Ardoll Gofal Cymdeithasol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 25 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 3:08, 25 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae gennym eisoes bobl sy'n gadael Cymru i fyw mewn rhannau eraill o'r gwledydd cartref er mwyn gallu cael gafael ar gyffuriau na allant gael gafael arnynt yma. Felly, o ystyried araith Jeremy Corbyn yn y gynhadledd, pan soniodd am gael gofal cymdeithasol am ddim yn y man darparu, a allech gadarnhau p'un a yw hynny'n un o'r ffrydiau gwaith y mae'r grŵp trawsbleidiol hwn yn gweithio arnynt ar hyn o bryd ai peidio? Os felly, a ydynt yn edrych ar y costiadau hefyd, er mwyn atal y torfeydd rhag gadael Cymru?