Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 25 Medi 2019.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ceir gwerth £0.5 biliwn o leiaf o ôl-groniad o waith cynnal a chadw adeiladau. Rwy'n dweud 'o leiaf' oherwydd nad yw'r rhan fwyaf o fyrddau iechyd lleol hyd yn oed yn gallu fforddio gwneud yr asesiadau sy'n angenrheidiol i bennu graddau'r problemau cynnal a chadw—problemau cynnal a chadw sy'n effeithio ar ofal cleifion. Clywodd BBC Cymru gan staff Ysbyty Athrofaol Cymru a ddywedodd fod yna risgiau o ran heintiau oherwydd bod yn rhaid cludo gwastraff ysbytai mewn lifftiau i gleifion. Weinidog, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i asesu'r risgiau i ddiogelwch cleifion oherwydd gwaith cynnal a chadw gwael, a beth fyddwch chi'n ei wneud yn y blynyddoedd i ddod i ddileu'r ôl-groniad o waith atgyweirio sydd wedi bod yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn?