Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 25 Medi 2019.
Diolch yn fawr iawn. Fel y nodwyd yn fy natganiad ar 17 Medi, mae'r swyddogaethau statudol a grëwyd gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn dechrau ym mis Ionawr 2021, a bydd y system ADY newydd yn dechrau fesul cam o fis Medi 2021 ymlaen. Cyflwynir y cod a'r rheoliadau gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn 2020 i'w cymeradwyo.