Mercher, 25 Medi 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r enwebiadau ar gyfer cadeirydd pwyllgor. Ddoe, fe fyddwch chi'n cofio bod y Cynulliad, ar gynnig o dan Reol Sefydlog 17.2A i bennu Cadeirydd y...
Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Michelle Brown.
1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ba mor effeithiol yw addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion? OAQ54370
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4 yn cael mynediad i gyrsiau galwedigaethol? OAQ54368
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Suzy Davies.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fforddiadwyedd gwisgoedd ysgol yng Nghymru? OAQ54392
4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi ysgolion gwledig Llywodraeth Cymru? OAQ54375
5. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chonsortia gwella ysgolion Cymru? OAQ54367
7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r amserlenni sy'n gysylltiedig â gweithredu'r system anghenion dysgu ychwanegol? OAQ54383
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno asesiadau personol ar-lein i ddysgwyr ac ysgolion? OAQ54362
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi plant mewn ysgolion, sydd â'u teuluoedd yn y lluoedd? OAQ54365
Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan John Griffiths.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros am ddiagnosis ar ôl i'r GIG ganfod amheuaeth o ganser? OAQ54385
2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ran nifer y bobl y bydd penderfyniad y GIG yng Nghymru yn effeithio arnynt, i ddilyn y dull a gymerwyd gan y GIG yn Lloegr a chael gwared ar eitemau...
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gadw staff yn y GIG yng Nghymru? OAQ54384
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau marwolaethau oherwydd canser yng ngogledd Cymru? OAQ54387
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol yng Nghymru? OAQ54393
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno'r gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf? OAQ54359
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau marwolaethau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau ym Môn? OAQ54389
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith traws-lywodraethol sy'n ystyried ardoll gofal cymdeithasol? OAQ54380
Yr eitem nesaf yw cwestiynau amserol. Dwi wedi dewis un cwestiwn i'w ofyn i'r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn gan Bethan Sayed.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y ffaith bod Thomas Cook yn cau? 341
Yr eitem nesaf yw'r datganiad 90 eiliad. Angela Burns.
Yr eitem nesaf, eitem 5, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar hawliau pleidleisio i garcharorion. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y...
Iawn, symudwn ymlaen yn awr at eitem 6, dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant y Llywodraeth, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Llyr Gruffudd.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 3 a 4 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 5 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 4, caiff gwelliant 5 ei ddad-ddethol.
Ac rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, oni bai bod yna dri Aelod sydd yn moyn i fi ganu'r gloch. Felly, y bleidlais—yr unig bleidlais yw'r bleidlais ar ddadl y Blaid Brexit ar y...
Ac felly rŷn ni'n cyrraedd yr eitem olaf ar yr agenda heddiw—yr eitem honno yw'r ddadl fer. Gofynnaf i Aelodau adael y Siambr yn gyflym ac yn dawel, a dwi'n galw ar Jayne Bryant i...
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol llawfeddygaeth frys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia