Amseroedd Aros Canser

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 25 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:21, 25 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, un targed sydd gan Gymru bellach mewn perthynas ag amser aros ar gyfer diagnosis o ganser a thriniaeth canser, ac rwy'n croesawu hynny. Fodd bynnag, mae'n hysbys nad oes gennym y capasiti o ran gwasanaethau diagnosis, ac mae eich Llywodraeth wedi methu cyrraedd ei thargedau ei hun ar gyfer amseroedd aros canser drwy'r llwybr brys ers 2008. Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau'r buddsoddiad sylweddol hwn mewn cyfleusterau canser ledled Cymru i adeiladu'r capasiti sydd ei angen i gyrraedd y targed sengl newydd hwn ar gyfer diagnosis canser?