– Senedd Cymru am 5:29 pm ar 24 Medi 2019.
Yr eitem nesaf yw eitem 6, datganiad gan y Ddirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—cyflwyno'r cynnig gofal plant i Gymru. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Diolch i chi, diolch Llywydd dros dro. A diolch yn fawr iawn am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y cynnydd o ran cyflwyno ein cynnig gofal plant i Gymru.
Bydd Aelodau'n ymwybodol, pan gafodd y Llywodraeth hon ei hethol, mai un o'r ymrwymiadau allweddol a wnaethom ni oedd darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant i rieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio, a hynny am 48 wythnos y flwyddyn ledled Cymru. Ac, wrth ddatblygu'r cynnig hwn, mae llawer o'r teuluoedd yr ydym ni wedi siarad â nhw wedi dweud wrthym ni am y pwysau sy'n eu hwynebu wrth geisio talu costau cynyddol y cartref, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o gyni. I'r teuluoedd hyn, mae costau gofal plant yn effeithio'n uniongyrchol ar ba un a all y rhieni, ac yn enwedig y mamau, weithio neu beidio ac, os gallan nhw, ble maen nhw'n gweithio a pha fathau o swyddi y gallan nhw eu derbyn; mae'n dibynnu ar eu gallu i gael gofal plant.
Felly, fe wnaethom ni ddechrau profi ein cynnig mewn rhannau o Gymru yn 2017. Gofynnwyd inni'n aml pam nad oedd y cynnig ar gael ym mhobman, a pham yr oeddem ni'n cyflwyno'r cynllun yn raddol. Gofynnwyd hynny yn arbennig imi yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd, sef un o'r lleoedd olaf i fod yn rhan o'r cyflwyno. Roedd y dull gweithredu graddol yn bwysig er mwyn sicrhau bod y cynnig wedi'i brofi'n briodol ac yn gweithio fel yr oeddem ni wedi bwriadu. Rwy'n falch iawn y bu mor llwyddiannus, a hoffwn dalu teyrnged a mynegi fy niolch diffuant i'n partneriaid, i'r awdurdodau lleol ac i'r darparwyr gofal plant sydd wedi bod yn gwbl hanfodol i'r broses, ac sydd wedi ein helpu i gyflawni cymaint. Oherwydd y gwaith yr ydym ni wedi'i wneud gyda'n gilydd, yn profi gweinyddiaeth a hygyrchedd y cynnig gofal plant, mae'n bleser gennyf ddweud wrth Aelodau'r Cynulliad y bu ein cynnig ar gael ledled Cymru ers mis Ebrill, dros flwyddyn yn gynt na'r bwriad gwreiddiol.
Ddiwedd mis Gorffennaf, roedd bron i 16,000 o blant tair a phedair oed yn gallu cael gofal plant a ariannwyd gan y Llywodraeth, ac roedd 29 y cant o'r rhain yn gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. Pan werthuswyd y cynnig ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf o weithredu, dywedodd y rhan fwyaf o'r rhieni y gwelsant gynnydd gwirioneddol yn eu hincwm gwario oherwydd y cynnig. Mae rhiant nodweddiadol sydd â phlentyn yn elwa ar 20 awr o ofal plant yr wythnos yn cael yr hyn sy'n cyfateb i £90 ychwanegol yr wythnos yn ei boced—arian na fyddai ganddo fel arall. Dywedodd canran uchel o rieni wrthym hefyd fod y cynnig wedi rhoi mwy o hyblygrwydd iddyn nhw o ran y mathau o swyddi y gallen nhw eu gwneud, neu ei fod yn rhoi mwy o gyfleoedd hyfforddi iddyn nhw. Ac yn y flwyddyn gyntaf roedd 60 y cant o'r holl rieni a oedd yn defnyddio'r cynnig yn ennill swm cyfwerth neu lai nag enillion canolrifol y boblogaeth yng Nghymru, gan ddod â'r budd mwyaf i deuluoedd incwm isel a chanolig. Felly, rwy'n siwr y gwnewch chi ymuno â mi i dalu teyrnged i'r 2,000 o ddarparwyr gofal plant sy'n darparu'r cynnig ar hyn o bryd, ac i'n hawdurdodau lleol, sydd wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o sicrhau bod teuluoedd yn gallu elwa ar y cymorth hwn.
Mae hefyd yn bwysig cofio bod y sector gofal plant yn gyflogwr sylweddol yn ei hawl ei hun. Ledled Cymru, mae dros 3,600 o leoliadau gofal plant yn cyflogi tua 17,000 o bobl. Mae rhieni sy'n defnyddio gofal plant yn cyfrannu dros £1.2 biliwn at economi Cymru. Rydym yn cymryd camau i gefnogi'r sector mewn sawl ffordd, er enghraifft drwy'r rhyddhad ardrethi o 100 y cant, a thrwy weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i broffesiynoli'r gweithlu gofal plant. Bydd y gyfres newydd o gymwysterau a gyflwynwyd yn gynharach y mis hwn yn cynnig llwybrau dilyniant gwell a chyfleoedd gyrfa ehangach, ac yn yr hydref byddwn yn arbrofi gyda dull cymorth busnes ar gyfer y sector i gefnogi twf hirdymor.
O gofio ein llwyddiant hyd yma, rwy'n awyddus i edrych ar sut y gallwn ni ymestyn y cymorth hanfodol hwn. Felly, fel y nodwyd ym maniffesto arweinyddiaeth y Prif Weinidog, rydym ni bellach yn ystyried dichonoldeb ehangu'r cynnig i gefnogi rhieni mewn addysg a hyfforddiant, neu sydd ar drothwy dychwelyd i'r gwaith. Mae'r arlwy yn un o gyfres o raglenni sydd wedi'u hanelu at gefnogi rhieni, ac mae llawer ohonyn nhw hefyd yn cefnogi teuluoedd gyda chostau gofal plant. Fodd bynnag, mae wedi dod yn amlwg bod rhai bylchau rhwng y rhaglenni hyn. Roedd hwn yn faes o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg pan oedden nhw'n ystyried yr hyn yw Deddf Cyllido Gofal Plant (Cymru) 2019 erbyn hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn edrych ar hyn, ac yn sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi rhieni er mwyn iddyn nhw allu mynd i'r gwaith. Rwy'n disgwyl adroddiad ar yr adolygiad yn gynnar yn 2020.
Rwyf hefyd yn falch o allu cyhoeddi y byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i ddatblygu trefniadau cyflawni hirdymor ar gyfer y cynnig, gan ddatblygu rhai o'r systemau a'r gwasanaethau sydd eisoes ar waith ganddyn nhw. Mae awdurdodau lleol wedi gwneud gwaith rhagorol yn gweinyddu'r cynnig, ac maen nhw mewn sefyllfa dda i barhau â'r gwaith pwysig hwn, yn enwedig o ystyried eu gwybodaeth leol a'r berthynas agos y maen nhw wedi'i meithrin dros nifer o flynyddoedd gyda darparwyr a rhieni yn eu hardaloedd. Gan weithio gydag awdurdodau lleol, rwy'n ffyddiog y gallwn ni ddarparu gwasanaeth cenedlaethol i weinyddu'r arlwy—gwasanaeth cenedlaethol sydd hefyd yn ychwanegu gwerth gwirioneddol yn lleol. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn croesawu'r swyddogaeth barhaus hon i awdurdodau lleol a byddwn yn gweithio gyda nhw ac eraill wrth inni ddatblygu cynigion manwl.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi bwriadu gweithio gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi ar ddull cenedlaethol o ymdrin â cheisiadau a gwiriadau cymhwysedd. Byddai hyn wedi golygu y byddem yn defnyddio eu platfform gwasanaethau gofal plant, sy'n gweinyddu'r cynnig 30 awr yn Lloegr a'r cynnig gofal plant di-dreth. Awgrymodd asesiad effaith darganfod a gwblhawyd cyn yr haf y gallai'r gost o ddatblygu ac yna rhedeg y gwasanaeth am bum mlynedd fod oddeutu £16 miliwn. O ystyried yr hyn a oedd yn gysylltiedig â hyn, nid yw'r costau hyn yn afresymol, ond maen nhw'n uwch na'r rhai a amlinellwyd yn yr asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y Ddeddf. Yn rhannol, mae hyn oherwydd eu bod yn cynnwys rhai costau nad oedden nhw ar gael ar yr adeg y cwblhawyd yr asesiad effaith rheoleiddiol. Hefyd, o ystyried ein bod yn adolygu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cynnig, ac yng ngoleuni'r costau hyn, penderfynais y byddai'n fwy synhwyrol inni ohirio'r gwaith gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi ar hyn o bryd. Fodd bynnag, hoffwn ddiolch iddyn nhw am yr amser a dreuliwyd ganddyn nhw gyda ni hyd yma wrth ystyried ein dewisiadau i gyd.
Mae'r newid hwn wedi arwain at oedi wrth gyflwyno'r is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf Cyllido Gofal Plant (Cymru). Rwyf eisiau gwneud yn siŵr bod deddfwriaeth yn diwallu anghenion y gwasanaeth yr ydym yn ei ddatblygu gydag awdurdodau lleol, ac rwy'n teimlo ei bod hi'n bwysig treulio'r amser sydd ei angen i wneud pethau'n iawn. Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn parhau i fireinio'r cynnig ar sail ein profiad a thystiolaeth bellach o'n rhaglen werthuso barhaus. Llywydd dros dro, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag achosion tlodi, ac yn enwedig tlodi mewn gwaith, ac mae ein cynnig gofal plant yn rhan allweddol o'r ymrwymiad hwnnw, gan helpu rhieni sy'n gweithio gyda'r costau hynny. Rwy'n falch iawn o'i lwyddiant hyd yma.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am gyflwyno'r datganiad hwn. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn falch iawn, mewn gwirionedd, fod Llywodraeth Cymru bellach yn gweithredu polisi'r Ceidwadwyr Cymreig o ddarparu 30 awr yr wythnos o ofal plant a gyllidir gan y Llywodraeth i rieni sy'n gweithio, ac fe wnawn ni ymuno â chi i dalu teyrnged i'r 2,000 o ddarparwyr gofal plant sy'n cyflwyno'r cynnig ar hyn o bryd ac i'n hawdurdodau lleol sy'n gorfod gweithredu hyn. O ystyried eich datganiad, fodd bynnag, fe'm trawyd gan y diffyg sylw a roddwyd i'r sefyllfa y bu rhai darparwyr gwasanaethau eu hunain ynddi ac rwyf mewn ychydig o benbleth gan eich bod wedi disgrifio'r cynnig fel un mor llwyddiannus.
Mae'r Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd yn rhybuddio bod y cynnig mewn gwirionedd yn rhoi straen ar feithrinfeydd wrth iddo gael ei gyflwyno ledled Cymru. Mewn gwirionedd, mae hyn yn dod yn hunllef i feithrinfeydd gan fod y gwasanaethau'n dweud eu bod yn cael trafferth recriwtio digon o staff cymwys i ateb y galw ychwanegol. Felly, rwy'n gobeithio nad oes gwahaniaeth gennych, mae gennyf bedwar cwestiwn. O gofio bod meithrinfeydd sy'n gweithredu'n briodol yn ganolog i lwyddiant y cynnig, a wnewch chi egluro beth allwch chi ei wneud ar unwaith i sicrhau bod mwy o bobl yn dewis hyfforddi i fod yn weithwyr meithrin a bod y rhai sydd eisoes yn y sector mewn gwirionedd yn dewis aros? Rydym ni'n gweld gormod o lawer yn gadael y proffesiwn hwn.
Cwestiwn 2: ar ôl ystyried canlyniadau arolwg diweddar o 118 o leoliadau blynyddoedd cynnar sy'n gyfrifol am gyflogi dros 1,350 o aelodau staff a darparu lleoedd i fwy na 8,000 o blant, fe'm trawyd gan y ffaith mai dim ond tua 5 y cant o'r gweithlu sy'n ddynion. Felly, credaf fod potensial mawr i gynyddu nifer y dynion yn y proffesiwn ac i hyn fod yn un ffordd y gellid mynd i'r afael â'r broblem o ddiffyg staff. Felly, a wnewch chi egluro beth sy'n cael ei wneud i sicrhau y caiff y sector gofal plant ei ystyried i fod yn agored i ddynion a menywod?
Cwestiwn 3: fel bob amser, mae cyllid yn ystyriaeth bwysig i unrhyw broffesiwn, ond yn yr achos hwn, mae llawer o'r 17,000 o bobl sy'n gweithio ym maes gofal plant ledled Cymru ar isafswm cyflog. Nawr, rwy'n gwybod bod llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddwch chi'n adolygu'r gyfradd yr ydych chi'n ei thalu am y cynnig gofal plant, gan gynnwys asesiad o effaith newidiadau i'r cyflog byw cenedlaethol. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn ac egluro pa ystyriaeth yr ydych wedi'i rhoi i gysoni'r cyfraddau a delir drwy'r cyfnod sylfaen a'r cynnig gofal plant?
Ac yn olaf, nid oeddwn yn synnu o ddarllen yn eich datganiad eich bod yn awr yn ystyried dichonoldeb ehangu'r arlwy i gefnogi rhieni mewn addysg a hyfforddiant neu sydd ar drothwy dychwelyd i'r gwaith, oherwydd rwy'n credu y byddwch yn ymwybodol, yn sicr, fy mod i fy hun a'm cydweithiwr Suzy Davies AC wedi codi pryderon ynghylch hyn o'r blaen. Rydym ni'n gwybod bod y sector yn cael trafferth gyda'r cynnig fel y mae, felly rwy'n glir nad yw Cymru eto wedi cyrraedd y pwynt lle mae modd ehangu cymhwysedd nawr. Y cwestiwn amlwg i mi, nawr, yw: a wnewch chi egluro erbyn pryd yr ydych chi'n disgwyl i gymhwysedd gael ei ehangu, a sut y bydd y sector yn darparu ar gyfer y cynnydd yn y galw y bydd hyn yn sicr yn ei achosi? Diolch.
Hoffwn ddiolch i Janet Finch-Saunders am ei datganiadau a'i chwestiynau. Mae'n debyg pan rwy'n dweud ei fod yn llwyddiannus iawn, fy mod i'n seilio hynny ar y ffaith ei fod blwyddyn yn gynnar a bod 16,000 o blant yn elwa arno. Ac nid wyf yn credu y gallwn ni gwestiynu'r ffaith ei fod yn llwyddiant mawr.
Cytunaf yn llwyr â hi fod meithrinfeydd yn ganolog i'r cynnig. Wrth imi fynd o amgylch y wlad yn ymweld â meithrinfeydd ac yn gweld beth fu'r effaith arnyn nhw, maen nhw wedi bod yn gadarnhaol yn ddieithriad gan eu bod nhw'n gweld ei fod yn gyfle gwych iddyn nhw, ac roedden nhw'n dweud eu bod wedi gallu cynyddu'r niferoedd a chynyddu'r staff. Ond, yn amlwg, rwy'n credu ei bod hi'n gwneud sylw pwysig iawn am y gweithlu, ac un o'r pethau yr ydym ni eisiau ei wneud yw annog y gweithlu i broffesiynoli'r gweithdy. Fel y dywedais, rydym yn annog cymwysterau ac rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y math hwn o waith yn cael ei weld fel gwaith deniadol ac fel swydd bwysig, oherwydd beth allai fod yn bwysicach na gofalu am blant bach iawn a'u magu?
Felly, dyna'r hyn yr ydym ni eisiau ei wneud, ac rydym ni wedi cael ymgyrch—ymgyrch lwyddiannus, ymgyrch o'r enw Gofalwn—a gafodd ei rhedeg gan y Llywodraeth, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Ac mewn gwirionedd, pan ymwelais â'r Alban ychydig wythnosau'n ôl, maen nhw mewn gwirionedd yn defnyddio'r ymgyrch honno i helpu i lywio eu hymgyrch nhw eu hunain. Felly, rydym yn edrych ar hynny.
O ran y swm o arian a delir am y cynnig gofal plant, £4.50 yr awr yn ôl ein gwerthusiad diweddaraf, nid yw'r darparwyr gofal plant wedi mynegi unrhyw bryder mawr ynglŷn â hynny; yn wir, rwy'n credu, yn gyffredinol, eu bod yn derbyn hynny. Rwy'n ymwybodol bod y cynnig yn rhanbarthol yn Lloegr, a'i fod yn newid, ond yr hyn y byddwn yn ei wneud y flwyddyn nesaf yw adolygu hynny a byddwn yn edrych ar y swm.
O ran pryd gaiff y cymhwyster ei ehangu, rydym yn bwriadu cael yr adroddiad adolygu hwn y flwyddyn nesaf, ac yna gobeithiwn allu ei ehangu bryd hynny. Diolch.
Diolch yn fawr. Does dim dwywaith mi oedd y Ddeddf cyllido gofal plant yn un dadleuol iawn o’r cychwyn cyntaf am y rheswm nad oedd o ddim yn cynnwys pob plentyn. Doedd plant oedd â’u rhieni mewn hyfforddiant neu addysg neu’n ddi-waith ddim yn gymwys ar ei gyfer. Felly, mi bleidleisiodd Plaid Cymru yn ei erbyn o. Roedden ni’n teimlo ei fod hi’n hollol annheg bod teuluoedd sydd yn ennill hyd at £200,000 y flwyddyn yn gallu cael gofal plant am ddim tra bo’r plant tlotaf sy’n byw ar aelwydydd di-waith yn cael eu heithrio rhag mwynhau’r manteision amlwg ddaw o ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar. Ond, mi oedd y Gweinidog ar y pryd yn benderfynol o fwrw ymlaen efo cynnig cwbl ddiffygiol, a hynny er gwaethaf pryderon y comisiynydd plant a mudiadau plant, er gwaethaf pryderon y pwyllgor plant a phobl ifanc, er gwaethaf pryderon Plaid Cymru a leisiwyd droeon yn y Siambr yma.
Felly, dyma’r Llywodraeth, yn yr haf, yn cyhoeddi ei bod hi wedi gwneud tro pedol, a dwi’n falch, o’r diwedd, fod y Llywodraeth hon yn cydnabod ei bod hi wedi gwneud llanast llwyr o’i hymgais gyntaf i gyflwyno ei chynnig gofal plant 30 awr. Ond mae’ch datganiad heddiw yn fy mhryderu. Rydych chi, erbyn hyn, yn ystyried ehangu’r cynnig er mwyn cefnogi rhieni mewn addysg a hyfforddiant. Cytuno'n llwyr. Mi ydych chi, yn anffodus, ddim yn mynd yn ddigon pell, achos rydych chi'n ystyried ei ehangu fo hefyd ar gyfer rhieni sydd ar fin dychwelyd i weithio. Felly, hyd yn oed o dan eich cynllun diwygiedig, bydd yna rai plant yn parhau i beidio â bod yn gymwys ar gyfer gofal plant, gan gynnwys rhai o blant mwyaf anghenus Cymru. Mae hwn yn gam gwag. Mi fyddai Plaid Cymru, mewn Llywodraeth, yn cynnig cyfle i bob plentyn gael manteisio ar ofal plant am ddim.
A wnewch chi egluro, felly, beth ydy eich diffiniad chi o rieni sydd ar fin dychwelyd yn ôl i’r gwaith? A wnewch chi egluro pam nad ydych chi'n mynd i gynnwys pob plentyn wrth i chi ddiwygio'r cynnig? Pam nad ydych chi'n mynd i gynnwys aelwydydd lle mae’r rhieni yn ddi-waith? Pam eich bod chi'n gwahaniaethu yn erbyn rhai plant? Onid ydy pob plentyn yn haeddu cael y cychwyn gorau posib mewn bywyd? Gobeithio y medrwch chi egluro rhesymeg eich bwriad newydd, os gwelwch yn dda.
Gan eich bod chi'n atal y gwaith efo'r Trysorlys, a wnewch chi egluro beth sydd wedi newid, felly, o ran agweddau llywodraeth leol? Ydych chi wedi cael barn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar oblygiadau’r tro pedol yma? A ydyn nhw bellach yn credu—yn wahanol i beth oedden nhw'n ei gredu pan oedd y ddeddfwriaeth yn mynd drwy'r Senedd yma—nad ydy’r system ddim yn rhy fiwrocrataidd a chymhleth a’u bod nhw yn fodlon ei gweinyddu? Dwi ddim yn gwybod beth sydd wedi newid rhwng cyfnod y ddeddfwriaeth a'r cyfnod yma.
Rydych chi'n dweud yn eich datganiad eich bod chi wrth eich bodd bod y cyfnod prawf wedi bod mor llwyddiannus. Ac rwyf innau yn clywed bod nifer fawr o deuluoedd yn fy ardal i yn cymryd mantais o’r cynllun. Ond, dwi'n ymwybodol bod hyn yn creu problemau cyllidebol i'r cynghorau, a dwi'n deall bod arian ychwanegol wedi cael ei ddyrannu i rai cynghorau sir, ond nad ydy hwnnw ddim yn ddigonol o bell ffordd i gwrdd â'r galw. Felly, a wnewch chi egluro sut rydych chi'n bwriadu cau'r bwlch rhwng y galw a’r arian sydd ar gael ar hyn o bryd, os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr iawn i Siân Gwenllian am yr holl sylwadau a wnaeth, a derbyniaf ei sylw nad yw hyn yn cynnwys pob plentyn. Rwy'n falch iawn ein bod bellach yn adolygu ehangu'r cynnig i rieni sydd mewn addysg a hyfforddiant neu'n bwriadu dychwelyd i fyd addysg a hyfforddiant, ac rydym ni hefyd yn cynnwys cyrsiau rhagflas neu fynd i gyfweliadau yn rhan o hynny, felly rydym ni eisiau ei ymestyn mor bell â phosib. Rwy'n gwybod, pan edrychodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar hyn—roeddwn ar y Pwyllgor ar y pryd, felly rwy'n ymwybodol o'r pryder—un o'r argymhellion penodol ac un o'r meysydd roedd y Pwyllgor yn teimlo'n gryf amdano oedd addysg a hyfforddiant. Felly, rwy'n siŵr ei bod yn falch ein bod wedi ymateb i hynny a'n bod yn ei ymestyn i addysg a hyfforddiant.
O ran y sefyllfa ariannol, yn amlwg, oherwydd y nifer fawr o blant sydd wedi eu derbyn flwyddyn yn gynnar, mae hynny'n golygu ein bod yn gwario mwy o arian eleni nag yr oeddem yn ei ddisgwyl. Felly, yn 2018-19, gwariwyd £19.6 miliwn ar ofal plant ac mae'r gyllideb ar gyfer 2019-20 yn £40 miliwn, a dylai hynny fod yn ddigon i gwmpasu'r flwyddyn nesaf, a bydd unrhyw arian ychwanegol sydd ei angen yn rhan o broses arferol y gyllideb yn ystod y flwyddyn, felly ni fydd yn rhaid i'r awdurdodau lleol boeni; byddant yn cael yr arian.
O ran ei weinyddu a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, credaf fod awdurdodau lleol wedi ailfeddwl, gan fy mod yn credu, pan wnaethon nhw ymgymryd â hyn yn gyntaf, roeddent yn teimlo y byddai hyn yn orchwyl beichus ac y byddai yn anodd ei chyflawni, ac rwy'n credu eu bod wedi lleisio'r farn honno, ond maen nhw wedi newid eu meddwl ac maen nhw'n fodlon iawn i barhau â'r gorchwyl. A dyna'r adborth a gawn ni gan yr awdurdodau lleol—eu bod yn gadarnhaol iawn ynghylch gwneud hyn ac y byddent yn hoffi parhau i'w wneud. Ac yng ngoleuni'r ffaith, rwy'n credu, y cânt eu gweld fel y bobl fwyaf llwyddiannus i wneud hynny, oherwydd eu bod yn lleol, yn agos at y teuluoedd ac yn agos at y plant, rwy'n credu mai dyna'r ateb gorau. Felly, maen nhw wedi newid eu meddwl, ac maen nhw nawr yn llawer mwy cadarnhaol ynglŷn â gweinyddu'r cynllun.
A gaf i longyfarch Llywodraeth Cymru am yr hyn y mae'n ei wneud gyda'r cynnig gofal plant? Rwyf wedi gwneud rhai sylwadau eithaf cryf am feysydd megis parchu canlyniad y refferendwm neu adeiladu ffordd liniaru i'r M4, lle nad yw'r Baid Lafur wedi dilyn ei maniffesto, ond o ran hyn rydych chi wedi—yn wir, cyflawni hyn flwyddyn yn gynnar. Rwy'n eich llongyfarch ar hynny.
Sylwais hefyd fod y cynnig a oedd yn bodoli eisoes yn canolbwyntio llawer mwy ar ddarpariaeth y sector cyhoeddus drwy ysgolion yng Nghymru, o'i gymharu â'r hyn a oedd wedi datblygu yn Lloegr. Rwy'n nodi bod y ffordd yr ydych chi wedi cyflwyno hyn i'w weld yn deg i'r sectorau preifat a chyhoeddus, ac yn caniatáu iddyn nhw gystadlu neu, lle bo'n briodol, weithio gyda'i gilydd ar delerau cyfartal. Felly, unwaith eto, hoffwn roi clod i Lywodraeth Cymru yn hynny o beth.
Fe wnaethoch chi ddweud eich bod yn falch iawn o ddweud wrth Aelodau'r Cynulliad bod y cynnig wedi bod ar gael drwy Gymru gyfan ers mis Ebrill. Ni allaf ond dyfalu pam nad ydych chi ond yn dweud wrthym amdano nawr. Pam na chawsom ni gyhoeddiad swyddogol ym mis Ebrill? Gobeithio nad oes gwahaniaeth ganddo fy mod i'n dweud, ond bu'n rhaid i mi ddibynnu ar y Gweinidog blaenorol, Huw Irranca-Davies, a phan ofynnais iddo, dywedodd, 'o na, rydym ni'n gwneud hyn. Mae'r cyfan yn digwydd ledled Cymru ym mis Ebrill', ac roedd hi'n ymddangos fel petai neb yn gwybod. Dydw i ddim yn deall pam rydych wedi bod yn cuddio'ch golau o dan lestr ar y mater hwn. Rwy'n credu fy mod wedi gofyn i Huw, a dywedodd Huw fy mod yn cael siarad am y peth ac nad oedd yn gyfrinachol, dim ond heb ei gyhoeddi, dyna'r cwbl.
Y cyflwyno. Mae 60 y cant o'r holl rieni sy'n defnyddio'r cynnig yn ennill llai na'r incwm canolrifol; rwy'n credu bod hynny'n eithaf sylweddol. Yn aml, mae'n ymddangos bod gan bobl ryw syniad bod y rhai cefnog yn elwa'n anghymesur ar hyn. Tybed, Gweinidog, faint o hynny sy'n adlewyrchu problem garfan, ddemograffig o ran bod rhieni ifanc yn iau na'r oedran pan fo enillion ar eu hanterth yn eithaf aml. A hefyd, rwy'n credu bod angen i ni gydnabod bod newidiadau yn y system drethi a budd-daliadau ar lefel y DU wedi tueddu i gosbi'r grŵp hwn, o gymharu â phensiynwyr o leiaf, dros y degawd diwethaf. Mae'n dda gweld eich bod chi'n mabwysiadu rhai o syniadau' r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Rwy'n credu, yn enwedig pan fo rhieni yn astudio neu ar fin cael swydd, ei bod hi'n dda rhoi mwy o gefnogaeth.
Tybed o ran dewis rhwng Cyllid a Thollau ei Mawrhydi ac awdurdodau lleol, yn gyntaf, Gweinidog, bu i chi a mi ac ychydig o gydweithwyr dethol dreulio cryn dipyn o amser ar bwyllgor Bil yn rhoi pwerau i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi rannu data a gwneud y gwaith hwn. Meddwl wyf i, tybed a oedd ein gwaith ar hynny'n ofer, a faint, hefyd, sydd wedi'i wario eisoes ar y rhyngweithio hwnnw â Chyllid a Thollau ei Mawrhydi nad yw'n cael ei ddatblygu. Tybed hefyd beth yw'r goblygiadau o ran cymhwyso a gorfodi'r gofynion cymhwysedd. Efallai eich bod yn teimlo'n fwy cartrefol ynglŷn â'r gofynion cymhwysedd nag yr oeddech chi, ac nid yn poeni cymaint, ond mae'n ymddangos i mi fod Cyllid a Thollau ei Mawrhydi wedi cael y data hwn, ac ar gyfer ein gofal plant di-dreth mae'n rhaid i ni gadarnhau bob tri mis ein bod yn dal yn gymwys yn ôl meini prawf amrywiol. A oes gan yr awdurdodau lleol yr un gallu â Chyllid a Thollau ei Mawrhydi i wybod beth yw'r enillion ac i orfodi os nad yw pobl yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd mwyach?
Yn olaf, a gaf i bwysleisio eto mor bwysig yw'r gofal plant di-dreth? Bydd llawer o rieni sy'n derbyn y cynnig hwn yn talu am ofal plant ychwanegol, ac ofnaf nad yw niferoedd mawr iawn ohonyn nhw'n elwa ar gynllun gofal plant di-dreth y DU. Credwn mai un peth cadarnhaol o weithio gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi oedd y byddai pobl yn sefydlu cyfrif a byddai'r rhwystr rhag iddyn nhw elwa wedyn ar y gofal plant di-dreth hefyd yn llai. Mae hwnnw'n arian sy'n dod gan Lywodraeth y DU a fyddai'n dod i Gymru i gefnogi'r sector, i hybu incwm pobl y gallent ei wario wedyn yng Nghymru. Gofynnaf i'r Gweinidog: a allech chi fel Llywodraeth Cymru wneud mwy i hyrwyddo a gwneud pobl yn ymwybodol o'r ffaith bod y cynllun hwn ar gael, a phe bydden nhw'n sefydlu cyfrif gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi, y cai swm ei ychwanegu at bob £8 a roddir ynddo ac y gallant wedyn dalu am werth £10 o ofal plant, ar ben y cynnig y maen nhw'n ei gael gan Lywodraeth Cymru?
Diolch i Mark Reckless am y pwyntiau hynny, ac rwy'n falch ei fod yn cydnabod ein bod wedi dilyn ein maniffesto yma yng Nghymru a'n bod yn gweithio gyda'r sectorau cyhoeddus a phreifat. Un o'r materion sydd wedi codi yw'r anhawster, weithiau, pan fo'r lleoliad gofal ymhell o'r ysgol, ac felly rydym wedi annog cydleoli lle bo hynny'n bosibl. Rydym ni hefyd wedi rhoi grantiau i ddatblygu meithrinfeydd y sector preifat mewn ffordd sy'n eu gwneud yn fwy agored ac mewn gwell sefyllfa i gymryd mwy o blant. Felly, rydym ni wedi ceisio helpu gyda'r arian cyfalaf hefyd o ran helpu meithrinfeydd i ddatblygu.
O ran y £60,000, rwy'n credu ei fod efallai'n gwneud pwynt dilys ynglŷn â rhieni ifanc, ond mae'n ddiddorol, yn ôl ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, mai dim ond 3.1 y cant o holl bobl Cymru sy'n ennill dros £60,000.
Chwe deg y cant.
Ie. Ac mae'r niferoedd sy'n ennill dros £80,000 neu dros £100,000 yn llai fyth, felly mewn gwirionedd nid oes llawer o bobl gyfoethog yng Nghymru o ran y niferoedd hynny.
Felly, fe wnaethom ni dreulio llawer o amser ar y pwyllgor yn edrych ar fater Cyllid a Thollau ei Mawrhydi—amser maith—a hoffwn ddiolch i'r Aelodau hynny o'r pwyllgor a fu'n rhan o hynny, ac roeddwn yn rhan ohono hefyd, ond roedd yn broses o ddysgu. Yr hyn a welsom ni oedd, nid yn unig fod rhai costau nad oeddem yn eu rhagweld, ond hefyd bod y cyfnod o edrych ar sut y byddai'n gweithio gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi yn dangos inni y gallai fod rhywfaint o anhyblygrwydd, er enghraifft, pe baem ni eisiau newid ein cynnig ac nad oedd ein cynnig yn cyd-fynd ryw lawer, fel sy'n wir ar hyn o bryd, â'r arlwy yn Lloegr. Ac, wrth gwrs, mae ymestyn i addysg a hyfforddiant yn golygu bod yn rhaid ymdrin â hynny yn lleol beth bynnag. Hefyd, rydym ni eisoes wedi ymrwymo i dalu rhieni maeth a grwpiau eraill, y byddai'n rhaid ymdrin â nhw yn lleol beth bynnag. Felly, gwnaed y penderfyniad, mewn gwirionedd, y byddai'n well aros gyda'r awdurdodau lleol, yn enwedig gan fod yr awdurdodau lleol yn falch o fwrw ymlaen â'r gwaith. Felly, gwnaed y penderfyniad, ac nid oedd yr arian a wariwyd wrth wneud hynny yn wastraff oherwydd iddo gael ei ddefnyddio er mwyn gwneud penderfyniad mwy hirdymor, a bydd y gwaith a wnaethom ni gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi o fudd mawr yn y tymor hir.
Gofal plant di-dreth: oes, mae'n rhaid inni wneud popeth a allwn ni i'w hysbysebu, oherwydd mae'r nifer sy'n elwa o hynny yn druenus o isel.
Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad. Mae'n dda gwybod ein bod yn gwneud cynnydd cadarn o ran cyflwyno'r cynnig a oedd yn y maniffesto. Mae cydleoli yn hynod bwysig oherwydd fel arall mae perygl bod pobl yn gorfod cadw eu plentyn mewn meithrinfa nad yw'n cynnig yr addysg gynnar y mae gan bob plentyn tair a phedair oed yr hawl iddi hefyd. Felly mae gen i ddiddordeb arbennig mewn gweld, wrth i chi fireinio'r cynnig a phan rydych chi'n cynnal trafodaethau gydag awdurdodau lleol, pa mor fanwl ydych chi'n edrych ar ysgolion bro ac y dylai pob ysgol fod yn ysgol fro, oherwydd eu bod yn adeiladau cyhoeddus a ariennir gan y trethdalwr ar gyfer gwasanaethu'r gymuned, ac mae'n drueni os nad yw ysgolion yn cael eu defnyddio mwy na dim ond rhwng 9 y bore a 3.30 y pnawn. Ni fydd yn berthnasol i bob ysgol, oherwydd nid oes gan rai ysgolion y gallu i ymgymryd â mwy o weithgareddau, ond mae gan rai o'r ysgolion cynradd yn fy etholaeth i dir sylweddol ynghlwm wrth yr ysgol, ac mae hynny'n hollol wych, ond byddai'n berffaith bosib cyflwyno canolfan blynyddoedd cynnar ar y safleoedd hynny, sef tir y mae'r cyhoedd eisoes yn berchen arno, a byddai hynny'n cefnogi integreiddio'r gofal plant ag addysg feithrin sef yr hyn rwy'n sicr, yn y tymor hir, yr ydym ni i gyd eisiau ei weld yn rhywbeth y mae gan ein plant yr hawl iddo. Felly dim ond meddwl oeddwn i tybed pa drafodaethau sy'n mynd rhagddyn nhw wrth i chi gynnal yr adolygiad hwn i weld a allwn ni fwrw ymlaen â'r agenda honno.
Diolch i Jenny Rathbone am y sylw yna. Ydw, rwy'n cytuno â hi ynglŷn ag ysgolion bro, ac rwy'n sicr yn cytuno ynglŷn â chyd-leoli. Dyma drafodaeth yr ydym ni wedi bod yn ei chael. Fel y mae hi'n dweud, ceir llawer o ysgolion lle gallech chi ddatblygu darpariaeth gofal plant ar y safle, neu lle gallwch chi helpu i ychwanegu at rywbeth sydd eisoes ar y safle, ac rydym ni wedi gwneud cryn dipyn o hynny'n barod gyda'r grantiau cyfalaf y soniais amdanyn nhw. Rydym ni wedi bod yn rhoi nifer fawr o grantiau cyfalaf, ac mae'r Gweinidog addysg yn ymwybodol iawn o hyn. Credaf mai un o'r manteision o gydleoli ar y safle, a allai fod yn feithrinfa wirfoddol neu annibynnol, yw bod hynny'n lleihau'r teithio rhwng y lleoliad gofal a'r ysgol, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn, gan ein bod wedi siarad am ein hôl troed carbon, a hefyd, i'r plant, os oes rhaid i chi deithio'n rhy bell, rwy'n credu ei fod yn aflonyddu arnyn nhw. Felly, rwy'n credu ein bod ni wedi gwyntyllu hynny'n fanwl ac rwy'n credu ei bod yn gwneud sylw dilys iawn.
Mae'n hyfryd cael y datganiad hwn a gweld hyn yn gwneud cynnydd mor dda, a hefyd gweld bod Llywodraeth Cymru yn wir yn gwrando ac yn addasu'r cynnig wrth symud ymlaen. Mae hynny'n arwydd o Lywodraeth dda, mae'n rhaid i mi ddweud. Ond dydw i ddim yn gwybod a fyddai hi'n cytuno â mi y byddai rhieni'r 16,000 o blant sy'n elwa ar hyn o bryd yn anghytuno â disgrifiad Siân Gwenllian funudau'n ôl sef 'llanast llwyr', a'r darparwyr, mae'n rhaid i mi ddweud, sydd wedi gweld manteision diriaethol hyn i'r plant o ran addysg y blynyddoedd cynnar, o ran cymdeithasoli a datblygu sgiliau cymdeithasol. Ond cynnig cyfyngedig ydoedd beth bynnag, wedi'i gyfyngu i'r disgrifiad ohono yn y maniffesto.
Felly, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru nawr mewn gwirionedd yn ystyried ei ymestyn, ond mae gennyf gwestiwn ynghylch hynny. Ceir cynlluniau sy'n bodoli eisoes o ran cymorth ar gyfer hyfforddiant ac addysg i rieni. Un peth y mae'n rhaid i ni ei osgoi yw defnydd gwastraffus o adnoddau, felly os ydym yn ystyried ymestyn y cynnig i hynny, a allwn ni wneud yn siŵr bod yna gyswllt; nad ydym ni mewn gwirionedd yn dyblygu'r hyn sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd? Byddai'n wych pe gallai'r Gweinidog Cyllid ddod o hyd i arian ychwanegol i wneud hyn, oherwydd roedd hi wastad yn uchelgais gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, pan ymddangosais ger ei fron, i wneud mwy. Felly, y tu hwnt i hynny, hoffwn ofyn i'r Gweinidog sut y mae'r trafodaethau yn mynd rhagddyn nhw yn y Llywodraeth ynghylch cynnig ehangach sydd y tu hwnt i'r arlwy gofal plant. Nawr, nid wyf yn disgwyl iddi gyflwyno glasbrint heddiw ar gyfer y ffordd ymlaen, ond gwyddom i gyd mai'r ffordd ddelfrydol ymlaen mewn gwirionedd yw cynnig blynyddoedd cynnar a gofal plant sy'n gyffredinol, yn gynhwysfawr ac mewn gwirionedd yn dechrau gyda nifer yr oriau sy'n briodol i oedran a chyda dysgu sy'n briodol i oedran yn flwydd oed, yn ddwy flwydd oed, ac ati. Mae'n mynd ymhell y tu hwnt i hyn—felly, nid dim ond i rieni mewn addysg neu hyfforddiant, ond ymhell bell y tu hwnt i hynny.
Nawr, pan adawais y swydd, rwy'n gwybod roedd swyddogion yn gweithio'n galed iawn a bod y Cabinet wedi cymeradwyo papur a oedd yn mynd i ddatblygu rhywfaint o'r gwaith hwn, felly byddai'n ddiddorol gwybod a yw hynny'n dal i fynd rhagddo hyd yn oed os na allwn ni gael disgrifiad manwl heddiw, oherwydd, yn y pen draw, dyna'r ffordd ymlaen.
O ran Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, os yw awdurdodau lleol wedi newid eu barn am hyn, rwy'n credu bod hynny'n wych, ac rydym ni wastad wedi nodi tri dewis posib: y fersiwn a wnaed yng Nghymru, fersiwn Cyllid a Thollau ei Mawrhydi ac asiantaeth newydd—drud iawn. Mae gan ddull Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, sy'n bwrpasol, fanteision o fod wedi ei fodelu ochr yn ochr â model y DU, ond yr anfanteision o fod wedi ei fodelu ar y cyd â model Lloegr, hefyd. Felly, os yw'r costau wedi mynd drwy'r to o ran y rheini, mae'n gwbl ddealladwy dychwelyd at awdurdodau lleol, yn enwedig os ydyn nhw wedi newid eu meddwl. Ond, a gaf i ofyn a fydd unrhyw ddiwygio o ran y gost i awdurdodau lleol? Oherwydd un o'r pryderon gwreiddiol oedd y gost a'r fiwrocratiaeth, a chyda'r fiwrocratiaeth honno daw cost. Nawr, tybiaf y bydd y Gweinidog yn ateb gan ddweud mai'r gwersi a ddysgwyd gennym ni gan rai o'r awdurdodau lleol hynny sydd bellach yn darparu'r gwaith trefnu a'r gwaith gweinyddu ar gyfer awdurdodau lleol eraill yw inni fod yn fwy cost effeithiol a'u bod nhw wedi dysgu sut i wneud hynny'n eithaf rhwydd. Rwy'n credu mai dyma'r sefyllfa, mewn gwirionedd, ym Mhowys, lle caiff y cynllun ei ddarparu gan awdurdod lleol gwahanol ar gyfer yr ardal gyfan. A yw hynny'n wir ac a gaiff costau eu diwygio?
A'r peth olaf yr hoffwn ei ofyn, gan nad oedd yn y datganiad, yw beth yw'r sefyllfa o ran darpariaeth yn y Gymraeg? Rwy'n gwybod y bu trafodaeth dda yn fy ardal i ynglŷn â sicrhau y caiff y ddarpariaeth Gymraeg ei chynllunio'n dda a'n bod yn ei hehangu. Mae'n ddrwg gennyf, dywedais mai dyna oedd y cwestiwn olaf. Y cwestiwn olaf yw: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr—yn draddodiadol, buont yn gor-ddarparu ar gyfer y blynyddoedd cynnar a'r cyfnod sylfaen gan gynnig oddeutu 25 awr neu hyd yn oed 30 awr y plentyn, sy'n llawer mwy hael nag awdurdodau lleol eraill. Rwy'n gwybod y bu ei swyddogion yn trafod gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynghylch sut y gallwn ni osgoi cyflwyno hyn ac amharu mewn gwirionedd ar yr hyn a oedd yn dda iawn ac eisoes ar waith. Sut aeth y trafodaethau hynny? A yw'r trafodaethau hynny'n dal i fynd rhagddyn nhw gyda'i swyddogion a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr?
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Huw Irranca-Davies am y pwyntiau yna. Yn sicr, dydym ni ddim eisiau unrhyw ddyblygu a dyna pam, wrth ymestyn y cynnig i addysg a hyfforddiant, ein bod yn edrych ar y bylchau yn y system, oherwydd mae sawl ffordd o gael rhywfaint o gymorth ar gyfer gofal plant os ydych chi mewn addysg a hyfforddiant. Y peth olaf yr ydym ni eisiau ei wneud yw dyblygu pan fo gennym ni adnoddau prin iawn. Felly, rydym ni'n sicr yn edrych ar hynny.
Byddai'n gwbl ddelfrydol cael cynnig cyffredinol a fyddai ar gael i bob plentyn, fel y cynnig Scandinafaidd, a chredaf, mae'n debyg, y byddai pawb yn y Siambr hon eisiau inni gyrraedd sefyllfa o'r fath. Pan oeddech chi yn y swydd, roedd y swyddogion yn edrych ar weledigaeth hirdymor. Rydym ni'n dal i edrych ar hynny. Rwy'n credu mai dyna'r math o beth yr hoffem ni ymgyrraedd ato ond, yn amlwg, mae gennym ni'r broblem o sut rydych chi'n talu am hynny, y mae pawb, yn amlwg, yn ymwybodol ohoni.
Rwy'n credu eich bod yn hollol gywir; rwy'n credu bod yr awdurdodau lleol wedi dysgu sut i wneud hyn oherwydd, yn sicr, rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol eu bod yn gyndyn ar y dechrau, ond rwy'n credu ei bod hi'n gadarnhaol iawn bod arnyn nhw eisiau gwneud hynny nawr. Rwy'n credu y gwelson nhw'r manteision enfawr a fu, a'r 16,000 o blant a gafodd y manteision cadarnhaol hyn, a'u teuluoedd—rwy'n siŵr y gwelsoch chi i gyd y manteision hyn yn eich etholaethau—maen nhw wedi dweud na allant gredu eu bod nhw'n cael y gofal plant hwn am ddim. Felly, rwy'n credu'n wir y dylem ni groesawu hynny, gan ei fod yn gyfle gwych i deuluoedd.
Y Gymraeg: mae 29 y cant o'r plant yn cael darpariaeth Gymraeg, neu ddarpariaeth ddwyieithog, ac rydym ni wedi gwneud ymdrech benodol i geisio estyn allan i sicrhau bod darpariaeth Gymraeg ar gael. Mae'n anoddach cael darparwyr iaith Gymraeg, a dyna'r hyn yr ydym ni hefyd yn ceisio gweithio arno hefyd oherwydd, yn amlwg, rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i uchelgeisiau Llywodraeth Cymru o ran cael mwy o siaradwyr Cymraeg.
Ac o ran Pen-y-bont ar Ogwr, ydynt, mae'r trafodaethau'n dal i fynd rhagddyn nhw, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu parhau â'r trafodaethau hynny nes i ni ddod i gasgliad a fydd yn bodloni'r Aelod.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.