Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 25 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:33, 25 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, yn amlwg, mae'r gwaith y mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn ei wneud yn gwbl hanfodol. Mae'n gofalu am y safonau sydd yn ein cartrefi gofal yn benodol, ac mae'n hollbwysig fod yr holl arolygiadau a gynhelir ganddynt yn cael eu gwneud yn ddigon manwl, ac yn cael eu gwneud mewn ffordd ystyriol iawn. Ac rwy'n credu eu bod yn cynnal arolygiadau ystyriol iawn, ac mae gennyf bob hyder ynddynt.