Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 25 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:28, 25 Medi 2019

Diolch am hynny. Fel rydych chi'n gwybod, yn adroddiad diweddar y pwyllgor iechyd ar nyrsio cymunedol a nyrsio ardal, bu inni dderbyn tystiolaeth a oedd yn darogan—a dwi'n dyfynnu: er yn cydnabod cyfraniad allweddol ein nyrsys cymunedol a'n nyrsys ardal i ddarparu gofal iechyd i'r dyfodol, ni wyddys ryw lawer am y gwasanaeth anweledig yma—'invisible service', fel y'i gelwid. Nid oes darlun manwl gywir ar lefel genedlaethol o'r nifer na chymysgedd sgiliau y timau nyrsio nac o nifer a lefel salwch y cleifion sy'n derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain. Yn naturiol, bydd hyn yn cael effaith ar effeithlonrwydd cynllunio’r gweithlu.

Nawr, dyna beth mae'r dystiolaeth yn ei ddweud. Yn ogystal, cawsom dystiolaeth uniongyrchol o nyrsys yn y gymuned yn gorweithio, o dan straen, mewn system yn gorymestyn eu hunain i ateb y galw, tra roedd penaethiaid byrddau iechyd yn darogan darlun llawer gwahanol o wasanaeth yn cyflawni disgwyliadau. Nid oes data cyflawn ychwaith ar nifer y ffisiotherapyddion na therapyddion galwedigaethol a gyflogir yn y gymuned hefyd. Felly, sut allwch chi gynllunio i symud mwy o ofal iechyd i'r gymuned yn y dyfodol pan nad ydych yn gwybod y nifer na chymhwysedd sgiliau y staff iechyd sydd yn gweithio yna ar hyn o bryd?