Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 25 Medi 2019.
Lywydd, mae'n siomedig nad yw Mr Hamilton fel pe bai'n deall trefniadau llywodraethu'r consortia rhanbarthol. Mae'r consortia'n gweithio ar ran awdurdodau lleol i arwain, trefnu a chydlynu'r gwelliannau mewn ysgolion ar draws y rhanbarth. Sefydlodd awdurdodau lleol y gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol yn 2014 o dan y model cenedlaethol ar gyfer gweithio'n rhanbarthol. Dylwn bwysleisio nad yw consortia rhanbarthol yn haen ychwanegol o fiwrocratiaeth. Lle byddant yn dilyn y model cenedlaethol, maent yn atgyfnerthu gweithgareddau gwella ysgolion eu hawdurdodau lleol cyfansoddol ac yn eu darparu ar sail ranbarthol.