Ardoll Gofal Cymdeithasol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 25 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:05, 25 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, a hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei waith o fewn y Llywodraeth ar fwrw ymlaen â'r gwaith ar draws y Llywodraeth ar ardoll gofal cymdeithasol bosibl. Rwyf bellach yn cadeirio'r bwrdd gweinidogol, a thros y chwe mis diwethaf, rydym wedi ystyried dulliau posibl o godi a dosbarthu cyllid ychwanegol posibl. Rydym yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar egwyddorion meysydd blaenoriaeth ar gyfer unrhyw gyllid, ac edrychaf ymlaen at fod mewn sefyllfa i ysgrifennu at y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol gyda chynigion amlinellol, y byddwn yn ymgynghori arnynt yn eang.