Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 24 Medi 2019.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad? Rydych chi'n dweud yn eich datganiad mai eich gorchwyl gyntaf yw mynd i'r afael â'r diffyg buddsoddiad hanesyddol mewn gwella'r rheilffyrdd yng Nghymru. Rydym ni'n eich cefnogi yn llwyr yn eich ymdrechion yn hyn o beth. Mae Cymru wedi dioddef erioed o ddiffyg cyllid angenrheidiol i wella'r seilwaith rheilffyrdd, felly mae'n iawn inni geisio rheoli ein tynged ein hunain o ran ein holl seilwaith rheilffyrdd. Dylem fod yn rhydd i greu system reilffyrdd sy'n addas i'w diben i wasanaethu pobl Cymru.
Ni allwn ni, wrth gwrs, sôn am y setliad datganoli a roddwyd i Gymru heb ei gymharu â'r hyn a roddwyd i'r Alban, ac nid yw datganoli'r rhwydwaith rheilffyrdd yn eithriad i hyn. Ni all hi fod yn iawn fod yr Alban wedi cael rheolaeth lwyr, ynghyd â'r cyllid angenrheidiol, ar gyfer ei holl rwydwaith rheilffyrdd, tra bod yn rhaid i Gymru fodloni â dull mor dameidiog gan Lywodraeth y DU. Gweinidog, rydych chi yn llygad eich lle'n dweud na allwn ni greu'r rhwydwaith rheilffyrdd a ragwelir yn y cynlluniau metro a gwella gorsafoedd rhanbarthol, heb sôn am ddatblygiadau'r coridorau strategol, heb i'r cymwyseddau a'r cyllid angenrheidiol gael eu datganoli'n llawn, ac rwy'n ffyddiog y gallwn ni wella'n sylweddol ar gostau datblygu drud eithriadol Network Rail. Mewn geiriau eraill, gwario arian yn llawer mwy effeithlon nag a wneir ar hyn o bryd. Rydym ni eisoes yn gweld y gwelliannau sy'n bosib gyda phwerau datganoledig gyda'r gwelliannau o dan fasnachfraint newydd y Gororau, ac rwy'n ffyddiog y gwelwn ni'r un gwelliannau ar reilffyrdd craidd y Cymoedd o dan y rhaglen ddatblygu a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru.
A yw hi'n deg felly i rannau eraill o rwydwaith rheilffyrdd Cymru fod ar ei hôl hi am nad oes gan Lywodraeth Cymru y cymwyseddau a'r cyllid i wneud y gwelliannau angenrheidiol? Rydym ni yn y Blaid Brexit yn cydnabod bod seilwaith y rheilffyrdd yn hanfodol i ddatblygiad economi Cymru, a byddwn yn eich cefnogi'n llawn yn eich ymdrechion i sicrhau y caiff y rhwydwaith rheilffyrdd a'i gydrannau eu datganoli'n llawn i Gymru gydag, wrth gwrs, yr holl gyllid angenrheidiol sydd ei angen i gyflawni uchelgeisiau Cymru o ran rheilffyrdd.