3. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Rhaglen Tai Arloesol — Blwyddyn 3

– Senedd Cymru am 3:28 pm ar 24 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:28, 24 Medi 2019

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y rhaglen tai arloesol yn ei thrydedd blwyddyn, a dwi'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud ei datganiad—Julie James.

Photo of Julie James Julie James Labour 3:29, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o allu briffio'r Aelodau ar drydedd flwyddyn y rhaglen tai arloesol. Ni allwn anwybyddu maint yr heriau sy'n ein hwynebu ni o ran tai. Nid ydym yn adeiladu digon o gartrefi, rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd y mae'n rhaid i ni weithredu ynglŷn ag ef, mae ein poblogaeth yn heneiddio, ac mae sgiliau traddodiadol adeiladu tai yn prinhau. Mae'r rhaglen tai arloesol yn nodi ac yn arbrofi datrysiadau i'r problemau hyn. Mae'n ysgogi'r gwaith o gynllunio a darparu cartrefi newydd, fforddiadwy o ansawdd uchel drwy fodelau newydd ym maes tai, llwybrau cyflenwi newydd a thechnegau adeiladu newydd.

Mae Cymru ar flaen y gad o ran arloesi ym maes tai, creadigrwydd a meddylfryd newydd. Sut wyf i'n gwybod hyn? Yn gyntaf, mae'r rhaglen wedi gweld gordanysgrifio enfawr. Mae hon yn drydedd flwyddyn sy'n torri record, gyda 52 o geisiadau i'r rhaglen gan gymysgedd o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat. Rwyf wedi cael ceisiadau yn ystod y flwyddyn hon sy'n gwneud swm o dros £230,000,000.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Photo of Julie James Julie James Labour 3:30, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Yn ail, mae ansawdd y ceisiadau wedi bod yn drawiadol. Mae dewis pa gynlluniau i'w hargymell ar gyfer cyllid wedi peri cryn benbleth i'r panel annibynnol. Ac o'r diwedd, rwyf wedi cyfarfod â llawer o sefydliadau ledled Cymru ers imi lansio rhaglen y flwyddyn hon ym mis Chwefror, y mae pob un ohonyn nhw'n awyddus i gymryd rhan yn y rhaglen tai arloesol. Trawiadol iawn yn fy ngolwg i oedd eu medrau nhw, eu brwdfrydedd a'u mentergarwch pur i geisio gweithio gyda ni i weld pa fath o gartrefi y gallem ni ac y dylem ni fod yn eu codi. Yn wir, mae cymuned y rhaglen tai arloesol wedi tyfu eleni i gynnwys dros 300 o fusnesau. Mae digwyddiadau rhaglen tai arloesol rheolaidd wedi cael eu cynnal ledled Cymru i daenu'r hyn a gafodd ei ddysgu yn sgil blynyddoedd blaenorol y rhaglen. Bu'r digwyddiadau hyn yn boblogaidd tu hwnt, gan annog trafodaethau ysgogol a syniadau ffres, yn ogystal â grymuso ac ehangu rhwydweithiau proffesiynol a threfniadol ymysg pobl o'r un anian ar gyfer dod at ei gilydd i ystyried yr hyn sy'n bosibl.

Mae cydweithrediad yn allweddol. Ni all sefydliad unigol ddatrys pob un o'r materion yr ydym ni'n eu hwynebu ar ei ben ei hun. Felly, mae meithrin cymuned y rhaglen tai arloesol wedi bod yn flaenoriaeth y flwyddyn hon, ac rwy'n falch iawn o weld y cydweithio sy'n dod i'r amlwg. Mae enghreifftiau yn cynnwys cyfuno adnoddau sefydliadol i ddiddymu tlodi tanwydd, adeiladu cartrefi di-garbon, ac arbrofi o ran dulliau newydd o adeiladu cartrefi, y gellir eu hôl-osod wedyn ar rai sy'n bodoli eisoes. Mae swm ac ansawdd y ceisiadau yn dangos bod pobl yn hysbys bod Cymru yn agored i fusnes, a bod y Llywodraeth hon yn croesawu sefydliadau blaengar sydd yn awyddus i helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu ni fel cenedl o ran tai. Mae'r Llywodraeth yn awyddus i weithio gyda'r rhain yn y farchnad a'r sectorau fforddiadwy i ddarparu'r cartrefi sydd eu hangen arnom ni. Rwy'n dymuno gweld tai yn cael eu hadeiladu yng Nghymru gan ddefnyddio'r dulliau newydd hyn, ac rwyf hefyd yn dymuno gweld y cadwyni cyflenwi a'r swyddi newydd sy'n dod yn sgil y dulliau newydd hyn yn cael eu creu yng Nghymru.

Ac wrth gwrs, Llywydd dros dro, fe ddylwn i ddiolch i'm rhagflaenwyr, sef Rebecca Evans a Carl Sargeant. Roedd ganddyn nhw'r dewrder i greu'r rhaglen tai arloesol ar gyfer chwilio am ddulliau newydd o adeiladu tai fforddiadwy yng Nghymru. Mae ariannu arloesedd, yn ei hanfod, yn golygu risg. Roedd ganddyn nhw'r weledigaeth i gydnabod, er na fyddai pob cynllun a gafodd ei ariannu yn golygu datrysiad i'r dyfodol, mai dim ond trwy groesawu ac annog y sector i feddwl yn greadigol y byddem ni'n dod o hyd i ddulliau newydd graddadwy.

Yn y drydedd flwyddyn hon, roeddwn i'n awyddus i wthio'r rhaglen ymhellach a gosod y safon yn uwch byth. Rwy'n dymuno gweld mwy o gartrefi fforddiadwy yn fwy cyflym. Felly, fe roddais i her i'r sector i gyflwyno cynlluniau a oedd yn uwchraddio'r cynlluniau profi yr oedd y Llywodraeth hon wedi buddsoddi ynddyn nhw yn y gorffennol. Fe ofynnais i am gynlluniau ar raddfa eang, ac mae'r sector wedi dod i'r adwy. Bydd maint cyfartalog y cynlluniau a ariennir yn treblu rhwng ail a thrydedd flwyddyn y rhaglen. Fe heriais i'r sector i roi cartrefi sydd bron yn ddi-garbon i mi, ac unwaith eto, maen nhw wedi ymateb yn rhagorol gyda nifer o gynlluniau sy'n ennill Tystysgrif Perfformiad Ynni lefel A o leiaf. Yn olaf, fe heriais i'r sector i gyflwyno cartrefi sydd wedi'u dylunio'n hyfryd, i helpu i greu cynefin hyfryd. Unwaith eto, maen nhw wedi cwrdd â'r her hon. Mae gan y rhaglen hon ddyluniadau hyfryd, ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â nhw pan fydd y cynlluniau wedi cael eu trawsnewid yn frics a morter, neu, yn gynyddol gyffredin, yn ddeunyddiau a dulliau adeiladu newydd sy'n gwireddu'r cynlluniau.

Mae rhaglen tai arloesol wedi buddsoddi erbyn hyn mewn 55 o gynlluniau i adeiladu tai cymdeithasol a chartrefi fforddiadwy. Mae'r cynlluniau a gyhoeddais heddiw yn golygu bod £33 miliwn arall o gyllid yn cael ei fuddsoddi, sy'n golygu y bydd gwaith yn dechrau ar 600 o gartrefi newydd y flwyddyn hon—cartrefi newydd y mae angen dirfawr amdanyn nhw, i'r rheini sydd â'r angen mwyaf. Rwy'n falch iawn hefyd o weld cynlluniau yn cael eu cyflwyno o 19 ardal awdurdod lleol unigol ledled Cymru. Mae hyn yn dangos bod mwy o barodrwydd ac awydd i newid yn y sector yn y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru.

Rwy'n ymwybodol bob amser, er bod adeiladu mwy o gartrefi yn hanfodol, mai'r hyn sy'n bwysig yw'r dull o'u hadeiladu nhw. Nid mater o rifyddeg yn unig mo hyn. Mae'r rhaglen hon wedi ymrwymo i gefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghymru, diwydiant pren Cymru, cadwyni cyflenwi lleol a ffynonellau o lafur lleol. Drwy'r buddsoddiad hwn, ein nod ni yw adeiladu cartrefi y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn diolch o galon inni amdanyn nhw. Gyda golwg yn gadarn ar y dyfodol y mae'r ceisiadau i'r rhaglen tai arloesol yn cael eu llunio yn ôl ymrwymiadau i lesiant cenedlaethau'r dyfodol. Bydd rhestr lawn o gynigwyr llwyddiannus yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir, ond fe roddaf ragflas ichi o'r rhai y byddaf i'n eu cefnogi wrth fwrw ymlaen.

Bydd Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn cael ei hariannu i adeiladu 76 o gartrefi yn Rhuthun yn y Gogledd. Gallai'r rhain fod y cyntaf yn y DU i ddarparu carbon net sero oes gyfan, gydag ynni adnewyddadwy yn gwrthbwyso effaith carbon y cynhyrchu a'r adeiladu. Bydd gan gartrefi bympiau gwres ffynhonnell aer, pŵer solar a batris deallus, ac fe amcangyfrifir y bydd costau gwresogi a goleuo yn llai na £80 y flwyddyn i'r deiliaid. Fe fyddaf i'n ariannu dau safle a ddatblygir gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy yng Nghas-gwent i lunio 17 eiddo ar gyfer pobl sy'n symud i gartrefi llai a phreswylwyr am y tro cyntaf y gallai eu teuluoedd nhw ehangu. Bydd gan y cartrefi gyfleoedd fel rhan o'u dyluniad i ychwanegu ystafell wely arall i greu hyblygrwydd gydol oes, fel y gall cartrefi dyfu ac addasu i bobl yn heneiddio a phoblogaethau sy'n newid. Rwy'n teimlo'n llawn cyffro ynghylch cynllun Cartrefi Conwy i ddarparu 32 o gartrefi di-garbon mewn dau safle gan ddefnyddio dull adeiladu Beattie Passive gyda'r tai fframiau pren yn cael eu hadeiladu oddi ar y safle. Mae'r cynllun hefyd yn dangos normaleiddio'r arloesedd a gefnogwyd yn flaenorol, i lefel na fydd angen cefnogaeth y rhaglen tai arloesol mewn cyfnod byr o amser. Nid wyf i'n credu y dylai deiliadaeth eiddo fod yn amlwg o'r tu allan i'r cartref, ac nid wyf i'n gweld unrhyw reswm pam na ddylai cymunedau fod yn wirioneddol gymysg. Rwy'n falch o ariannu Cyngor Caerdydd, yn ogystal â Sero Homes, i adeiladu 214 o gartrefi carbon isel, cymysgedd o dai cyngor a chartrefi i'w gwerthu ar y farchnad agored yn Nhredelerch—pob un wedi cael ei ddylunio yn hyfryd, wrth gwrs.

Yn ogystal â chyllid cyfalaf, rwyf wedi neilltuo swm bychan o gyllid refeniw. Mae Yellow Sub Geo yn cynnig datblygu offeryn sgrinio dichonoldeb. Bydd hyn yn nodi ac yn blaenoriaethu'r potensial i ddefnyddio ffynonellau ynni a gwres carbon isel drwy'r holl amrywiaeth yn y dirwedd, y tywydd, y ddaeareg a'r hydroddaeareg sydd yng Nghymru. Bydd y dull hwn yn galluogi defnyddwyr i wneud penderfyniadau mwy hyddysg ynghylch defnyddio a phenderfynu ar ddewisiadau ynni carbon isel a gwres sydd ar gael mewn ardal arbennig. Bydd hwn yn offeryn sgrinio digidol, y gellir ei ddefnyddio drwy ryngwyneb defnyddiwr gwe, a fydd yn ffynhonnell agored ac yn rhad ac am ddim i'r defnyddwyr. Caiff ei gynnal gan endid nid-er-elw, sy'n golygu mai ei brif bwrpas yw ennyn newid cymdeithasol ac amgylcheddol.

Creu cymunedau sy'n wirioneddol gymysg yw'r her i ni, gyda rhagor o gartrefi sy'n wirioneddol fforddiadwy. Ac mae angen gweithredu nawr os ydym eisiau ymdrin â'r hinsawdd a'r newidiadau yn y ddemograffeg sydd gyda ni eisoes. Mae'r drydedd flwyddyn hon o'r rhaglen tai arloesol yn dangos bod atebion i lawer o'r heriau hyn ar gael ar hyn o bryd. At hynny, mae'r ymateb hynod gadarnhaol i'r rhaglen gan gymdeithasau tai, awdurdodau lleol a busnesau bach a chanolig preifat yn dangos nad fi yw'r unig un sy'n barod i wneud pethau yn wahanol—nid wyf ar ben fy hun o ran bod yn barod i gymryd mwy o risgiau, a bod â'r ewyllys a'r uchelgais i adeiladu mwy ac adeiladu'n well. I'r perwyl hwn, rwyf wedi gofyn i swyddogion ailedrych ar y ceisiadau ar gyfer y rhaglen tai arloesol y flwyddyn hon, a gweithio ar draws portffolios Gweinidogol, i weld pa gymorth y gellir ei roi i geisiadau na chafodd gyllid gan y rhaglen tai arloesol y tro hwn, ond a fyddai'n gallu helpu'r Llywodraeth hon i gyflawni ein blaenoriaethau tai.

Rwy'n bwriadu bod y cartrefi a gaiff eu hadeiladu yn sgil y rhaglen tai arloesol heddiw yn dod yn gartrefi arferol ar gyfer y rhai sy'n derbyn grant tai cymdeithasol, a ffynonellau eraill o gyllid gan y Llywodraeth, yn y dyfodol. Bydd y rhai y gellid eu hystyried yn ddulliau gwreiddiol ar hyn o bryd yn cael eu hystyried yn brif ffrwd. Byddwch yn dawel eich meddwl: bydd buddsoddi'r £33 miliwn hwn heddiw yn helpu i fwrw ymlaen â chartrefi o ansawdd uchel yn y dyfodol a'u prif ffrydio. Diolch.

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:36, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Ers dechrau'r rhaglen hon, dair blynedd yn ôl, rwyf wedi bod yn awyddus i'w chymeradwyo; mae hwn yn ddull da o weithredu, yn fy marn i. Rwy'n credu ein bod ni'n nesáu at yr amser pan fydd eisiau inni asesu rhywfaint ar y prosiectau hynny sydd wedi cael cymorth hyd yn hyn, yn benodol i ystyried ymhle mae'r datblygiadau arloesol wedi cael eu normaleiddio, neu eu dwyn i'r farchnad, neu eu cynhyrchu ar raddfa fawr. Oherwydd, fel y dywedodd y Gweinidog, dyna'r amcan gwirioneddol yma. Ond, yn y datganiad, rwy'n croesawu'n arbennig y ffaith bod gormod o geisiadau—credaf fod hynny'n arwydd da iawn; ansawdd y ceisiadau; mynd o gwmpas ac ymweld â gwahanol gynlluniau tai a'r hyn sy'n digwydd yn y sector—rwy'n gallu gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn; mwy o gynlluniau ar raddfa fawr; ac ansawdd y dylunio. Rwy'n falch bob amser pan fydd pobl yn defnyddio geiriau fel 'hyfryd' i ddisgrifio adeiladau, oherwydd rwy'n credu mai dyna'r hyn y mae'n rhaid i ni anelu ato.

Mae gennyf i ddau bwynt pwysig i'w gwneud, serch hynny. Rwy'n ofidus nad ydym yn moderneiddio'n ddigon cyflym o ran adeiladu modiwlar. Er bod argraffu 3D yn brin o hyd, yn sicr nid yw adeiladu modiwlar yng ngweddill—wel, mewn rhannau eraill y DU, ac yn wir i raddau helaeth yng ngweddill y byd, ac nid yw'n arbennig o newydd ychwaith. Fe ddarllenais i erthygl ddoe fod Prydain yn allforio adeiladau modiwlar i Ogledd America mor gynnar â 1624—mae'n debyg eu bod nhw'n mynd i Jamestown, ac rwyf i'n gyfarwydd iawn â'r fan honno. Ond mae'r dull hwn, rwy'n credu, wedi dangos unwaith eto ei fod o ansawdd uchel, ac yn wirioneddol ragorol o ran cyflymder y cyflenwi, dim ond o ran adeiladu tai drwy'r dull hwn o'i gymharu â dulliau traddodiadol. Mewn rhai gwledydd, dyna'r safon gyffredin erbyn hyn. Yn Sweden, mae 84 y cant o dai sengl yn defnyddio elfennau o bren a weithgynhyrchwyd; mae hynny'n cymharu â dim ond 5 y cant yn y DU. Eto i gyd, mae'r mathau hyn o adeiladau yn well i'r amgylchedd, yn rhatach, yn amlygu llawer llai o ddiffygion, ac maen nhw'n addas hefyd i'r math o harddwch yr oedd y Gweinidog yn sôn amdano, ac maen nhw'n debyg i'r rhai a welwn yn aml mewn rhaglenni teledu fel Grand Designs. Felly, rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol, wirioneddol bwysig. A hefyd, fe all y math hwn o dechnoleg dorri ar y biliau ynni, fel arfer, felly mae'n wych o beth.

Yn ail, rwy'n awyddus i weld sut y gall y rhaglen hon uno nawr—neu o leiaf gael ei defnyddio i wella sgiliau ac addysg yn y diwydiant adeiladu. Canfu un dadansoddiad diweddar y byddai dulliau mwy modern o adeiladu yn helpu i gynyddu sgiliau ac addysg yn y diwydiant adeiladu, ac yn creu mwy o swyddi sy'n gofyn am sgiliau digidol, fel delweddu 3D a thechnolegwyr pensaernïol. Yn gynharach y mis hwn, darllenais am lansiad academi dai modiwlar gyntaf y DU, yn swydd Efrog, a grëwyd i hyfforddi pobl i weithgynhyrchu cartrefi mewn ffatrïoedd, mewn ymgais i atal yr argyfwng sgiliau adeiladu a thai yr ydym yn ei weld. Ac yn arbennig felly, os edrychwn ni ar broffil oedran pobl yn y diwydiant adeiladu, mae'n rhy uchel. Rydym yn gwerthfawrogi profiad y gweithwyr hŷn, wrth gwrs, ond mae'n rhaid gwneud y gwaith yn atyniadol i'r genhedlaeth milflwyddol, a chredaf fod arloesedd ac adeiladu modiwlar yn digwydd yn aml mewn ffatri lle mae yna ddigon o le a chysur i weithio, felly mae'n ddelfrydol yn y gaeaf. Mae pawb ar eu hennill. Rwy'n wir yn credu bod hon yn rhaglen dda, ac mae'n dangos yr hyn y gallwn ei gael allan o Lywodraeth pan fydd rhywbeth yn cael ei wneud yn iawn. Ond, fel ym mhob achos, mae yna ffordd o wella gwaith sydd wedi cael ei ddechrau'n dda, ac rwy'n cynnig yr awgrymiadau hynny.  

Photo of Julie James Julie James Labour 3:40, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i chi am hynny. Rydym yn cytuno i raddau helaeth, mewn gwirionedd. Ar y pwynt ynglŷn ag adeiladu modiwlar, ni allwn i gytuno mwy â chi. Rydym yn annog pobl i feddwl am Huf Haus yn hytrach na thai parod bob amser. Er, mewn gwirionedd, mae'r tai parod y mae pobl yn aml yn eu dilorni yn ddeniadol iawn yng ngolwg rhai, yn enwedig yn fy etholaeth i. Mae pobl yn dal i fyw mewn tai parod dros dro, sy'n gysurus iawn.

Rwyf wedi gweld ffatrïoedd modiwlaidd bychan da iawn o gwmpas Cymru. Rydym yn eu cefnogi yn eu hymdrechion. Rwy'n awyddus iawn ein bod ni'n sicrhau bod y diwydiant hwn yn parhau'n addas at ddibenion Cymru gyda chadwyni cyflenwi a modelau i gyflenwi a darparu sy'n garbon isel, y cyfan o Gymru. Felly, gan hynny, rydym yn awyddus iawn i gael Cymru sy'n frith ohonyn nhw i wasanaethu'r cymunedau lle maen nhw'n adeiladu'r tai ac nid wedi cael eu canoli mewn ffatri enfawr. Rwy'n awyddus iawn bod yr adeiladwaith modiwlar, cyn belled ag y bo'n bosibl, yn niwtral o ran carbon a chyda chadwyni cyflenwi o Gymru. Felly, rwy'n hynod falch ein bod ni, yn y rhaglenni tai arloesol, wedi gallu cynnwys nifer fawr iawn o brosiectau sy'n cael eu hadeiladu o bren o Gymru, er enghraifft. Felly, mae'n sefyllfa y mae pawb yn gyfan gwbl ar eu hennill ynddi.

Rydym yn y broses o brif-ffrydio rhyw gymaint o hyn ac, fel y dywedais yn fy natganiad, rwy'n falch iawn o uwchraddio rhai o'r pethau a wnaethom yn y gorffennol. Rwy'n wirioneddol eiddgar nad cynlluniau peilot fydd y rhain ond sail ar gyfer prif-ffrydio. Felly, roeddwn i'n awyddus iawn i bwysleisio bod rhywbeth wedi mynd drwy'r Rhaglen tai arloesol a'i fod wedi cyflawni'r hyn y bwriadodd ei gyflawni, ac rydym wedi monitro hynny ac wedi gwneud yn siŵr ei fod yn cyflawni hynny, ac fe ddaw yn gymwys am grantiau tai cymdeithasol a chymorth arall gan y Llywodraeth ar gyfer ei wthio i mewn i'r brif ffrwd. Felly, ni allwn i gytuno mwy. Ac wrth wneud y pethau hyn i gyd, rydym yn dymuno edrych weithiau ar y sector cyhoeddus yn cynorthwyo'r sector preifat i uwchsgilio. Felly, mae'r sail gyhoeddus hon i'r buddsoddiad hwn yn ystyried y sgiliau angenrheidiol hefyd.

Rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth yr ydych chi'n ei ddweud am adeiladu modiwlar mewn ffatri. Does dim rhaid ichi adeiladu'n uchel, does dim rhaid ichi adeiladu mewn tywydd mawr, ar y safle y digwydd y cydosod yn unig, ac yn y blaen. Y mater arall pwysig yw ei fod yn llawer cyflymach, ac felly mewn gwirionedd mae gennym gryn argyfwng ger ein bron ac mae hyn yn golygu y gallwn ni gynyddu nifer a maint y tai yr ydym yn eu hadeiladu. Ac yna'r peth olaf i'w bwysleisio, er gwaetha'r ffaith eu bod nhw'n fodiwlar ac wedi cael eu cydosod mewn ffatri ac ati, maen nhw'n bodloni'r holl safonau dylunio yr ydym yn eu hystyried yn hyfryd. Ac er mai goddrychol yw peth fel yna, ceir rhai pethau sy'n gyffredin i'r rhan fwyaf o fodau dynol wrth ystyried yr hyn yw tŷ da, ac rydym yn gwybod beth ydyn nhw, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod y rhaglen yn darparu'r rhain hefyd. Rwy'n dweud yn syml iawn ein bod ni'n annog adeiladwyr ledled Cymru, yn y sector cyhoeddus ac yn y sector preifat, i adeiladu cartrefi y bydden nhw eu hunain yn falch ohonynt ac yn hapus i fyw ynddynt.  

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 3:43, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n galonogol gweld cynnydd mewn tai cymdeithasol yn cael ei ariannu drwy hyn. Mae gen i nifer fechan o gwestiynau i'w gofyn i chi. Tybed a wnaiff y Gweinidog amlinellu sut mae'r cynlluniau hyn yn cydblethu â datblygiadau yn y sector preifat, fel y gallwn ni osgoi creu getos. Mae'r datganiad yn awgrymu hynny, ond nid yw'n rhoi manylion ehangach, megis newidiadau i gyfraith cynllunio, er enghraifft. Felly, pryd y cawn ni fwy o fanylion am hynny? Pa wersi a ddysgwyd yn nwy flynedd gyntaf y cynllun hwn y gellir eu cymhwyso i'r dyfodol? A'r unig gwestiwn arall sydd gennyf i yw: mae rhan olaf y datganiad yn awgrymu y bydd hyn yn dod yn gwbl arferol, felly a wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau ar gyfer hynny?

Photo of Julie James Julie James Labour 3:44, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Siŵr iawn. Gan weithio tua'n ôl ar hynny, o ran camau, yr hyn yr ydym yn awyddus iawn i'w wneud yw sicrhau bod y dadansoddiad dros y tair blynedd, wrth inni fwrw ymlaen, yn cael ei fwydo'n ôl i'r rhaglen ac i'r brif ffrwd. Felly, fel y dywedais i'n gynharach, pan welwn ni fod rhywbeth wedi cael ei adeiladu, mae rhywun yn byw ynddo, ac mae wedi sefyll y prawf hwnnw, ac felly mae wedi cyflawni'r hyn y bwriadwyd ar ei gyfer—felly, er enghraifft, mae'n wirioneddol niwtral o ran carbon, mae'n golygu biliau ynni sy'n wirioneddol is i bobl, ac maen nhw'n mwynhau byw yno, rydym ni'n cael adborth gan y tenantiaid sy'n mynd i mewn—. Mae rhywfaint o'r dechnoleg yn arloesol iawn. Felly, gofynnwyd i denantiaid tai cymdeithasol sy'n mynd i mewn i'r rhaglenni hyn wirfoddoli a chael rhywfaint o hyfforddiant ar sut i ddefnyddio'r pwmp gwres ffynhonnell aer ac yn y blaen. Nid ddaw hyn trwy reddf; mae'n rhaid ichi ddysgu sut i ddefnyddio'r dechnoleg ac rydym ni'n cael adborth o ran y ffordd y maen nhw wedi canfod hynny.

Pan lwyddwyd i gael yr wybodaeth honno'n gyflym, ac felly y bu hi gyda rhai cynlluniau, rydym wedi bwydo'r wybodaeth honno i mewn. A dyna'r hyn yr oeddwn i'n ei ddweud am annog pobl i ddod ymlaen ar gyfer uwchraddio'r hyn y gwnaethom ni eisoes a sicrhau ei fod yn gweithio ar raddfeydd mwy. Ac mae yna rai safleoedd gwych ar hyd y lle y mae pobl yn falch iawn i'ch tywys o gwmpas a dangos ichi sut mae pethau'n gweithio. Felly, rydym ni'n awyddus iawn i gael y model prawf-ac-adborth hwnnw, ac yna ei fwydo i mewn i'n model grant tai cymdeithasol ni. Ac wrth iddyn nhw gyflwyno cynllun o'r fath, rydym ninnau'n awyddus iawn i'w ariannu drwy'r cyllid prif ffrwd arferol ac nid drwy gyllid y cynllun ffrwd arloesedd. Felly, dyna'r peth cyntaf.

O ran y sector preifat, mae bron hanner y ceisiadau—23 o'r 52 o geisiadau a fu'n llwyddiannus—yn rhai sector preifat. Felly, mae hyn ledled y sectorau i gyd. Yr hyn yr ydym ni'n golygu ei wneud yw datblygu safleoedd o ddeiliadaeth gymysg, oherwydd gwyddom fod safleoedd mewn deiliadaeth unigol o unrhyw fath—y rhai sy'n berchen-feddiannaeth yn unig neu'n dai cymdeithasol yn unig neu unrhyw 'yn unig' arall—nid ydyn nhw'n gweithio. Rydym ni'n dymuno cael stadau o ddeiliadaeth gymysg. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw annog awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i ddefnyddio eu tir i hwyluso'r mathau hyn o ddatblygiadau. Roedd 'Polisi Cynllunio Cymru' yn ei fersiwn ddiwethaf, yr oedd fy nghydweithwraig Lesley Griffiths yn gyfrifol amdano ychydig cyn inni newid swyddi, a'r fframwaith datblygu cenedlaethol newydd yn sail i hynny hefyd. Ac rydym yn annog cynghorau i drafod gyda phobl sy'n cyflwyno tir preifat o fewn y cynllun datblygu lleol i sicrhau bod yna ddeiliadaeth gymysg hefyd. Felly, fe gewch chi'r sgwrs o hyd o ran nifer y tai fforddiadwy y gallai datblygwr preifat eu cyflwyno, ond rydym yn annog y sector cyhoeddus i ddod gerbron a dweud, 'A oes ffordd arall o edrych ar yr amlen gyllid ar gyfer hyn fel y gallwn ni ysgogi cyfradd wahanol o ddeiliadaeth gymysg?'

Ac yna'r peth olaf yw, ac ni allaf bwysleisio hyn ddigon—fe ddywedais i'n glir yn fy natganiad—na ddylech chi allu dweud o sefyll y tu allan i dŷ beth yw ffurf y ddeiliadaeth. Felly, maen nhw i gyd yn edrych yr un fath, pawb yn byw gyda'i gilydd mewn cymuned gymysg, mewn llecyn ac nid ar ystâd. Ac ni ellir gorbwysleisio hynny. Dyna pam mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn bwysig hefyd, oherwydd bod hynny'n gofyn am gynllunio'r seilwaith ymlaen llaw, fel ein bod yn gwybod ymhle mae'r ysgolion a'r meddygon teulu, a gwybod ymhle mae'r gwaith, gwybod ymhle mae llwybrau'r drafnidiaeth gyhoeddus, a gwybod bod yna lwybrau beicio a cherdded i'r ysgol a phopeth o'r fath. Felly, rydym yn datblygu safleoedd enghreifftiol o amgylch Cymru. Ymwelais ag un yng Nghasnewydd yr wythnos diwethaf, ac yna rydym yn mynd â phobl eraill yno a dweud wrthyn nhw, 'Edrychwch, dyma beth allwch chi ei wneud gyda'r mathau hyn o ffrydiau ariannu', er mwyn ei brif ffrydio.  

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:47, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i groesawu'n fawr ddatganiad y Gweinidog? Mae'r Gweinidog wedi nodi'r pedair her allweddol: nid oes digon o adeiladu tai i ddiwallu'r angen; yr argyfwng newid hinsawdd; poblogaeth sy'n heneiddio; a dim digon o bobl wedi eu cymhwyso yn y crefftau adeiladu. Credaf ei bod yn anffodus ein bod ni mewn rhan o'r byd heddiw lle mae'r hyn yr ydym yn sôn amdano, sy'n fater allweddol, bron yn sicr yn cael ei daflu i'r cysgodion gan ddigwyddiadau eraill, er ei fod yn effeithio'n wirioneddol ar fywydau pobl a'r bobl yr wyf i'n eu cynrychioli.

A gaf i ddweud mai ansawdd yw'r peth pwysicaf, ac mae'n bwysig dysgu gwersi o hanes? Mae'r Gweinidog, fel minnau, yn cofio'r tai dur, y sment uchel alwmina, a'r adeiladau anhraddodiadol eraill nad oedden nhw'n para 25 mlynedd. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod yr ansawdd yno er mwyn i'r tai barhau.

Fe wyddom na fydd y sector preifat yn ateb y galw am dai. Pe bydden nhw'n gwneud felly, byddai'n effeithio ar brisiau tai ac elw'r cwmni, felly maen nhw'n hoffi cadw'r galw yn uchel ac ateb y galw yn rhannol yn unig i wneud yr elw mwyaf posibl. Nid beirniadaeth ohonynt yw hynny, ond dyna'r model busnes y mae adeiladu sector preifat yn y wlad hon yn ei ddefnyddio.

Mae angen mwy o dai cymdeithasol arnom ni. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi mai'r unig ffordd i ateb y galw yw i gynghorau adeiladu mwy o dai gan ddefnyddio crefftwyr lleol ar raddfa'r 1950au a'r 1960au, sef yr unig gyfnod ers yr ail ryfel byd ac un o blith ond dau yn unig yn holl hanes y wlad pan gafodd tai eu hadeiladu ar y raddfa angenrheidiol i gwrdd â'r galw amdanynt?

Ac fe hoffwn i ofyn hefyd am dai cydweithredol. Rwy'n credu bod lle i dai cydweithredol. Rydym yn wan iawn yn y wlad hon, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig, ac mae'n rhywbeth sydd, mewn sawl rhan arall o'r byd, yn gwbl arferol—rhannau o'r byd sy'n amrywio o Unol Daleithiau America a Chanada i Sweden. Felly, nid yw hyn oherwydd diffyg ewyllys gwleidyddol. Ac i unrhyw un sy'n gwylio rhaglenni teledu Americanaidd, pan fyddan nhw'n yn siarad am fynd i'r co-op, yr hyn y maen nhw'n ei olygu yw'r gymdeithas tai cydweithredol. Ac mae'n anffodus nad ymddengys bod gennym y meddylfryd hwnnw ledled y wlad hon. Felly beth arall y gellir ei wneud i gynyddu nifer y tai cydweithredol sydd ar gael ym Mhrydain?

Photo of Julie James Julie James Labour 3:49, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno'n llwyr â dadansoddiad Mike Hedges yn hyn o beth. Yn bendant mae angen inni sicrhau bod cynghorau yn adeiladu unwaith eto ar raddfa fawr ac yn gyflym. Rydym  wedi bod yn glir iawn am hynny. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r cynghorau ledled Cymru i newid y rheolau, gan fod y cap wedi cael ei godi erbyn hyn ar y cyfrifon refeniw tai, gydag awdurdodau sy'n dal stoc dai a rhai nad ydyn nhw'n dal stoc dai, i sicrhau eu bod nhw i gyd yn defnyddio eu benthyciadau yn ddigonol i gyrraedd y cyflymdra a'r raddfa y sonia ef amdanyn nhw.

Cefais i fy magu yn un o'r tai dur, fel y mae ef yn gwybod. Ni allai fy mam-gu gredu ei bod hi'n cael byw mewn tŷ gyda chegin wedi'i gosod ac ystafell ymolchi fawr a braf a digon o le a chypyrddau i roi pethau ynddyn nhw ac ati. Ac er na wnaeth y cladin sefyll prawf amser, mae'r tai yno o hyd, maen nhw newydd gael eu hailorchuddio â deunyddiau mwy modern. Mae angen inni allu gwneud yr un peth. Ond, mae angen inni hefyd gael y mathau o gyfleoedd am dai cymysg a fodolai bryd hynny. Roeddem yn adeiladu digon o dai cymdeithasol ac roedd modd i bobl a oedd yn awyddus i gael tŷ cymdeithasol gael hynny. Ac felly roedd pobl o bob cefndir yn byw gyda'i gilydd fel cymuned wirioneddol ar yr ystâd y cefais i fy magu ynddi. Dyna'r hyn yr ydym ni'n dyheu am ei gael eto. Gwyddom y gallwn ni eu helpu nhw i gael y dyhead hwnnw'n ôl drwy gyfrwng deiliadaeth gymysg.

Ni allwn gytuno mwy gydag ef ynghylch tai cydweithredol a chwmnïau cydfuddiannol. Mae yna nifer o fodelau ar gael ac rydym ni'n ystyried yn fanwl iawn sut y gallwn ni gefnogi datblygiad y rhain drwy ddefnyddio'r grantiau a'r benthyciadau amrywiol sydd ar gael gennym. Nid wyf yn credu ei bod hi'n ormod i'w gyfaddef, Llywydd dros dro, y bu'n rhaid i mi gael gwers mewn cyfalaf trafodion ariannol a'r defnydd ohono gan gyfarwyddwr Trysorlys Cymru, gyda chymorth Rebecca, er mwyn deall yr holl fecanweithiau ariannu amrywiol sydd gennym ni ar gyfer cynhyrchu'r mathau o fodelau cydweithredol y mae ef yn sôn amdanyn nhw. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny.

Y peth olaf yr hoffwn ei ddweud yw hyn. Rwy'n gwybod nad oedd ef yn gallu bod yn bresennol, ond roeddwn i'n bresennol ddydd Gwener diwethaf mewn datblygiad newydd sydd gan Gyngor Abertawe yn ei etholaeth ef—roedd y ddau ohonom ni yno pan dorrwyd y dywarchen am y tro cyntaf—ac mae'n gwbl anhygoel. Mae yna ddau bwll nofio o faint Olympaidd wedi cael eu claddu yn y ddaear i grynhoi dŵr sy'n llifo drosodd pan fydd glaw trwm, fel bod modd mynd i'r afael â llygredd mewn draeniau sydd wedi eu gorlwytho. Mae yno bympiau sy'n codi gwres o'r ddaear sydd wedi'u drilio'n fertigol. Mae hwn yn safle rhyfeddol—cwbl anhygoel—ac rydym yn gwybod y bydd y trigolion yn hapus iawn yno, a dyna un o'r pethau mawr eraill. Felly, rwyf i'n cytuno'n llwyr â'r holl bwyntiau a wnaed ganddo.  

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 3:52, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae'n hollbwysig ymdrin â'r angen dirfawr yng Nghymru am dai, yn enwedig tai fforddiadwy, ac ar yr un pryd fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, a dyna pam mae cynlluniau fel y rhaglen tai arloesol mor bwysig. Mae diffyg tai'n effeithio ar lawer iawn o fywydau ac ar ein cymunedau ni. Felly, rwy'n croesawu'r diweddariad hwn ar gynllun y Rhaglen tai arloesol.

Mae'r ffaith bod cymaint o gartrefi di-garbon neu garbon isel yn cael eu hadeiladu yn newyddion ardderchog. Mae ein gallu ni i liniaru'r newid yn yr hinsawdd yn dibynnu ar leihau'r ynni sy'n cael ei ddefnyddio i adeiladu cartrefi a chadw aelwyd. Felly, mae cynlluniau fel yr un yn Rhuthun nid yn unig yn ein helpu ni i fynd i'r afael ag argyfwng ein hinsawdd, ond mae hefyd yn helpu i leihau tlodi tanwydd.

Fodd bynnag, er bod yr holl gynlluniau hyn i'w croesawu, mân lwch y cloriannau ydyn nhw o'u cymharu â'r heriau sy'n ein hwynebu ni. Mae angen degau o filoedd o gartrefi fforddiadwy newydd arnom. Mae'n ymddangos bod y cynlluniau hyn i gyd yn mynd i'r afael ag anghenion o ran ynni, ond nid mewn gwirionedd o ran nifer y tai sydd eu hangen. Ond, rwy'n cydnabod bod yn rhaid i ni ddechrau yn rhywle. Felly, Gweinidog, fe ddangosodd Prifysgol Caerdydd beth oedd tai positif o ran ynni gyda thŷ Solcer bedair neu bum mlynedd yn ôl. Faint o'r cynlluniau sy'n mynd drwy gynllun y Rhaglen tai arloesol sy'n adeiladu ar ganfyddiadau Tŷ Solcer?

Mae gan dai modiwlaidd y potensial i fynd i'r afael â phrinder tai yn gyflym. Trwy ddefnyddio deunyddiau arloesol a wnaed o gynhyrchion wedi eu hailgylchu, mae ganddyn nhw'r potensial hyd yn oed i dynnu carbon o'n hatmosffer a defnyddio dim carbon tra bydd rhywun yn byw ynddyn nhw. Gweinidog, a yw'r Rhaglen tai arloesol yn rhoi unrhyw bwys ar gynlluniau tai modiwlaidd? Ac os na, a fyddech chi'n ystyried buddsoddi mewn prosiectau tai modiwlar yn y blynyddoedd i ddod? Mae modd codi tai modiwlar yn gyflym ac fe allai hynny fod yn allweddol i fynd i'r afael â'n hargyfwng tai.

Yn olaf, Gweinidog, os ydym am fynd i'r afael â digartrefedd, mae'n rhaid inni adeiladu tai i'r digartref. A oes unrhyw gynlluniau wedi cael eu cyflwyno sy'n ymdrin ag anghenion penodol cyn-aelodau o'r lluoedd arfog, sy'n ganran fawr o'r rhai sy'n eu cael eu hunain yn cysgu ar y stryd? Diolch yn fawr iawn.

Photo of Julie James Julie James Labour 3:55, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, gan ymdrin ag ychydig o'r materion dan sylw, mae adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn flaenorol yn rhan bendant o hyn. Ac felly mae deall yr hyn a adeiladwyd yn y gorffennol, sut a pham oedd hynny'n gweithio, ac a yw hynny'n raddadwy yn bwysig iawn hefyd. Felly er mai da o beth yw adeiladu un tŷ, mae gallu adeiladu 400 ohonyn nhw ar yr un pryd yn fater pwysig iawn i'r rhaglen. Ac fel y dywedais yn y datganiad, rydym wrthi'n uwchraddio rhai o'r pethau yr ydym ni'n gwybod eu bod nhw wedi gweithio.

Mae ailgylchu yn fater o bwys mawr hefyd. Mae'r rhan fwyaf o'r tai hyn yn fodiwlar, mewn gwirionedd. Mae bron pob un o'r cynlluniau yn defnyddio pren o Gymru mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, ac rydym yn awyddus iawn i gael cadwyni cyflenwi byr fel ein bod yn lleihau ôl troed carbon yr adeilad yn ei gyfanrwydd, fel y dywedais i yn y datganiad. Rydym hefyd yn awyddus iawn i sicrhau bod yna gyn lleied â phosibl o wastraff adeiladu ac y caiff hwnnw ei ailddefnyddio a'i ailgylchu fel y bo'n briodol, ac nad ydym ni'n achosi problemau anfwriadol o ganlyniad i hynny. Ac yna, pan fyddwn ni wedi deall hynny, gallwn ei raddio eto i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.

Mae'r holl broblem gyda sgiliau, a drafodais i gyda David Melding, yn ymwneud â throsglwyddo sgiliau, ein bod yn uwchsgilio pobl y dyfodol. Ac mae rhai o'r cynlluniau yn defnyddio'r bobl a fydd, yn y pen draw, yn denantiaid y tai i'w hadeiladu nhw. Felly, mewn gwirionedd, maen nhw'n adeiladu eu cartrefi eu hunain i bob pwrpas. Yn wir, mae cynllun ardderchog ar Ynys Môn yr oeddwn i'n falch iawn o'i weld yn gweithio fel hynny. Mae'r pethau hyn yn gyffrous iawn, ond rydych chi'n hollol iawn o ran y raddfa. Mae angen  adeiladu tua 4,000 o dai bob blwyddyn i fynd i'r afael â'r broblem o bobl mewn llety dros dro.

Nid yw problem digartrefedd yn ymwneud yn unig â'r pegwn eithaf o fod yn cysgu ar y stryd, mae'n ymwneud hefyd â'r bobl hynny sy'n llithro i ddigartrefedd. Felly dyna pam mae angen  adeiladu 4,000 o gartrefi cymdeithasol y flwyddyn, er mwyn atal y cylch hwnnw. Felly mae'n hi'n dasg drom, ond rydym wedi adeiladu bron 1,000 y flwyddyn hon a dim ond ychydig gannoedd oedd gennym ni yn y flwyddyn flaenorol. Felly rydym yn codi stêm yn gyflym iawn. Rydym yn mynd cyn gynted ag y gallwn ni, gan sicrhau ein bod ni'n adeiladu'r hyn sy'n briodol ar gyfer y bobl briodol. Ac er y gallwch alw unrhyw grŵp arbennig o bobl yn grŵp, fe fydd pob un ohonyn nhw'n unigolion, ac fe fydd gan bob un ohonyn nhw wahanol ofynion. Mae angen adeiladu'r amrywiaeth o dai a deiliadaethau cymysg a fydd yn mynd i'r afael â'r holl anghenion hynny.  

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 3:57, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf innau hefyd groesawu eich datganiad chi, Gweinidog? Fel y gwyddoch, mae'n debyg, yr wythnos diwethaf, fe groesewais i'r Prif Weinidog i'r etholaeth ac fe aethom ni i ymweld ag un o'r sefydliadau blaengar hynny yr oeddech chi'n cyfeirio atynt yn eich datganiad, sef Cartrefi Cymoedd Merthyr. Y nhw oedd y tenantiaid a'r gweithwyr cydfuddiannol cyntaf yng Nghymru ac, fel y gwyddoch, dyma un o'r rhai mwyaf yn y DU. Mae hon yn enghraifft ragorol o fenter gymdeithasol yn dod â buddiannau sylweddol i'r gymuned, gan gynnwys, wrth gwrs, ddatblygiad uned tai cydweithredol Taf Fechan yng Ngellideg.

Eglurodd Cartrefi Cymoedd Merthyr botensial dulliau modiwlaidd o adeiladu i ni—a chlywsom lawer am hynny'r prynhawn yma—o ran adnewyddu eu stoc nhw ac o ran darparu unedau newydd i gynorthwyo gydag anghenion tai. Ac maen nhw eisoes wedi defnyddio'r cartrefi modiwlar yr ydym wedi siarad amdanynt i gynnig datrysiadau o ran tai fforddiadwy a chost isel. Ac rwy'n credu, yr wythnos nesaf, eich bod chi am ddod i'r cyfarfod i edrych ar eu cartrefi cynhwysydd modiwlar nhw, ac fe fyddaf i'n edrych ymlaen at hynny. Gyda llaw, credaf ei bod yn werth dweud hefyd ar y pwynt hwn eu bod nhw'n derbyn prentisiaid hefyd. Felly maen nhw'n datblygu sgiliau lleol yn yr ardal.

Felly, Gweinidog, rwy'n gweithio ar y dybiaeth y byddwch chi'n edrych ar brofiad ac arloesedd sefydliadau fel Cartrefi Cymoedd Merthyr a'r math o waith arloesol y maen nhw wedi bod yn rhan ohono. Bydd cefnogi'r angen penodol hwnnw ar hyd a lled ein cymunedau ni yn y cymoedd yn rhan o'ch strategaeth dai ac fe fydd â'i le hefyd o fewn y strategaeth dai ar gyfer Tasglu'r Cymoedd, fel nad ydym yn ystyried hyn yn rhywbeth ar wahân i'r gwaith y mae Tasglu'r Cymoedd yn ei wneud. Ac fe fyddai'n benodol yn ceisio helpu i fynd i'r afael â'r angen mwyaf dyrys ond mwyaf cyffredin am dai, sef unedau tai unigol. Mae'r ddwy gymdeithas dai yn fy etholaeth i yn dweud wrthyf mai hynny ynddo'i hun yw'r her fwyaf sydd ganddyn nhw o ran diwallu'r angen am dai. Felly, y cwestiwn mewn gwirionedd yw sut y bydd hynny i gyd yn cyd-fynd â'i gilydd ac yn cyflawni'r amcanion penodol hynny.

Photo of Julie James Julie James Labour 3:59, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Ie, mae hi'n hollol gywir, mae Cartrefi Cymoedd Merthyr wedi gwneud gwaith rhagorol mewn amryw o ffyrdd arloesol ac mae hynny'n dangos yn eglur nad y Rhaglen dai arloesol yw'r unig beth arloesol yr ydym ni'n ei ystyried, oherwydd maent wedi gwneud llawer o'r hyn a wnaethon nhw gyda grant tai cymdeithasol prif ffrwd ac yn y blaen. Felly mae llawer o bethau yn bosibl. Mae Dawn Bowden yn llygad ei lle, yr hyn yr ydym ni'n ystyried ei chael yw strategaeth gyffredinol sy'n amsugno'r arloesedd ac yn ei gwasgaru mor gyflym ag y gallwn ni. Gan hynny, mae llawer o'r trosglwyddo sgiliau yr ydych chi newydd sôn amdano, gan gael pobl i gymryd diddordeb yn y tai y maen nhw'n eu hadeiladu, oherwydd y gallen nhw eu hunain fod yn byw ynddyn nhw—mae llais y deiliad yn hynny i gyd yn bwysig iawn. Maen nhw wedi gwneud gwaith diddorol iawn yn ymwneud â chwmnïau cydfuddiannol a chydweithredol ac yn y blaen, ac mae gennyf ddiddordeb ymchwilio i hyn gyda nhw. Ond dyna ddangos mai dim ond un rhan o natur arloesol y ffordd yr ydym ni'n mynd i'r afael â'n strategaeth dai ni yw'r Rhaglen tai arloesol. Mae angen adeiladu pob math o gartrefi ar gyfer pob math o ddeiliadaeth, yn gyflym ac ar raddfa fawr, os ydym yn bwriadu ateb yr anghenion y gwyddom sydd gan ein poblogaeth ni.

Roeddwn i'n falch tu hwnt i gyhoeddi yn fy natganiad un o'r rhaglenni tai arloesol, sy'n ymwneud â rhaglen adeiladu tai modiwlar sy'n caniatáu ichi ychwanegu ystafell wely. Mae angen mawr am gartrefi un ystafell wely—mae hynny'n hollol wir, ac mae angen adeiladu'r rhain ar frys ac ar raddfa fawr—ond mae amgylchiadau pobl yn newid. Efallai na fyddan nhw'n aros yn sengl am byth, ac efallai y bydd angen gofal arnyn nhw, efallai y bydd angen teulu neu ffrindiau arnyn nhw i ymweld ac ati. Felly nid tŷ un ystafell wely ar gyfer unigolyn ar ei ben ei hun o reidrwydd yw'r hyn y mae pobl yn chwilio amdano.

Felly, mae ceisio adeiladu tai sy'n caniatáu i bobl allu byw yn y ffordd sy'n ddymunol iddyn nhw, a chael ffrind yn aros, a chael gofalwr, ŵyr neu wyres neu bartner y dyfodol o bosibl yn symud i mewn—rydym ni'n dymuno gweld cartrefi i bobl am eu hoes. Mae'r mathau hyn o dai modwlar sy'n caniatáu ichi ychwanegu ystafell wely neu fodiwl arall iddo yn ardderchog, ac mae angen eu hystyried nhw i'r dyfodol.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 4:01, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Ac yn olaf, Nick Ramsay.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Cadeirydd. Gweinidog, rydych chi newydd sôn am y cynllun sy'n golygu y gellir ychwanegu ystafell wely. Credaf mai dyna'r cynllun yng Nghas-gwent, o'm cof i o'ch datganiad. Roeddwn i wrth fy modd o weld bod hynny wedi'i gynnwys—credaf y bydd Cymdeithas Tai Sir Fynwy yn cael cyllid i adeiladu 17 o gartrefi yng Nghas-gwent.

Mae gallu ychwanegu ystafell wely, neu enghreifftiau eraill o'r hyn y mae Cymdeithas Tai Sir Fynwy yn ei wneud lle caiff tai eu diogelu ar gyfer y dyfodol fel y gallwch chi ychwanegu lifftiau hefyd fel y gall pobl aros yn y cartrefi wrth iddyn nhw heneiddio—rwy'n credu bod hynny'n agwedd bwysig iawn ar ddarparu cartrefi modern o'r math y mae Cymdeithas Tai Sir Fynwy yn cael cryn enw amdanynt. Felly, tybed beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod y math hwnnw o arfer yn rhan annatod o strategaethau cymdeithasau tai ledled Cymru, fel ein bod yn gweld y paratoi hwn ar gyfer y dyfodol, oherwydd credaf, dros amser, ei fod yn gwneud cynlluniau'n llawer mwy effeithlon os gall pobl aros yn y cartrefi hynny y maen nhw'n eu caru—os ydyn nhw'n gallu cael ystafell wely ychwanegol, yn gallu cael lifft, yn gallu addasu. Rwy'n credu mai dyna'r ffordd ymlaen, felly hoffwn weld hynny'n rhan o'r holl gynlluniau tai ledled Cymru, os oes modd.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:02, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Ie, rwy'n cydweld gant y cant. Un o'r rhesymau y mae yn y rhaglen yw oherwydd bod arnom ni eisiau rhoi prawf ar y cysyniad a sicrhau ei fod yn gweithio, ond, mewn gwirionedd, ymwelais â chynllun tebyg gyda Huw Irranca-Davies yn ei etholaeth yn ddiweddar, lle y dangoswyd inni gartref modiwlaidd y gallech chi ychwanegu ystafell wely arall ato, neu, yn wir, mewn gwirionedd, godi'r holl beth a'i roi i lawr yn rhywle arall, pe bai angen i chi wneud hynny. Treuliais gryn dipyn o'm plentyndod yng Nghanada, lle mae'n eithaf cyffredin gweld tŷ'n mynd ar hyd y ffordd, yn cael ei symud o un lle i'r llall, oherwydd eu bod i gyd yn fodiwlaidd. Felly, mae gwir angen inni ddysgu o dechnegau sy'n bodoli eisoes yn hynny o beth, ond, mewn gwirionedd, ynghylch pethau modern iawn hefyd, o ran effeithlonrwydd ynni ac ati. Ni allaf dystio fod y cartref yng Nghanada, 60 mlynedd ôl, pan oeddwn yn blentyn, mor ynni effeithlon â'r hyn yr hoffem ni ei gael heddiw, er, wyddoch chi, nid yw Canada yn enwog am ei thywydd tymherus, felly fe wnaethon nhw yn amlwg ddod trwy'r prawf hwnnw. Ond mae llawer o bethau y gallwn ni eu gwneud yn hyn o beth, ac mae a wnelo hyn â gwneud yn siŵr bod gennym ni'r hyn sy'n cael ei alw'n gartref am oes, fel, wrth i'ch amgylchiadau newid drwy gydol eich oes, y gallwch chi aros yn y cartref yr ydych chi'n ei garu ac yn y gymuned yr ydych chi'n rhan ohoni, ac mae angen inni hwyluso hynny lle bo'n bosib.