Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 25 Medi 2019.
Rwy'n croesawu cyhoeddiad y canllawiau statudol a ddaeth i rym ar ddechrau'r mis, ac mae'n gwneud y wisg ysgol yn fwy fforddiadwy, yn fwy hygyrch ac yn niwtral o ran rhywedd. Er bod mwy o hyblygrwydd o fewn y system, gellir gorfodi'r rhai sy'n cael grantiau i fynd at un cyflenwr yn unig; mae hynny'n wir yn achos un ysgol yn fy etholaeth yn y Rhondda. Gwn hefyd nad yw rhai ysgolion yn rhoi caniatâd i'r logo gael ei frodio ar ddillad generig, sef yr opsiwn mwyaf economaidd yn aml, a rhywbeth sy'n arbennig o bwysig i deuluoedd ar incwm isel. Felly, a oes angen ailedrych ar eich canllawiau statudol er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i rieni, p'un a ydynt yn cael grant ai peidio?