Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 24 Medi 2019.
Diolch yn fawr. Does dim dwywaith mi oedd y Ddeddf cyllido gofal plant yn un dadleuol iawn o’r cychwyn cyntaf am y rheswm nad oedd o ddim yn cynnwys pob plentyn. Doedd plant oedd â’u rhieni mewn hyfforddiant neu addysg neu’n ddi-waith ddim yn gymwys ar ei gyfer. Felly, mi bleidleisiodd Plaid Cymru yn ei erbyn o. Roedden ni’n teimlo ei fod hi’n hollol annheg bod teuluoedd sydd yn ennill hyd at £200,000 y flwyddyn yn gallu cael gofal plant am ddim tra bo’r plant tlotaf sy’n byw ar aelwydydd di-waith yn cael eu heithrio rhag mwynhau’r manteision amlwg ddaw o ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar. Ond, mi oedd y Gweinidog ar y pryd yn benderfynol o fwrw ymlaen efo cynnig cwbl ddiffygiol, a hynny er gwaethaf pryderon y comisiynydd plant a mudiadau plant, er gwaethaf pryderon y pwyllgor plant a phobl ifanc, er gwaethaf pryderon Plaid Cymru a leisiwyd droeon yn y Siambr yma.
Felly, dyma’r Llywodraeth, yn yr haf, yn cyhoeddi ei bod hi wedi gwneud tro pedol, a dwi’n falch, o’r diwedd, fod y Llywodraeth hon yn cydnabod ei bod hi wedi gwneud llanast llwyr o’i hymgais gyntaf i gyflwyno ei chynnig gofal plant 30 awr. Ond mae’ch datganiad heddiw yn fy mhryderu. Rydych chi, erbyn hyn, yn ystyried ehangu’r cynnig er mwyn cefnogi rhieni mewn addysg a hyfforddiant. Cytuno'n llwyr. Mi ydych chi, yn anffodus, ddim yn mynd yn ddigon pell, achos rydych chi'n ystyried ei ehangu fo hefyd ar gyfer rhieni sydd ar fin dychwelyd i weithio. Felly, hyd yn oed o dan eich cynllun diwygiedig, bydd yna rai plant yn parhau i beidio â bod yn gymwys ar gyfer gofal plant, gan gynnwys rhai o blant mwyaf anghenus Cymru. Mae hwn yn gam gwag. Mi fyddai Plaid Cymru, mewn Llywodraeth, yn cynnig cyfle i bob plentyn gael manteisio ar ofal plant am ddim.
A wnewch chi egluro, felly, beth ydy eich diffiniad chi o rieni sydd ar fin dychwelyd yn ôl i’r gwaith? A wnewch chi egluro pam nad ydych chi'n mynd i gynnwys pob plentyn wrth i chi ddiwygio'r cynnig? Pam nad ydych chi'n mynd i gynnwys aelwydydd lle mae’r rhieni yn ddi-waith? Pam eich bod chi'n gwahaniaethu yn erbyn rhai plant? Onid ydy pob plentyn yn haeddu cael y cychwyn gorau posib mewn bywyd? Gobeithio y medrwch chi egluro rhesymeg eich bwriad newydd, os gwelwch yn dda.
Gan eich bod chi'n atal y gwaith efo'r Trysorlys, a wnewch chi egluro beth sydd wedi newid, felly, o ran agweddau llywodraeth leol? Ydych chi wedi cael barn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar oblygiadau’r tro pedol yma? A ydyn nhw bellach yn credu—yn wahanol i beth oedden nhw'n ei gredu pan oedd y ddeddfwriaeth yn mynd drwy'r Senedd yma—nad ydy’r system ddim yn rhy fiwrocrataidd a chymhleth a’u bod nhw yn fodlon ei gweinyddu? Dwi ddim yn gwybod beth sydd wedi newid rhwng cyfnod y ddeddfwriaeth a'r cyfnod yma.
Rydych chi'n dweud yn eich datganiad eich bod chi wrth eich bodd bod y cyfnod prawf wedi bod mor llwyddiannus. Ac rwyf innau yn clywed bod nifer fawr o deuluoedd yn fy ardal i yn cymryd mantais o’r cynllun. Ond, dwi'n ymwybodol bod hyn yn creu problemau cyllidebol i'r cynghorau, a dwi'n deall bod arian ychwanegol wedi cael ei ddyrannu i rai cynghorau sir, ond nad ydy hwnnw ddim yn ddigonol o bell ffordd i gwrdd â'r galw. Felly, a wnewch chi egluro sut rydych chi'n bwriadu cau'r bwlch rhwng y galw a’r arian sydd ar gael ar hyn o bryd, os gwelwch yn dda?