Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 25 Medi 2019.
Lywydd, rwy'n atgoffa'r Siambr fy mod ar gorff llywodraethu dwy ysgol arbennig. Rydym yn nhir neb ar hyn o bryd. Rwy'n croesawu'r symudiad oddi wrth ddatganiadau, yn enwedig o ran yr hyblygrwydd sydd ei angen arnom. Mae gan blant amrywiaeth o broblemau weithiau, ac efallai na fydd rhai ohonynt yn cyrraedd trothwy'r datganiad. I ble y gallant fynd? Mae angen ymyriadau go iawn arnynt o hyd. Ond nodais sylwadau cytbwys SNAP Cymru, a oedd yn dweud ein bod yn y cyfnod anodd hwn rhwng dwy system, ac rwy'n pryderu na fydd rhai plant yn cael y cymorth addysgol y maent ei angen, ac mae'n rhaid i hynny fod—. Yn y flwyddyn nesaf, mae'n rhaid i ni bwysleisio y bydd y system sydd ar waith ar hyn o bryd yn parhau hyd nes y caiff ei disodli.