Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 25 Medi 2019.
Gwnaf. Ers i'r peilot profi a thrin dolur gwddf ddechrau gyda 58 o fferyllfeydd ym mis Tachwedd y llynedd, cofnodwyd 3,655 o ymgynghoriadau. Dim ond mewn 752 o achosion y cafodd gwrthfiotigau eu presgripsiynu, neu 21 y cant. Rwyf wrth fy modd fod y peilot profi a thrin dolur gwddf wedi ennill y categori arloesedd a thechnoleg yng Ngwobrau Gwarcheidwaid Gwrthfiotig 2019 eleni. Mae hyn yn dangos bod Cymru ar flaen y gad o ran arloesi a buddsoddi mewn fferylliaeth gymunedol.