Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 25 Medi 2019.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae adeiladau ein GIG mewn cyflwr gwael ac mae rhai ohonynt yn dadfeilio. Ceir ôl-groniad o waith gwerth £0.25 biliwn y bernir ei fod yn achosi risg uchel neu sylweddol. Nid yw 13 y cant o'r ystâd yn cydymffurfio â mesurau diogelwch. O adeiladau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, dim ond ychydig dros draean ohonynt a ystyrir yn addas yn ymarferol. Weinidog, rydych wedi ymrwymo tua £370 miliwn tuag at brosiectau cyfalaf iechyd eleni—faint ohono a gaiff ei wario ar sicrhau bod adeiladau'r GIG yn ddiogel i gleifion a staff?