Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 25 Medi 2019.
Weinidog, ar gyfer yr wyth math mwyaf cyffredin o ganser, mae cyfraddau goroesi deirgwaith yn fwy pan geir diagnosis cynnar a phan gaiff ei ganfod yn y camau cynharaf yn hytrach nag yn y camau diweddaraf. Wrth gwrs, mae cleifion a'u teuluoedd yn dioddef yr artaith llwyr o'r amheuaeth o ganser i ddiagnosis un ffordd neu'r llall. Rwy'n croesawu'r hyn a grybwyllwyd gennych yn eich ymateb cychwynnol yn fawr, oherwydd mae hwnnw'n gynnydd gwirioneddol sy'n arwyddocaol ac yn bwysig iawn, ond gwn fod cyfyngiadau ar gapasiti yn parhau, megis prinder yn y gweithlu, ac mae hynny'n cyfyngu ar allu'r GIG i wneud diagnosis. Un o ofynion rhai o'r sefydliadau sy'n cynrychioli pobl â chanser a'u teuluoedd yw bod Llywodraeth Cymru yn cynnal archwiliad o staff diagnostig y GIG yng Nghymru ac yna'n mynd i'r afael â'r bylchau sy'n bodoli. A yw hynny'n rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru'n ymrwymo iddo?