Gwisgoedd Ysgol

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 25 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 1:57, 25 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, i ategu gwestiwn Leanne Wood, rwy'n eich cefnogi'n llwyr yn eich nod clodwiw o gadw cost gwisgoedd ysgol i lawr. Fodd bynnag, sylwaf fod eich canllawiau'n caniatáu i ysgolion benderfynu a yw eu logos yn gwbl angenrheidiol. Credaf fod logos yn mynegi cenhadaeth ac ysbryd ysgol, ac yn destun balchder i ddisgyblion, rhieni a staff, ac yn creu ymdeimlad o gymuned ymhlith plant yr ysgolion hynny. O gofio hyn, a fyddech yn ymuno â mi i annog cynifer o ysgolion â phosibl i gadw eu logos fel symbol o'u hunaniaeth? Diolch.