Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 24 Medi 2019.
Llywydd, a gaf i ddiolch i Russell George am ei gyfraniad, am ei gwestiynau? Rwy'n croesawu'n fawr y gefnogaeth drawsbleidiol sydd gan y Llywodraeth, yn ddiolchgar iawn, am ei safiad ar ddatganoli rheilffyrdd. Rwy'n credu bod yr Aelod yn cyflwyno achos pwysig dros integreiddio nid yn unig y cledrau a'r trenau, ond dulliau gwahanol o deithio hefyd, a dyna'n union beth yr ydym ni'n bwriadu ei wneud drwy ddatganoli rheilffyrdd i Gymru. Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn hefyd y bydd teithwyr ar hyn o bryd yn meddwl am y gwasanaethau y maen nhw'n eu defnyddio ar hyn o bryd.
Nawr, rydym ni ar daith, taith £5 biliwn—mae Russell George yn gywir yn nodi heriau diweddar sydd, yn rhannol, wedi digwydd oherwydd tanfuddsoddi hanesyddol yn y rhwydwaith rheilffyrdd. Ac mae Russell wedi nodi'n gywir, er enghraifft, methiannau yn y signalau, sy'n ganlyniad i ddiffyg buddsoddi diweddar. Byddwn yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i wario rhagor o adnoddau ledled rhwydwaith llwybr Cymru. Fodd bynnag, hoffwn atgoffa'r Aelodau hefyd o'r adnoddau sylweddol iawn y mae Llywodraeth Cymru wedi'u buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yn ystod y blynyddoedd diwethaf—na fu'n gyfrifoldeb inni; rydym ni wedi gwneud hynny beth bynnag. Ac, yn ddiweddar, rwy'n credu bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi gallu cyfrifo bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu oddeutu £362 miliwn at wariant cyhoeddus ehangach ar reilffyrdd Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi buddsoddi £226 miliwn mewn prosiectau gwella seilwaith rheilffyrdd, gan gynnwys defnyddio cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd. Bu hyn yn hanfodol bwysig, o gofio, yn ddiweddar—y cyfnod rheoli diweddar—nid ydym ni wedi gweld y gwariant angenrheidiol ar rwydwaith llwybrau Cymru. Mae'r Adran Drafnidiaeth, mae'n dda gennyf ddweud, wedi ymrwymo nawr i ddatblygu'r achosion canlynol i'r cam nesaf o'r broses sydd ganddyn nhw ar y gweill: maen nhw wedi penderfynu bod angen gwella cyflymder ar arfordir y gogledd, bod gwelliannau o ran cyflymder ar y llinell yn angenrheidiol rhwng Caerdydd ac Abertawe, a bod angen uwchraddio'r llinell liniaru rhwng Cyffordd Twnnel Hafren a Chaerdydd hefyd.
Mae'n werth nodi, fodd bynnag, Llywydd, nad oedd dadl gref dros fwrw ymlaen i gynyddu cyflymder ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn o ddweud y cytunwyd y bydd Network Rail yn ystyried a datblygu gwelliannau i'r llinell hon yng nghyd-destun cynllun ehangach sy'n ystyried dargludedd yr holl ffordd o Lerpwl i Wrecsam yn rhan o'r weledigaeth ar gyfer metro gogledd Cymru. Nawr, mae'r ymrwymiadau hyn i'w croesawu, Llywydd; mae'r ymrwymiadau hyn yn rhai i'w croesawu'n fawr. Ac mae'n amlwg bod yn rhaid bwrw ymlaen â'r rhain yn gyflym iawn ac ymgysylltu'n llawer gwell â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid lleol.
O ran heriau diweddar eraill a wynebwyd gennym ni ar y llwybr, bydd Aelodau'n cofio yn ystod yr hydref y llynedd heriau yn sgîl y ffaith ein bod wedi etifeddu fflyd heb amddiffyniad rhag llithriad olwynion. Mae systemau diogelu rhag llithriad olwynion, rwy'n falch o ddweud, bellach wedi eu cynnwys ar y trenau hynny nad oedd ganddynt y systemau o'r blaen. Mae'n rhan o fuddsoddiad £14 miliwn yn y fflyd bresennol tra caiff y trenau newydd hynny eu hadeiladu.
Rwyf hefyd yn falch o ddweud bod gan Trafnidiaeth Cymru a Network Rail bartneriaeth ragorol a'u bod yn cyfathrebu'n wych, rhywbeth na fu wastad yn wir, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud. Ac mae Network Rail, rwy'n falch o ddweud, wedi gwario tua £3 miliwn yn ymdrin â llystyfiant ar hyd y rheilffyrdd. Mae hynny'n gwbl hanfodol. Roedd llinellau penodol yng Nghymru yn wynebu heriau y llynedd oherwydd llystyfiant gormodol.
Rwyf yn credu bod Trafnidiaeth Cymru wedi cynyddu gweithgarwch ac arbenigedd yn gyflym iawn, ond, wrth gwrs, wrth i swyddogaethau ychwanegol gael eu trosglwyddo i'r corff, bydd angen arbenigedd ac adnoddau dynol ychwanegol. Ar ddechrau'r daith 15 mlynedd, fe wnaethom ni ddweud y byddai Trafnidiaeth Cymru yn recriwtio ugeiniau o bobl newydd i swyddogaethau allweddol ac, hefyd, y byddai Trafnidiaeth Cymru yn gofyn am arbenigedd, yn ôl yr angen, i gyflawni swyddogaethau ychwanegol. Mae hynny'n rhywbeth sy'n parhau ac, wrth gwrs, os, a gobeithiwn, pan fydd datganoli cyfrifoldebau yn trosglwyddo i Lywodraeth Cymru, byddem yn disgwyl gweld Trafnidiaeth Cymru yn sicrhau arbenigedd ychwanegol.
O ran trosglwyddo asedau llinell graidd y Cymoedd, wel, mae'r trosglwyddiad i fod i gael ei gwblhau'n fuan yn y misoedd sydd i ddod, ac mae'r amserlen ar gyfer adeiladu'r metro, mae'n dda gennyf ddweud, yn parhau yn unol â'r weledigaeth a amlinellwyd pan lansiwyd y cytundeb fasnachfraint gennym ni. Mae trenau'n cael eu hadeiladu a bydd gwasanaethau'n dechrau yn ôl y disgwyl ac fel yr amlinellwyd yn y ddogfen wreiddiol a gyhoeddwyd yn ystod hydref 2018. Mae heriau enfawr, wrth gwrs, ledled y DU yn y sector o ran caffael cerbydau ar hyn o bryd, ond rydym ni'n hyderus y byddwn ni'n gallu bodloni'r newidiadau i amserlen mis Rhagfyr gyda'r fflyd sydd gennym ni a chyda cerbydau y gellir dod â nhw ar y cledrau mewn pryd.
O ran y gorsafoedd yr hoffem ni eu gweld yn cael eu datblygu, rwy'n falch o ddweud ein bod wedi nodi'r gorsafoedd hynny yn y ddogfen yr ydym ni wedi'i chyhoeddi, ond bydd angen i Lywodraeth y DU gytuno i'w hariannu. Un o'r problemau mawr a gawsom ni yn ddiweddar gyda chyllido seilwaith yn y DU yw bod Llyfr Gwyrdd y Trysorlys yn ei hanfod yn arwain at flaenoriaethu a chyfeirio buddsoddiad i'r ardaloedd hynny lle mae'r poblogaethau mwyaf dwys. Mae hynny'n golygu, ar y cyfan, de-ddwyrain Llundain. Rydym ni eisiau gweld model gwahanol yn cael ei fabwysiadu ledled y DU ac, yn sicr, yng Nghymru, rydym ni'n gwneud hynny'n union—yn ceisio buddsoddi yn fwy cyfartal ar draws pob rhanbarth er mwyn cydbwyso cyfleoedd am dwf a ffyniant a mynd i'r afael ag anghydbwysedd o ran cyfoeth a chyfleoedd gwaith.