Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 25 Medi 2019.
Diolch am eich cwestiwn, Mr Hamilton. Rwy'n cyfarfod â'r consortia addysg rhanbarthol bob blwyddyn fel rhan o sesiynau gwerthuso a gwella rheolaidd. Rwy'n disgwyl cyfarfod â hwy eto yr hydref hwn. Mae fy nghyfarwyddwr addysg yn cyfarfod yn rheolaidd â phob rhanbarth ac yn rhoi adborth iddynt. Rwyf hefyd yn cyfarfod â'r rhanbarthau'n unigol i drafod materion o bwys pan fyddant yn codi.