Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 24 Medi 2019.
Siŵr iawn. Gan weithio tua'n ôl ar hynny, o ran camau, yr hyn yr ydym yn awyddus iawn i'w wneud yw sicrhau bod y dadansoddiad dros y tair blynedd, wrth inni fwrw ymlaen, yn cael ei fwydo'n ôl i'r rhaglen ac i'r brif ffrwd. Felly, fel y dywedais i'n gynharach, pan welwn ni fod rhywbeth wedi cael ei adeiladu, mae rhywun yn byw ynddo, ac mae wedi sefyll y prawf hwnnw, ac felly mae wedi cyflawni'r hyn y bwriadwyd ar ei gyfer—felly, er enghraifft, mae'n wirioneddol niwtral o ran carbon, mae'n golygu biliau ynni sy'n wirioneddol is i bobl, ac maen nhw'n mwynhau byw yno, rydym ni'n cael adborth gan y tenantiaid sy'n mynd i mewn—. Mae rhywfaint o'r dechnoleg yn arloesol iawn. Felly, gofynnwyd i denantiaid tai cymdeithasol sy'n mynd i mewn i'r rhaglenni hyn wirfoddoli a chael rhywfaint o hyfforddiant ar sut i ddefnyddio'r pwmp gwres ffynhonnell aer ac yn y blaen. Nid ddaw hyn trwy reddf; mae'n rhaid ichi ddysgu sut i ddefnyddio'r dechnoleg ac rydym ni'n cael adborth o ran y ffordd y maen nhw wedi canfod hynny.
Pan lwyddwyd i gael yr wybodaeth honno'n gyflym, ac felly y bu hi gyda rhai cynlluniau, rydym wedi bwydo'r wybodaeth honno i mewn. A dyna'r hyn yr oeddwn i'n ei ddweud am annog pobl i ddod ymlaen ar gyfer uwchraddio'r hyn y gwnaethom ni eisoes a sicrhau ei fod yn gweithio ar raddfeydd mwy. Ac mae yna rai safleoedd gwych ar hyd y lle y mae pobl yn falch iawn i'ch tywys o gwmpas a dangos ichi sut mae pethau'n gweithio. Felly, rydym ni'n awyddus iawn i gael y model prawf-ac-adborth hwnnw, ac yna ei fwydo i mewn i'n model grant tai cymdeithasol ni. Ac wrth iddyn nhw gyflwyno cynllun o'r fath, rydym ninnau'n awyddus iawn i'w ariannu drwy'r cyllid prif ffrwd arferol ac nid drwy gyllid y cynllun ffrwd arloesedd. Felly, dyna'r peth cyntaf.
O ran y sector preifat, mae bron hanner y ceisiadau—23 o'r 52 o geisiadau a fu'n llwyddiannus—yn rhai sector preifat. Felly, mae hyn ledled y sectorau i gyd. Yr hyn yr ydym ni'n golygu ei wneud yw datblygu safleoedd o ddeiliadaeth gymysg, oherwydd gwyddom fod safleoedd mewn deiliadaeth unigol o unrhyw fath—y rhai sy'n berchen-feddiannaeth yn unig neu'n dai cymdeithasol yn unig neu unrhyw 'yn unig' arall—nid ydyn nhw'n gweithio. Rydym ni'n dymuno cael stadau o ddeiliadaeth gymysg. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw annog awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i ddefnyddio eu tir i hwyluso'r mathau hyn o ddatblygiadau. Roedd 'Polisi Cynllunio Cymru' yn ei fersiwn ddiwethaf, yr oedd fy nghydweithwraig Lesley Griffiths yn gyfrifol amdano ychydig cyn inni newid swyddi, a'r fframwaith datblygu cenedlaethol newydd yn sail i hynny hefyd. Ac rydym yn annog cynghorau i drafod gyda phobl sy'n cyflwyno tir preifat o fewn y cynllun datblygu lleol i sicrhau bod yna ddeiliadaeth gymysg hefyd. Felly, fe gewch chi'r sgwrs o hyd o ran nifer y tai fforddiadwy y gallai datblygwr preifat eu cyflwyno, ond rydym yn annog y sector cyhoeddus i ddod gerbron a dweud, 'A oes ffordd arall o edrych ar yr amlen gyllid ar gyfer hyn fel y gallwn ni ysgogi cyfradd wahanol o ddeiliadaeth gymysg?'
Ac yna'r peth olaf yw, ac ni allaf bwysleisio hyn ddigon—fe ddywedais i'n glir yn fy natganiad—na ddylech chi allu dweud o sefyll y tu allan i dŷ beth yw ffurf y ddeiliadaeth. Felly, maen nhw i gyd yn edrych yr un fath, pawb yn byw gyda'i gilydd mewn cymuned gymysg, mewn llecyn ac nid ar ystâd. Ac ni ellir gorbwysleisio hynny. Dyna pam mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn bwysig hefyd, oherwydd bod hynny'n gofyn am gynllunio'r seilwaith ymlaen llaw, fel ein bod yn gwybod ymhle mae'r ysgolion a'r meddygon teulu, a gwybod ymhle mae'r gwaith, gwybod ymhle mae llwybrau'r drafnidiaeth gyhoeddus, a gwybod bod yna lwybrau beicio a cherdded i'r ysgol a phopeth o'r fath. Felly, rydym yn datblygu safleoedd enghreifftiol o amgylch Cymru. Ymwelais ag un yng Nghasnewydd yr wythnos diwethaf, ac yna rydym yn mynd â phobl eraill yno a dweud wrthyn nhw, 'Edrychwch, dyma beth allwch chi ei wneud gyda'r mathau hyn o ffrydiau ariannu', er mwyn ei brif ffrydio.