Cyfraddau Dibyniaeth ar Gyffuriau ac Alcohol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 25 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:50, 25 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddechrau drwy longyfarch Jayne Bryant, ac yn arbennig, Mr Bryant, ar ei ddewis rhagorol, a dymuno'r gorau i chi ar gyfer y dyfodol.

Roedd rhwng 42,000 a 58,500 o bobl yn defnyddio cyffuriau mewn ffordd broblemus yn 2015-16. Yn ôl arolwg cenedlaethol Cymru ar gyfer y flwyddyn wedyn, roedd yna 81,392 o yfwyr niweidiol. Dylwn egluro mai'r diffiniad o yfwyr niweidiol yw dynion sy'n yfed dros 50 uned yr wythnos a menywod sy'n yfed dros 35 uned yr wythnos, ond nid yw pob yfwr niweidiol yn ddibynnol ar alcohol.