4. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Rheilffordd i Gymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 24 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:26, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Mae Rhun ap Iorwerth yn gwneud sawl sylw hollbwysig yn ei gyfraniad, yn bennaf yr angen i ystyried y symiau enfawr o arian sy'n cael eu buddsoddi dros y ffin—£150 biliwn—i wella'r seilwaith rheilffyrdd, a gallai dim ond ffracsiwn o'r arian hwnnw greu cyfleoedd enfawr. Mae'r Aelod yn sôn am y cysylltiadau gogledd-de sy'n bodoli ar hyn o bryd ac a allai fodoli. Nawr, mae'r gwasanaethau presennol rhwng y gogledd a'r de yn teithio dros y ffin; maen nhw'n adlewyrchu economi swyddogaethol ardal drawsffiniol gogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr ac economi weithredol y Canolbarth gyda gorllewin canolbarth Lloegr, ond ni ddylai hynny ein rhwystro rhag buddsoddi mewn seilwaith arall sydd yn cysylltu gogledd a de Cymru ymhellach i'r gorllewin, lle nad oes dwysedd twf y boblogaeth. Fy marn i yw y dylem ni fod yn nerthu'r rhanbarthau a grymuso'r rhanbarthau i fod yn fwy ffyniannus, ac mae hynny'n golygu buddsoddi yn yr ardaloedd hynny sy'n teimlo eu bod wedi'u hesgeuluso, ac sydd, mewn rhai achosion, wedi eu hesgeuluso yn wir wrth i ganolfannau trefol weld twf economaidd yn y cyfnod diweddar.

Mae'r amserlen ar gyfer gwireddu ein gweledigaeth—ac rwyf yn diolch i'r Aelod am rannu a chefnogi ein gweledigaeth—yn dibynnu i raddau helaeth ar benderfyniadau Llywodraeth y DU ynglŷn â sut i ymateb i adolygiad Williams a'r amserlen sy'n seiliedig ar drosglwyddo pwerau a chyllidebau yn drefnus i Lywodraeth Cymru. Ond rwyf wedi dweud yn y ddogfen weledigaeth mai gweledigaeth 20 mlynedd yw hon ar gyfer gwella seilwaith a chynyddu gwasanaethau ac amlder gwasanaeth ar hyd llwybr Cymru.

Rwy'n credu bod consensws yn y Siambr yma sy'n dechrau dylanwadu ar Siambr mewn lle arall. Rwy'n teimlo y bu newid barn yn ddiweddar yn San Steffan o ran y posibilrwydd o ddatganoli cyfrifoldebau a chyllid ar gyfer rheilffyrdd. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi mwynhau sawl sgwrs gyda'r Ysgrifennydd Gwladol newydd dros drafnidiaeth, Grant Shapps, yn ddiweddar, yn ymwneud yn bennaf, wrth gwrs, â'r her a wynebwyd gan gwymp Thomas Cook, ond un sgwrs benodol ynghylch y posibilrwydd o ddatganoli cyfrifoldebau am reilffyrdd a datganoli setliad ariannu priodol. Bydd y sgwrs honno yn un o nifer a fydd yn digwydd yn y misoedd nesaf, wrth iddo benderfynu sut i ymateb i adolygiad Williams, ac wrth i mi barhau i bwyso am ddatganoli. Dywedais yn fy natganiad hefyd fy mod yn ffyddiog nawr y caiff ein cyflwyniad i adolygiad Williams ei ystyried yn ffafriol, ac rydym yn aros yn eiddgar iawn i'r adolygiad llawn gael ei gwblhau, ei gyflwyno i Lywodraeth y DU, ac am ymateb yn unol â hynny.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, fel Russell George, yn gywir y bydd llawer o deithwyr yn ystyried y gwasanaethau sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, a'r hyn y byddwn i'n ei ddweud yw ein bod ni nawr yn gwella gorsafoedd ledled rhwydwaith Cymru a'r Gororau. Erbyn y Nadolig, bydd 150 o orsafoedd ychwanegol wedi'u glanhau'n drylwyr. Rydym ni'n recriwtio'r llysgenhadon hynny, rydym ni'n creu mwy o gynlluniau partneriaeth cymunedol. Mae trenau'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, gan gynnwys yma yng Nghymru, yn CAF yng Nghasnewydd. Mae gwasanaeth Tro Holton nawr yn gweithredu rhwng Lerpwl a Wrecsam.

Hoffwn wneud sylw bach iawn yn unig ynglŷn â thoiledau ar drenau tram. Yn ddiweddar, credaf y cyflëwyd rhywfaint o wybodaeth gamarweiniol i Aelodau'r Siambr hon ac i'r cyhoedd yn gyffredinol ynghylch toiledau ar drenau. Bydd tair llinell yn ardal y metro lle bydd trenau tram yn gweithredu. Mae'r llinellau hynny'n llinellau lle'r ydym ni'n dymuno gweld ymestyn, hynny yw, gwasanaethau'n ymestyn i gymunedau eraill—i ganol trefi, er enghraifft. Ac am resymau amlwg, ni allwch chi redeg trenau fel 'Pacers' ar ffyrdd. Ni allwch chi wneud hynny. Ac felly, mae'n rhaid i chi chwilio am ateb sy'n eich galluogi i redeg cerbydau ar ffyrdd ac ar yr un pryd ar draciau rheilffordd presennol. Ni chewch chi yn un man ar y blaned hon, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, system metro lle mae toiledau hefyd yn y cerbyd. Mae'r unig un sy'n gwneud hynny yn yr Almaen, ond nid yw'r toiledau hynny'n gydnaws â deddfwriaeth yn y wlad hon sy'n ymwneud â phobl â symudedd cyfyngedig. Felly, yn lle hynny, fe wnaethom ni'r penderfyniad i fuddsoddi'n helaeth iawn yn wir—mae £15 miliwn eisoes yn cael ei wario ar orsafoedd yn ardal Cymru a'r Gororau, ar y metro yn bennaf—i sicrhau bod gennym ni fynediad gwell, heb risiau, yn 99 y cant o orsafoedd y metro, a thoiledau sy'n hygyrch i deithwyr anabl a'r rhai sydd â symudedd cyfyngedig. Mae'n golygu na fydd 95 y cant o deithwyr byth yn fwy na thua 10 munud i ffwrdd o doiled. Ac mae hynny'n hynod o bwysig i bendroni yn ei gylch, o ystyried y ddadl a gafwyd yn ddiweddar. 

Rwy'n credu hefyd i'r Aelod wneud sylw pwysig iawn ynghylch ymdrechu'n barhaus, rwy'n credu, i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU i wneud y penderfyniad cywir ynglŷn â hyn. Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau wrth gyrraedd camau priodol gydag adolygiad Williams, ond credaf y byddai'n ddefnyddiol ar yr adeg briodol i'r Siambr hon wneud cyflwyniad torfol arall, efallai pan fydd Llywodraeth y DU yn barod i ymateb i adolygiad Williams, fyddai'n dadlau, yn gynhwysfawr iawn, dros ddatganoli cyfrifoldebau a chyllid.