch dan oed i buteindra. Dyma'r un Epstein y cafodd ei wraig, Sarah Ferguson, £15,000 ganddo i dalu cyflogai yr oedd arni ddyled iddo. Ymhellach, ni chafwyd unrhyw eglurhad o sut y daeth y tywysog hwn i fod mewn llun gyda'i fraich o amgylch gwasg merch 17 oed—menyw sy'n dweud iddi gael ei chaffael gan Epstein yn ei arddegau i gael rhyw gydag ef.
Yng ngoleuni #MeToo a Time's Up, dylai hyn fod yn ddigon i sicrhau nad yw'r dyn hwn yn cael ei groesawu i Brifysgol De Cymru tra bod honiadau mor ddifrifol amdano, heb unrhyw esboniad digonol. Ni ddylai'r cyhuddiadau olygu fod busnes yn parhau fel arfer. Tybed a ydych chi'n rhannu fy mhryderon ynghylch y niwed y gallai hyn ei achosi i enw da'r Brifysgol yn rhyngwladol. Pa bwysau y gall Llywodraeth Cymru ei roi i sicrhau nad yw gwesteion sydd yn y sefyllfa annymunol hon yn cael eu croesawu â breichiau agored i gampws sefydliadau dan ei gofal?
Llywydd, mae signal ffonau symudol, ac unrhyw iawndal, yn fater sydd heb ei ddatganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, felly gallai hynny fod yn rhywbeth y byddai Leanne Wood yn dymuno'i godi gyda'r Gweinidog priodol yn Llywodraeth y DU.
O ran yr ail fater, mae prifysgolion yng Nghymru yn sefydliadau annibynnol ac ymreolaethol, a mater i'r prifysgolion yw pwy i wahodd i'w campysau. Nid oes gan Lywodraeth Cymru lais mewn materion o'r fath.
Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw, os caf. Yn gyntaf, ddydd Gwener diwethaf, cefais y pleser o ymweld â Fferyllfa Sheppards yn Abercynon i gael gwybod am y cynllun profi a thrin dolur gwddf newydd sy'n cael ei gynnal fel estyniad o'r cynllun anhwylderau cyffredin Dewis Fferyllfa. Mae'r cynllun arloesol hwn yn enghraifft arall o'r ffordd y gellir defnyddio fferyllfeydd cymunedol i ysgafnhau'r pwysau ar ein gwasanaethau meddygon teulu, ac fe'i cynigir ym mhob fferyllfa gymunedol yng Nghwm Cynon o fis Tachwedd ymlaen. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut mae'n cefnogi fferyllfeydd cymunedol a sut mae'n gweithio gyda nhw i'w hannog i gynnig gwasanaethau newydd, effeithiol fel y rhain, a fydd, wrth gwrs, yn arbennig o bwysig yn y misoedd nesaf wrth inni geisio lleddfu pwysau'r gaeaf?
Yn ail, yr amser cinio hwn, cynhaliais ddigwyddiad galw heibio gydag UnLtd, sefydliad y DU ar gyfer entrepreneuriaid cymdeithasol, er mwyn iddynt allu dweud mwy wrth Aelodau'r Cynulliad am y gwaith a wnânt i ddod o hyd i entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru, eu hariannu a'u cefnogi—entrepreneuriaid cymdeithasol fel Janis Werrett o Anturiaethau Organig Cwm Cynon, lle mae ei gardd gymunedol, yn ogystal â hyrwyddo cynaliadwyedd, yn cynnig cyfleoedd addysgol a chyflogadwyedd. Gwn fod rhai trafodaethau eang iawn yn digwydd o fewn y sector, ond a oes modd cael datganiad gan Lywodraeth Cymru am y gwaith y mae'n ei wneud i roi cymorth i entrepreneuriaid cymdeithasol, a all, gyda'r cymorth cywir, gryfhau ein cymunedau a'n heconomi ar yr un pryd?
Diolch i Vikki am godi'r ddau fater pwysig hyn y prynhawn yma. O ran y cyntaf, gofynnaf i'r Gweinidog Iechyd ymchwilio i'r ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y modd yr ydym yn cefnogi fferylliaeth gymunedol, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Byddant yn chwarae rhan gwbl hanfodol yn helpu pobl i gael pigiadau ffliw, er enghraifft, ond hefyd mae llawer o bethau y gallant eu gwneud i helpu pobl i gadw'n iach ac fel y lle cyntaf i fynd iddo ar gyfer rhai cyflyrau. Felly, byddaf yn sicrhau bod diweddariad yn cael ei ddarparu ar hynny.
O ran yr ail fater, diolch ichi am gynnal y digwyddiad amser cinio. Cefais y pleser o fod yno a chwrdd â mentrau cymdeithasol rhagorol sy'n gweithio yn Abertawe. Cwrddais â Phobl yn Siarad, Vibe Youth a hefyd miFuture. Rwy'n credu, drwy ddim ond siarad â'r tri sefydliad hynny, y cafwyd darlun cryf o'r ehangder o ran menter gymdeithasol a'r sector bywiog sydd gennym yng Nghymru, a gwn fod y Gweinidog Economi'n awyddus i barhau i'w ddatblygu a'i gefnogi.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynghylch cynnal a chadw ysbytai yng Nghymru? Yn ôl adroddiad diweddar, mae'r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru yn wynebu bil o £260 miliwn o leiaf am waith atgyweirio ac adnewyddu brys, allan o gyfanswm bil atgyweirio o fwy na £500 miliwn. Mae'r bwrdd iechyd yn fy ardal i, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn un o'r ardaloedd sy'n perfformio'n well, mae angen dros £23 miliwn o atgyweiriadau brys, allan o gyfanswm o ddim ond £100 miliwn. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ar y camau y bydd yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater difrifol hwn i atgyweirio ein hysbytai, i wella iechyd ein pobl, a'r ysbytai hefyd? Diolch.
Gallaf ddweud ar ran y Gweinidog Iechyd ein bod wedi ymrwymo dros £370 miliwn i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf iechyd eleni, a £338 miliwn y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn cynnwys dros £8 miliwn o wariant dewisol ym mhob un o'r ddwy flwyddyn ariannol hynny. Mae cyfrifoldeb ar fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd i sicrhau eu bod yn cynnal proffil risg cadarn o ofynion cynnal a chadw, a'u bod wedyn yn gallu blaenoriaethu'r gwaith o fewn hynny. Ond ynghyd â chynnal yr ystad iechyd bresennol ledled Cymru, rydym hefyd yn darparu cyllid i sefydliadau iechyd ar gyfer prosiectau seilwaith mawr a fydd yn ein galluogi i gyflawni'r weledigaeth a nodir yn y strategaeth Cymru Iachach. Mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys yr Ysbyty'r Brifysgol Grange newydd gwerth £350 miliwn, sy'n cael ei adeiladu yng Nghwmbrân ar hyn o bryd, a hefyd waith adnewyddu i ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful. Ynghyd â hyn, rydym hefyd wedi dyrannu dros £70 miliwn dros dair blynedd i gyflawni 19 o brosiectau gofal sylfaenol a chymunedol newydd ledled Cymru, sy'n allweddol ar gyfer cyflawni ein nod o ddarparu gofal yn agosach at y cartref.
Yr wythnos diwethaf, rhoddodd Llywodraeth Plaid Genedlaethol yr Alban sêl ei bendith i'r cyffur ffibrosis systig Orkambi, rhywbeth yr wyf fi ac eraill yn y Siambr hon, rwy'n siŵr, yn ei groesawu. Ond hefyd yr wythnos diwethaf, trydarodd Corbyn, ac rwy'n dyfynnu:
'Nid oes gan bobl â ffibrosis systig yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fynediad o hyd at y cyffur sy'n newid bywyd #Orkambi... Rhaid i'r llywodraeth weithredu.'
Wel, rwy'n gwybod nad yw'n deall datganoli'n dda iawn, ond pan ddywed 'y llywodraeth', yn amlwg, mae'n anghywir, oherwydd mae iechyd wedi ei ddatganoli. Nawr, hoffwn ddeall yr hyn y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn ei wneud mewn cysylltiad ag Orkambi, o ystyried y ffaith bod rhai pobl yng Nghymru wedi dweud eu bod bellach yn ystyried symud i'r Alban os nad yw Orkambi ar gael yma. Yn syml iawn, ni allwn fyw mewn sefyllfa lle mae pobl yn cael eu hamddifadu o'r cyffur hwn sy'n achub bywydau. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud ar y mater penodol hwn?
Gwnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad fis Awst am y meddyginiaethau sydd ar gael i drin ffibrosis systig, ac roedd yn glir y byddwn yn sicrhau y bydd yr holl feddyginiaethau a argymhellir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan ar gael o fewn 60 diwrnod i'w hargymhelliad cyntaf, a byddwn yn sicrhau bod pob meddyginiaeth ar gael lle mae eu costau yn adlewyrchu'n briodol eu buddiannau. Er mwyn penderfynu a yw hynny'n wir am Orkambi a Symkevi, mae'n ofynnol bod Vertex Pharmaceuticals yn ymgysylltu â'n proses arfarniadau meddygol ni sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol. Ond ers 2016, rydym dro ar ôl tro wedi gwahodd Vertex Pharmaceuticals i ymgysylltu â ni yn y broses arfarnu honno, ac maent wedi ymrwymo i wneud hynny, ond hyd yn hyn, nid ydynt wedi gwneud hynny, ac mae Llywodraeth Cymru yn eu hannog yn gryf i wneud cyflwyniad ar frys.
A fyddai modd i mi ofyn am ddatganiad neu ddadl ar dri mater pwysig, yn gyntaf ar fater gwrthsefyll ac ymateb i lifogydd? Unwaith eto, mae rhannau o Aberogwr a sawl rhan o Gymru wedi cael eu boddi dros nos, a dyma batrwm y gwelwn fwy a mwy ohono yn y blynyddoedd i ddod, diolch i'r newid yn yr hinsawdd a pha mor gyffredin yw arwynebau caled, anhydraidd yn ein cymunedau? Felly, byddai croeso i ddatganiad ddangos beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i hyrwyddo draenio cynaliadwy, gwaith partneriaeth ar fforymau llifogydd, a hefyd, rhaid imi ddweud, gyfle i ganmol gwaith gweithwyr a chontractwyr cynghorau lleol, a hyd yn oed gynghorwyr lleol yn unigol, sydd wedi bod yn torchi eu llewys i helpu trigolion y mae erchyllterau llifogydd wedi effeithio arnynt heddiw.
A gaf i ofyn hefyd am ddatganiad neu ddadl ar anemia dinistriol? Yn dilyn cynnal derbyniad yma yn y Senedd yn gynharach eleni, un yr oedd llawer o gyd-Aelodau'n bresennol ynddo, bûm mewn cyfarfod y penwythnos hwn o grŵp cymorth Pen-y-bont ar Ogwr ar anemia dinistriol i glywed am y problemau parhaus gyda diagnosis hwyr, profion annigonol, cyngor anghyson, a'r angen am hyfforddiant meddygon teulu ac arbenigwyr gofal iechyd, a'r diffyg canllawiau clinigol a mwy. Bydd yr effeithiau aruthrol ar yr unigolyn a'r costau enfawr i'r gymdeithas yn sgil anemia dinistriol na chafodd ei drin ac sydd heb ei reoli yn enfawr, o gofio bod gan hyd at 350,000 o bobl yng Nghymru lefelau isel o B12. Felly, a gawn ni ddadl neu ddatganiad i ymchwilio ymhellach i'r gwaith y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i arwain wrth fynd i'r afael ag anemia dinistriol yng Nghymru?
Yn olaf, ymunodd y Prif Weinidog, y Gweinidog teithio llesol a llawer o Aelodau'r Cynulliad â'n grŵp teithio llesol trawsbleidiol yr wythnos diwethaf wrth inni arddangos, gyda chefnogaeth nextbike, Raleigh, ICE Trikes, Pedal Power a Chyngor Caerdydd, rai o'r e-feiciau newydd gorau a'r potensial ar gyfer trawsnewid teithio. Roedd hyn nid yn unig ar gyfer dinasoedd ond mewn ardaloedd gwledig hefyd, gan helpu pobl i symud o'u ceir a defnyddio dulliau teithio mwy cynaliadwy. Mae'n deg dweud bod Aelodau'r Cynulliad wedi cael tipyn o hwyl hefyd, gan wibio o amgylch y cwrt y tu allan i'r Senedd. Byddai dadl yn caniatáu inni archwilio'r ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru helpu ymhellach i hybu'r sector hwn sy'n tyfu'n gyflym, o leiaf drwy brynu'n gorfforaethol—a gwn y bydd y Llywydd yn gwrando—fel y gallai gweision sifil a Gweinidogion eu hunain elwa o'r drafnidiaeth drefol gyflym, ecogyfeillgar hon o amgylch Caerdydd, a hefyd i ofyn i'r Gweinidogion a yw cronfa grant beiciau eCargo'r DU gyfan, sy'n cael ei chynnal gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth, ar gael yng Nghymru hefyd a sut y gall pobl gael mynediad i'r gronfa honno .
Diolch ichi am godi'r materion hynny. Roedd y digwyddiad a noddwyd gennych ar gyfer e-feiciau yn sicr yn edrych yn hwyl. Rwyf wedi gweld rhai o'r lluniau ac roeddwn yn meddwl ei fod yn ffordd wych o ddangos manteision e-feiciau a pha mor hygyrch y gallant fod a pha mor hyblyg y gallant fod hefyd. Gwn fod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi gofyn i swyddogion edrych ar botensial e-feiciau a modelau trafnidiaeth tebyg a sut y gallant fod o fudd i deithio llesol fel rhan o'n strategaeth drafnidiaeth i Gymru, a gwn y byddai'n awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y darn arbennig hwnnw o waith.FootnoteLink
Mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi dweud y byddai'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â llifogydd a'u hatal,FootnoteLink ond hefyd, fe gredaf, mae angen inni gydnabod y gwaith pwysig y mae aelodau lleol o'r gymuned yn ei wneud, y cynghorau cymuned, cynghorau tref a chynghorwyr, wrth ymateb i ddigwyddiadau o lifogydd, gan fod y gwaith a wnânt, yn anochel, bob amser yn eithriadol o bwysig i'r bobl hynny y mae llifogydd wedi effeithio arnynt. Yn ystod oes y Llywodraeth hon, byddwn yn buddsoddi dros £350 miliwn mewn rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar draws Cymru gyfan. Ar hyn o bryd, mae gennym ymgynghoriad ar strategaeth ddrafft newydd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Mewn gwirionedd, dim ond yn ddiweddar iawn y mae hyn wedi gorffen a bydd y Gweinidog yn ystyried yr ymatebion hynny, gyda golwg ar gyhoeddi strategaeth newydd yn 2020. Felly, rwy'n siŵr y bydd hynny'n ennyn yr ymatebion priodol wrth inni symud tuag at hynny.
A gwn y byddai'r Gweinidog Iechyd yn croesawu'r cyfle i roi datganiad ysgrifenedig i'r Aelodau am y gwaith presennol sy'n mynd rhagddo ar draws y GIG ar anemia dinistriol. Mae'n un o'r prif feysydd blaenoriaeth a phrif flaenoriaeth y grŵp trosolwg cenedlaethol iechyd gwaed, sy'n goruchwylio cynllun iechyd gwaed y GIG.
Hoffwn ofyn am ddatganiad ac amser gan y Llywodraeth i gwestiynu cynigion y Llywodraeth fel y cânt eu nodi yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft. Cyhoeddwyd y cynigion, wrth gwrs, yn ystod mis Awst, pan oedd Aelodau'r Cynulliad ar eu toriad haf ac nid oeddent yn gallu gofyn cwestiynau ar y pryd. Rwy'n gwerthfawrogi bod y Gweinidog wedi hwyluso digwyddiad galw heibio i ACau yr wythnos diwethaf, ac roeddwn yn bresennol yno, ac rwy'n cyfarfod â'r Gweinidog ar wahân i drafod y mater. Ond mae nifer o ACau sy'n cynrychioli etholaethau lle y byddai effaith sylweddol ar y meysydd hynny o ran cynigion fel y'n nodir yn adran ynni'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Cafwyd llawer o sôn am ddemocratiaeth yn gynharach heddiw.
Daeth miloedd o'm hetholwyr i'r Cynulliad hwn yn ôl yn 2011 i gynnig bod Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar ganllawiau nodyn cyngor technegol 8 a oedd yn gweld ardaloedd o Gymru yn canolbwyntio'n fawr iawn ar ddatblygiadau gwynt ar raddfa fawr yn yr ardaloedd hynny. Mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn gwneud yr un peth yn union, heblaw ei fod yn mynd ymhellach eto i dderbyn newid mewn tirwedd. Mae miloedd o fusnesau twristiaeth yn ddibynnol ar dirweddau'r Canolbarth ac mae miloedd o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector hwnnw. Mae hwn yn fater pwysig y dylid ei drafod mewn gwirionedd yn y Siambr hon, a gobeithiaf y bydd y Llywodraeth yn rhoi amser i wneud hynny.
Diolch, Russell George, am godi mater y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol y prynhawn yma. Gwn fod y Gweinidog Llywodraeth Leol yn awyddus iawn i glywed cynifer o leisiau ag y bo modd, a chael cymaint o ymgysylltu â phosibl ar y mater hwn.
Drafft yw'r fframwaith ar hyn o bryd—ymgynghorir arno tan 20 Tachwedd—ond mae'r Gweinidog wedi nodi y byddai'n fodlon cyfarfod ag Aelodau Cynulliad unigol os oes ganddynt ddiddordeb penodol yn hyn, neu er mwyn hwyluso cyfle pellach i friffio gyda swyddogion a'r cyfle i gael trafodaethau yno.
Trefnydd, dros y penwythnos, cefais y pleser o ymweld â Gŵyl Fwyd y Fenni, sydd bellach yn ei unfed flwyddyn ar hugain. Mae'r ŵyl yn parhau i fynd o nerth i nerth, gyda chwmnïau lleol fel cwmni Arlwyo Sugarloaf yn chwarae rhan allweddol, yn ogystal â chwmnïau o fannau eraill hefyd.
Cymerais ran hefyd yng ngorymdaith Love Zimbabwe i Affrica, ynghyd â'r maer, Tony Konieczny, ac eraill, sy'n dangos amrywiaeth a chyrhaeddiad yr ŵyl. A oes modd cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru, efallai datganiad, am gefnogaeth i wyliau bwyd fel rhannau gwerthfawr o'r economi leol, ond hefyd fel dull o gyfleu neges Cymru allan yno ar y llwyfan byd-eang a chysylltu â gwledydd ar draws y byd?
Gan droi at adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach, a grybwyllwyd gan arweinydd yr wrthblaid yn ei gwestiynau i'r Prif Weinidog yn gynharach, mae'r adroddiad hwnnw'n tynnu sylw at yr angen i fynd i'r afael â phroblemau seilwaith lleol i helpu busnesau bychain. Mae'n ddigon posibl bod yna eisoes ddatganiad, cyhoeddiad polisi, ar y gweill gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i'r adroddiad hwnnw. Tybed a a oes modd inni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cysylltu â busnesau lleol ledled Cymru i gael eu barn ar sut y gellid blaenoriaethu materion seilwaith yn lleol er mwyn helpu i wella economïau lleol.
Ac yn drydydd ac yn olaf, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi datgan argyfwng hinsawdd, yr ydym wedi clywed llawer amdano yn y Siambr hon. Mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi bod yn dilyn eu hesiampl. Wrth gwrs, mae angen gweithredu, nid dim ond geiriau'n unig. Felly, tybed pa gefnogaeth ac anogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r awdurdodau lleol a'r sefydliadau hynny sydd y tu hwnt i'r Siambr hon sy'n ceisio gwneud eu rhan i geisio atal cynnydd mewn tymheredd byd-eang yn y dyfodol. Beth yr ydych yn ei wneud i'w cefnogi? Felly, efallai y gallem gael datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd am y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod gweithredu'n digwydd ar lawr gwlad ac nid dim ond geiriau a fwriedir yn dda, ond sy'n ddim mwy na geiriau wedi'r cyfan.
Diolch yn fawr iawn, Nick Ramsay, a diolch ichi am dynnu sylw at bwysigrwydd gwyliau bwyd i gymunedau ac i fusnesau bach, yn enwedig, rwy'n credu, o fewn ein sector bwyd ar draws Cymru. Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cefnogaeth i'r diwydiant bwyd, ond gyda golwg arbennig ar fynd i'r afael â'r diddordeb mewn dathlu cynnyrch lleol drwy wyliau neu waith arall hefyd.FootnoteLink
O ran seilwaith lleol, gwn fod gan Weinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ill dau ddiddordeb cryf o ran sut y gallwn ymgysylltu orau â busnesau bach. Mae'r gwaith yr ydym yn ei wneud ar yr economi sylfaenol, er enghraifft, yn seiliedig mewn gwirionedd ar weithio gyda busnesau ar lawr gwlad o fewn economïau lleol, ond byddaf yn gofyn iddynt archwilio a oes mwy y gallwn fod yn ei wneud yn y maes penodol hwnnw.
Ac, ar argyfwng yr hinsawdd, pan gyhoeddodd y Gweinidog yr argyfwng yn yr hinsawdd, dywedodd ei bod am iddo fod yn gatalydd ar gyfer gweithredu, felly nid dim ond yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud—gallwn wneud llawer—ond ni allwn byth fynd i'r afael ag argyfwng hinsawdd ar ein pennau ein hunain. Ac roedd a wnelo â rhoi ysbrydoliaeth i gynghorau lleol, cynghorau cymuned, cynghorau tref ac yn y blaen i fod yn gwneud yn yr un modd mewn cymunedau, ond hefyd i ysbrydoli unigolion i ymchwilio i'r hyn y gallem ni fod yn ei wneud yn wahanol yn ein bywydau ni yng nghyd-destun argyfwng yr hinsawdd. Rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth sy'n wirioneddol ar feddwl yr holl gydweithwyr ar hyn o bryd o ran sut y gallwn sicrhau bod y polisïau yr ydym i gyd yn eu dilyn yn rhoi ystyriaeth i'r argyfwng hinsawdd. Ond byddaf yn ystyried gyda chydweithwyr y modd gorau i gael y trafodaethau hynny gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y math o arweiniad yr ydym am ei ddarparu'n cael ei brofi ar y lefel leol honno.
Yn olaf, Andrew R.T. Davies.
Diolch ichi, Llywydd. Trefnydd, a oes modd i mi ofyn am ddau ddatganiad, os yw'n bosibl, os gwelwch yn dda—yr un cyntaf mewn cysylltiad â'r dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddoe gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol, rwy'n credu, Andrew Slade, o adran economi Llywodraeth Cymru, o ran maes awyr Caerdydd? Soniodd am ddau fater pwysig iawn. Un ohonynt yw y byddai, yn sicr ar gyfer y dyfodol, yn dibynnu ar gyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru oni bai fod rhai penderfyniadau polisi difrifol yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru i newid y ffordd y mae'r maes awyr yn cael ei gefnogi. Ac yn ail, tynnodd sylw at y ffaith fod trafodaethau'n digwydd i sicrhau bod mwy o fenthyciadau ar gael i'r maes awyr i barhau i'w ddatblygu. Nid oes neb yn gwadu'r gallu i fuddsoddi i greu mynediad newydd i'r farchnad ryngwladol—rydym i gyd yn cefnogi hynny— ond o ystyried bod mwy na £100 miliwn wedi mynd i faes awyr Caerdydd—y pris prynu a'r benthyciadau hyd yn hyn—credaf ei fod yn haeddu datganiad gan y Gweinidog ynghylch pa mor ddatblygedig yw'r trafodaethau hyn, yn gyntaf ynghylch sicrhau bod arian ychwanegol ar gael i'r maes awyr ac ar gyfer beth fyddai'r arian hwnnw, ac yn ail, beth fydd safbwynt polisi blaengar Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â chefnogi'r maes awyr yn y dyfodol, o gofio bod pob argoel yn y dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddoe wedi nodi y bydd yn rhaid i symiau sylweddol o arian barhau i fod ar gael i'r maes awyr? Nid yw'n ddigon da ein bod ni, fel Aelodau, wrth geisio'r wybodaeth honno, yn cael clywed, 'Gwybodaeth maes awyr Caerdydd yw hon; byddant yn sicrhau ei bod ar gael i chi', ac yna byddent yn cyfeirio at sensitifrwydd masnachol, cyfrinachedd masnachol. Nid yw hynny'n ddigon da, mae arnaf ofn, felly byddwn yn croesawu datganiad gan y Gweinidog.
Yr ail fater, a oes modd cael datganiad ynglŷn ag unrhyw waith gan y Llywodraeth sy'n cael ei wneud gan yr adran addysg. Gwerthfawrogaf y cyhoeddiad yn Brighton am ysgolion annibynnol, a gallwn ddadlau a dadlau ynghylch teilyngdod neu beidio, fel y bo'r achos, o ysgolion annibynnol, ond mae nifer sylweddol o ysgolion annibynnol yn fy rhanbarth i, sef Ysgol Howell, er enghraifft, Coleg Sant Ioan, ysgol Westbourne, ysgol Kings Monkton— gallwn fynd ymlaen— a ledled Cymru, mae gennych Goleg Llanymddyfri, Coleg Crist, Ysgol St Michael ac Ysgol Trefynwy, er enghraifft, a phan fydd y Llywodraeth, pe bai'n Llywodraeth Lafur—Duw a'n gwaredo—yn ceisio cymryd rheolaeth dros asedau'r sefydliadau unigol hynny, mae hynny'n fater o bryder mawr. Nawr, rwyf wedi dweud nad wyf yn sôn am rinweddau ysgolion annibynnol, nid dyna sydd dan sylw; mae hyn yn ymwneud â safbwynt polisi Llywodraeth Cymru, yn enwedig pan fydd gennych gyflogwyr sylweddol mewn economïau lleol fel yr wyf newydd grybwyll nawr, a hefyd gyfleoedd cyflogaeth sydd, yn y bôn, drwy un polisi a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU— petai Llywodraeth Lafur—yn gallu dileu'r busnesau hynny. Mae'n bwysig deall pa swyddogaeth sydd gan Lywodraeth Cymru yn hyn o beth, os o gwbl. Oherwydd, er fy mod yn sylweddoli bod polisi addysg wedi'i ddatganoli, mae'r gyfraith ynghylch elusennau a pherchnogaeth a pherchnogaeth tir yn fwy cyffredinol yn fater a gadwyd yn ôl ar gyfer San Steffan ac mae'r rhain yn oblygiadau pwysig y mae angen gweithio drwyddynt.
O ran y mater cyntaf ynghylch Maes Awyr Caerdydd ac unrhyw gymorth posibl yn y dyfodol y byddai ei angen ar y maes awyr gan Lywodraeth Cymru, credaf, yn y lle cyntaf, y dylem adael i'r PAC wneud ei waith ac yna bydd PAC yn amlwg yn adrodd yn ôl a bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i hynny . Ond rwy'n siŵr y bydd digon o gyfleoedd i drafod cefnogaeth i'r maes awyr yn y dyfodol gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.
Fel y dywedwch, o ran yr ail bwynt, yn sicr mae polisi addysg wedi'i ddatganoli i raddau helaeth iawn i Gymru, felly mae ein dull ni o weithredu, yn benodol o ran ysgolion annibynnol yn y tymor byr, o ran yr hyn y gallwn fod yn ei wneud yma yng Nghymru, yn edrych yn bendant ar eu rhyddhad ardrethi elusennol. Felly, byddwch yn ymwybodol fy mod wedi ymrwymo i ymgynghori ar gael gwared ar y rhyddhad ardrethi elusennol i ysgolion annibynnol er mwyn sicrhau eu bod yn gyson ag ysgolion eraill ledled Cymru, a dylem fod yn gallu cyflwyno'r ymgynghoriad hwnnw o fewn y 12 mis nesaf. Ond dyna pa mor bell y mae'r gwaith yn y maes penodol hwnnw wedi cyrraedd ar hyn o bryd.
Ac yn olaf, Mark Isherwood.
Diolch, Llywydd. A gaf i alw am ddatganiad ar yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig yn gyntaf? Mewn ymateb i Bethan Sayed, fe wnaethoch gyfeirio at ddatganiad gan y Gweinidog ym mis Awst. Ond cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y gallai pobl â ffibrosis systig gael mynediad i Orkambi a Symkevi fel rhan o gytundeb pum mlynedd gyda Vertex ar 12 Medi. Felly, mae pethau wedi symud ymlaen ac yn y cyd-destun hwnnw mae'r Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig wedi datgan ei bod yn ymddangos bod trafodaethau rhagarweiniol wedi'u cynnal rhwng Vertex a Chanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru gyfan gan edrych ar y posibilrwydd o wneud cyflwyniadau wythnosau a misoedd yn ôl, ond nid yw'r cyflwyniadau data i Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru gyfan wedi'u cynnal, cyn belled ag y maent yn ymwybodol. Gyda'r newyddion o'r Alban, maen nhw n dweud ei bod yn siomedig iawn nad yw'r trafodaethau hyn wedi cyrraedd y cam hwn gydag awdurdodau yng Nghymru ac maen nhw'n annog Vertex i sicrhau eu bod yn dilyn y gweithdrefnau angenrheidiol i wneud i hyn ddigwydd. Ond maent hefyd yn dweud y byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallem sicrhau y gall y Gweinidog yn y fan hon barhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar gynnydd ac edrych ar yr hyn y gall ei adran ei wneud i sicrhau bod hyn yn aros ar yr agenda ac nad yw pobl â ffibrosis systig yng Nghymru'n treulio gormod o amser heb gael gafael ar driniaethau y mae eu cymheiriaid yn yr Alban yn gallu manteisio arnynt. Felly, mae'r amserlen wedi symud ymlaen, ac yn y cyd-destun hwnnw teimlaf, ar draws y pleidiau, y byddem yn croesawu'r datganiad hwnnw.
Yn ail, ac yn olaf, galwaf am ddatganiad ar y llinell gymorth caethwasiaeth fodern. Ar 7 Mai, gwnaeth Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r prif chwip, ddatganiad ar y llinell gymorth caethwasiaeth fodern, a gynhaliwyd gan Unseen. Fel y dywedodd, mae Unseen
'yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys y DU a'r llywodraethau datganoledig... yn gweithio i feithrin gwell dealltwriaeth o sut mae caethwasiaeth fodern yn effeithio ar ein cymunedau a'n pobl fel bod modd cymryd camau effeithiol ac amserol i fynd i'r afael â'r broblem.'
A dywedodd:
'Mae grŵp arweinyddiaeth gwrth-gaethwasiaeth Cymru yn gweithio'n agos gydag Unseen i helpu i hyrwyddo'r llinell gymorth, sy'n ceisio cynyddu lefelau adrodd ac wedyn yn arwain at nodi mwy o ddioddefwyr, eu hachub, a lle bo modd erlyn troseddwyr. '
Fodd bynnag, mynegwyd pryderon difrifol wrthyf am y sefydliad, Unseen, a'r llinell gymorth. Er iddo dderbyn £2 filiwn mewn dwy flynedd, mae'n ymddangos, heb gael cyllid ar frys, fod bygythiad gau'r llinell gymorth erbyn hyn. Yn wir, mae eu gwefan— rwyf wedi gwirio hyn y bore yma—yn dweud:
'ACHUBWCH LINELL GYMORTH CAETHWASIAETH FODERN Y DU. Heb gyllid brys bydd yn cau ar 30ain Tachwedd'.
A hefyd, ddoe, yn y North Wales Chronicle, darllenwn fod y sefydliad masnachu mewn pobl wedi gweld cynnydd yn y nifer o ddioddefwyr posibl, gan gynnwys 70 o ddioddefwyr posibl a gofnodwyd gan Heddlu Gogledd Cymru yn y 12 mis hyd at fis Mehefin—dyna gynnydd sylweddol ar y 12 mis blaenorol. Ond mae hi wedi rhybuddio—neu maen nhw wedi rhybuddio—bod cyfran y bobl sy'n mynd i mewn i'r mecanwaith atgyfeirio cenedlaethol, ac sydd wedyn yn cael eu cydnabod fel rhai sydd wedi cael eu masnachu, wedi aros yn ei unfan. Dim ond tua 7 y cant o'r achosion yr ymchwiliwyd iddynt sy'n mynd ymlaen i Wasanaeth Erlyn y Goron, dim ond tua 1 y cant gaiff iawndal, a dywed, efallai yn fwyaf dychrynllyd, nad oes gan y Llywodraeth, y ddwy Lywodraeth, mae'n debyg, yng nghyd-destun datganiad y Gweinidog yn y gorffennol, ddim syniad beth sy'n digwydd i'r miloedd o ddioddefwyr pan fyddant yn gadael y mecanwaith atgyfeirio cenedlaethol. Mae hwn yn amryfusedd dychrynllyd.
Unwaith eto, galwaf am ddatganiad brys yn y cyd-destun hwnnw, lle mae'r llinell gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu ati, ac yn dibynnu arni, ar fin cau.
Diolch. I'ch sicrhau chi bod y Gweinidog Iechyd yn eiddgar i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r holl Aelodau am faterion sy'n ymwneud â'r meddyginiaethau sydd ar gael ar gyfer trin ffibrosis systig, yn dilyn y datganiad a wnaeth ef y mis diwethaf, ac i fod yn glir unwaith eto ein bod ni'n annog Vertex Pharmaceuticals yn daer i ymgysylltu â phroses arfarnu Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan a gwneud y cyflwyniad hwnnw ar fyrder. Ond, cyn gynted ag y bydd rhagor i'w adrodd am hynny, rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Iechyd yn awyddus iawn i wneud hynny.
Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi clywed yr hyn a ddywedasoch am eich pryderon o ran llinell gymorth caethwasiaeth fodern, ac fe fydd hi'n siŵr o fynd ar ôl yr hyn yr ydych chi wedi ei ddweud.FootnoteLink
Diolch i'r Trefnydd.