Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 25 Medi 2019.
Gallaf sicrhau'r Aelod fy mod yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda phennaeth Arolygiaeth Gofal Cymru, pan fyddwn yn trafod pob agwedd ar waith yr arolygiaeth. Yn amlwg, mae'r swydd y mae staff yr arolygiaeth yn ei chyflawni yn swydd anodd iawn, oherwydd eu bod yn edrych ar sut y mae ein hoedolion mwyaf agored i niwed yn cael gofal. Ac maent yn gyfan gwbl o ddifrif ynghylch unrhyw dystiolaeth o ofal gwael a welant. A gallaf sicrhau'r Aelod, mewn sefyllfaoedd lle bu’n rhaid iddynt ymyrryd—rwy'n derbyn yn llwyr eu bod yn sefyllfaoedd llawn straen—maent yn gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â’r gwaith, rhoddir ystyriaeth ddifrifol iawn i achosion o chwythu'r chwiban, a gallaf eich sicrhau bod perthynas dda rhwng Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru, ond eu bod yn gweithredu'n annibynnol.