Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 25 Medi 2019.
Yn ogystal â hynny, bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod wedi ysgrifennu ati ar 16 Gorffennaf ar ran clwstwr o ysgolion ym mwrdeistref sirol Caerffili, yn enwedig Glyn-Gaer yn fy etholaeth. Roedd ganddynt bryderon am y ffordd y cynhelid y profion yn yr ysgol, y ffaith na allech gyflawni rhai gweithgareddau o fewn y profion, a bod y canlyniadau'n anodd i athrawon eu dehongli'n hawdd ac yn gyflym. Soniodd yn ei datganiad fod newidiadau wedi'u gwneud a bod gwelliannau wedi cael sylw. Ond gyda hynny mewn golwg, a allwch gadarnhau eich bod wedi cyfarfod â'r ysgolion a ysgrifennodd atoch, neu fod eich swyddogion wedi cyfarfod â'r ysgolion sydd wedi ysgrifennu atoch, a pha gamau a gymerwyd yn uniongyrchol gyda'r ysgolion hynny o ganlyniad?