Part of the debate – Senedd Cymru am 6:37 pm ar 24 Medi 2019.
Diolch. Rwy'n dirprwyo ar ran Jenny. Na, na—rydw i yma yn fy rhinwedd fy hun. Diolch, Llywydd. A gaf i, yn gyntaf, groesawu'r datganiad heddiw, ond hefyd naws a sylwedd yr ymatebion a gyflwynwyd gan gyd-Aelodau'r Cynulliad, ac ymateb y Gweinidog hefyd? Fe wnaethom ni gynnal yma yr wythnos diwethaf—roeddwn yn un o gyd-noddwyr digwyddiad mewn ymateb i'r argyfwng yn yr hinsawdd. Roedd yn ddigwyddiad diwrnod o hyd. Ymdriniwyd â sawl maes, gan gynnwys tai. Roedd Rhun ac eraill yno hefyd. Dau beth a ddaeth yn amlwg iawn yn y drafodaeth panel a ddaeth a'r diwrnod i ben, pryd y daeth Aelodau'r Cynulliad draw i drafod eu canfyddiadau gyda nhw, oedd yr angen am gonsensws trawsbleidiol gwirioneddol i fynd â rhai o'r materion hyn yn eu blaen, nid i rwymo llywodraethau'r dyfodol, ond mewn gwirionedd i osod trywydd clir a fyddai'n ein clymu ni i gyd gyda'n gilydd, ond yn ail, fel y gallem ni wneud penderfyniadau tymor hir, hyd yn oed gyda'r brys ynghylch hyn—rhai o'r pethau hyn sy'n mynd ymhell y tu hwnt i gylchoedd etholiadol y bydd yn rhaid i ni lynu wrthyn nhw'n dynn iawn yn wir. Felly, rwy'n croesawu'r datganiad a'r dull o'i weithredu yn fawr.
Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith eich bod yn sefydlu'r grŵp cyllid gwyrdd. Mae elfen o uchelgais yn hyn sy'n dangos, er y gallai seneddau eraill ar hyn o bryd fod yn wynebu pob math o heriau ac anawsterau ac anhrefn i ryw raddau, yma yng Nghymru rydym ni'n ceisio mynd ati i ymateb i argyfwng gwirioneddol yn yr hinsawdd, sydd wedi bodoli ers cryn amser. Nawr, bydd rhai pobl yn dweud bod angen mynd ymhellach ac yn gyflymach, ac ati, ac ati, ac mae Llyr wedi gwneud hynny'n glir eisoes. Ond rwy'n croesawu sefydlu'r grŵp cyllid gwyrdd, oherwydd bydd yn rhaid i hwnnw weithio drwy beth o'r glo mân caled.
Yn hynny o beth, a gaf i ofyn i'r Gweinidog: a yw hi wedi cael amser i ystyried a derbyn yr holl argymhellion sydd wedi'u cyflwyno mewn egwyddor? A yw hi wedi gwneud hyn yng ngoleuni hefyd unrhyw drafodaethau gyda, neu yn sgil unrhyw ddarllen ar gynllun 10 pwynt comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol? Roedd dau o'r pwyntiau hynny yn y cynllun 10 pwynt yn ymwneud yn benodol â thai ac adeiladau. Roedd un yn ymwneud ag ôl-osod, ac roedd yn rhoi cost i Lywodraeth Cymru o tua £300 miliwn, ond cyfanswm o £1 biliwn y flwyddyn. Felly, bydd yn rhaid i'r grŵp cyllid gwyrdd hwnnw weithio'n galed i gyflawni'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud, ond yn sicr yr uchelgais sydd gan gomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol. Ac o ran cartrefi newydd—dylai pob cartref ac adeilad cyhoeddus newydd fod yn ddi-garbon o 2020, gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o'r £90 miliwn diweddar drwy eich rhaglen tai arloesol, yr ydym ni wedi sôn amdani yn y fan yma. Felly, a edrychwyd ar hynny o ran derbyn yr argymhellion hyn mewn egwyddor? Ac a wnaiff hi dderbyn hefyd y bydd angen inni ailedrych ar y rhain eto, yng ngoleuni'r angen i gynyddu ein huchelgais yn gyson hefyd?
Yn olaf, hoffwn adleisio pwynt Llyr o ran, os ydym yn mynd i yrru hyn ymlaen yn gyflym, yn enwedig o ran ôl-osod, mae gwir angen i ni wneud yn siŵr y caiff ei wneud yn iawn. Un o'r gwersi yr ydym ni wedi'u dysgu yw ei fod wedi cynhyrchu—. Pan fydd gennych strategaeth ddiwydiannol werdd uchelgeisiol iawn, lle mae pobl hwnt ac yma yn cynnig gwneud y gwaith o ôl-osod ac ati, bydd yna bobl dda iawn yn eu plith, ond weithiau bydd gennych bobl sy'n rhoi'r cyngor anghywir ac yn gosod y pethau anghywir.
Mae yna ddyn yn Nhondu yn fy ardal i a fydd yn colli ei dŷ oherwydd hyn. Mae wedi costio tua £60,000 neu fwy yn barod o ran ei gartref ei hun, yn ogystal â chost mynd i'r llys ac ati. Mae hyn wedi dinistrio ef a'i deulu. Felly, er gwaetha'r holl enghreifftiau da sydd ar gael, ac mae yna lawer, mae angen i ni osgoi'r ansawdd gwael hwnnw gan weithwyr ffwrdd-a-hi, sy'n rhoi'r cyngor anghywir. O ran ôl-osod, sut ydym ni'n gwneud yn siŵr y bydd hynny'n digwydd yn ddigon cyflym a thrylwyr wrth inni fwrw ymlaen?