Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 24 Medi 2019.
Mi allwn i siarad, yn fan hyn, am yr heriau dŷn ni'n eu wynebu efo'r rheilffyrdd sydd gennym ni ar hyn o bryd, ac maen nhw'n heriau sylweddol a dwi'n gobeithio bod y Gweinidog yn ymwybodol ohonyn nhw. Hynny ydy, fydd pobl ddim yn amyneddgar am byth yn aros am y trenau newydd, lle mae'r amserlenni wedi bod yn llithro. Mae yna rwystredigaeth ynglŷn â diffyg toiledau ar drenau, mae yna rwystredigaeth ynglŷn ag arafwch cyflwyno dwyieithrwydd ar y trenau ac yn y blaen, ac mi wnawn ni barhau i ddal y Llywodraeth i gyfrif ar y materion hynny.
Ond sôn ydyn ni heddiw yma am gynlluniau strategol, hirdymor i gryfhau ein hisadeiledd rheilffyrdd ni yng Nghymru. Dwi'n croesawu'n fawr yr hyn sydd yn yr adroddiad sydd o'm blaenau ni heddiw yn amlinellu gweledigaeth i gymryd rhagor o gyfrifoldeb am ddatblygu'r isadeiledd hwnnw. Dwi'n ei groesawu fo, wrth reswm, oherwydd ein bod ni fel plaid wedi bod yn galw am hyn ers blynyddoedd lawer. Mae o'n adlewyrchu'r hyn dŷn ni wedi bod yn ei ddweud, ac, wrth gwrs, fel dŷn ni wedi'i glywed gan y Gweinidog, mae'n adlewyrchu, bellach, y consensws sydd wedi datblygu o fewn y Cynulliad Cenedlaethol yma. Ond mi wyddwn ni, p'un ai efo trenau neu efo datganoli trethi teithwyr awyrennau, dydy consensws yn y lle yma ddim yn ddigon i berswadio Llywodraeth mewn lle arall i weithredu mewn ffordd sydd er budd Cymru.
Fel nodyn ychwanegol, yr ateb i fi ac i nifer cynyddol o bobl yng Nghymru ydy ein bod ni'n cymryd cyfrifoldeb drwy fod yn wladwriaeth go iawn, sydd yn gosod ein cyfeiriad ein hunain fel gwlad annibynnol. Ond, yn sicr yn fan hyn, mae gennym ni gynllun ar gyfer yr hyn y dylai'r Llywodraeth ei wneud ar unwaith i ddatganoli cyfrifoldeb am y rheilffyrdd yng Nghymru a'r cyllid i fynd efo fo. Dŷn ni'n gwybod bod yna danfuddsoddi dybryd wedi bod yng Nghymru—yr 1 y cant o'r arian sydd ar gael i wella rhwydwaith Prydain yn cael ei wario yng Nghymru, tra bod 11 y cant o'r rheilffyrdd yma—hynny ydy, gwella rheilffyrdd, nid dim ond cynnal a chadw, sy'n gorfod digwydd, beth bynnag. Mae'n rhaid inni gael y gallu yna i fuddsoddi mewn ymestyn ein rheilffyrdd ni. Mae'n rhyfeddol. Dŷch chi'n edrych ar y map a dŷch chi'n gorfod atgoffa'ch hunain—efo ffyrdd, dŷn ni'n meddwl sut i wella'r ffyrdd rhwng de a gogledd. Does yna ddim un rheilffordd—mae'n syfrdanol, dal—does yna ddim rheilffordd yn rhedeg o ogledd i dde Cymru heb ei bod hi'n mynd ar draws y ffin. Ac mae yna fodd i'w wneud.
Dwi yn falch o weld cyfeiriad yma at agor y coridor yna i lawr y gorllewin, at fuddsoddi, ie, o Amlwch drwodd i Fangor ac wedyn ar draws drwy Gaernarfon i lawr tuag at Aberystwyth, agor y llinell yna o Aberystwyth i Gaerfyrddin. Mae'n rhaid inni gael yr uchelgais yma. Ac ydy, mae pobl yn dweud, 'O, mae'r rhain yn fuddsoddiadau mawr,' ond edrychwch ar y buddsoddiad sy'n digwydd yn Lloegr ar hyn o bryd, lle mae gennych chi £56 biliwn yn mynd i HS2, £30 biliwn yn mynd i Crossrail 2, £70 biliwn yn mynd i Transport for the North. Pres mân ydy'r hyn dŷn ni'n sôn amdano fo er mwyn creu isadeiledd rheilffordd sy'n wirioneddol yn gallu ein huno ni fel gwlad.
Felly, dwi'n croesawu'r ffaith bod y ddogfen yn cyfeirio at ailagor y gorllewin yna, o Amlwch i Abertawe, os liciwch chi, a buaswn i'n gwerthfawrogi sylwadau ychwanegol gan y Gweinidog ar hynny, achos, fel mae'r Llywodraeth yn ei ddweud yn y datganiad yma, dyma rhai o'n hasedau mwyaf gwerthfawr ni yn gymdeithasol ac yn economaidd. Os oes yna linell sydd yno sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, mi ddylen ni fod yn gwneud popeth i wneud yn siŵr bod yr ased honno yn cael ei chwysu gymaint â phosib ar gyfer ein cymunedau ni.271
Yr unig gwestiwn arall—buaswn i'n gwerthfawrogi sylw ynglŷn â'r amserlen a fyddech chi'n ei rhagweld, Weinidog, ynglŷn â sut i symud hwn ymlaen o rŵan, gan gwmpasu adolygiad Williams. Pryd fyddech chi'n disgwyl ymateb gan Lywodraeth Prydain ac yn y blaen?