Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 25 Medi 2019.
Mae'r un math o bwysau gwaith a bylchau mewn rotas, stres a blinder affwysol sydd yn deillio o orweithio achos prinder staff hefyd yn effeithio ar feddygon yn ein hysbytai—blinder affwysol, cyfrifoldeb dychrynllyd dros fywyd a marwolaeth, dim amseroedd gorffwys, dwyster gwaith heb seibiant, peryglon gyrru car wedi gorffen sifftiau ganol nos, a'r teimlad o ddiffyg cefnogaeth, a diffyg cydnabyddiaeth o'r ymrwymiad anferthol i'w cleifion, a'r teimlad hefyd fod gweinyddwyr ysbytai yn ddi-hid i hyn oll ac yn ansensitif weithiau. Felly, beth ydych chi, Weinidog, yn ei wneud i hyrwyddo llesiant ein meddygon yn ein hysbytai?