Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 25 Medi 2019.
A gaf i ddiolch, o waelod calon, i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl? Rwy'n credu bod y drafodaeth rŷm ni wedi'i chael yn yr awr ddiwethaf yma wedi dangos pa mor werthfawr yw cael y math yma o drafodaeth, ac yn wir sut y byddai, efallai, cael trafodaeth ehangach eto o safbwynt amser a nifer y cyfraniadau yn cyfoethogi ac yn cynorthwyo, yn sicr, y Gweinidog ac eraill wrth ddatblygu cyllideb y Llywodraeth, ond ei bod hi'n bwysig gwneud hynny ar yr adeg ffurfiannol, gynnar yna, yn hytrach na fel rŷm ni wedi ffeindio ein hunain, yn anffodus y tro yma, yn ei chael hi'n hwyrach ymlaen yn y broses nag y byddem ni'n dymuno.
Fe wnaf i bigo lan jest ar ambell un o'r pwyntiau. Dwi'n meddwl y cychwynnodd Nick Ramsay drwy ein hatgoffa ni o bwysigrwydd ymgysylltu â'r cyhoedd yn ehangach, ac yn amlwg mae hynny'n rhywbeth y mae'r Pwyllgor Cyllid yn trio ei wneud. Mae'n rhywbeth y dylai bob pwyllgor yn y Cynulliad yma fod yn ei wneud. Yn wir, dylai bob Aelod bod yn achub ar bob cyfle i ymgysylltu ag etholwyr. Dwi'n credu bod pwynt Mike Hedges ynglŷn â'r ehangu daearyddol yna hefyd, o safbwynt pwy rŷm ni'n siarad â nhw. Ac, wrth gwrs, mae ymgynghoriad y pwyllgor, sydd yn gorffen heddiw, fel yr oeddwn i'n sôn yn gynharach, hefyd yn gyfle i daflu'r rhwyd yna ymhellach.
Roedd hi'n ddiddorol ac yn galonogol clywed nifer o Aelodau'n cyfeirio at ffactorau gwledig, wrth gwrs, fel un o'r meysydd sydd yn gweld tipyn o bwysau ar hyn o bryd. A dwi eisiau diolch i Alun Davies yn enwedig jest am ofyn y cwestiwn, 'Beth ŷm ni'n craffu?' mewn gwirionedd, oherwydd rŷm ni yn cael ein sugno i mewn i graffu llinell wrth linell, lle yn aml iawn, efallai, dŷn ni ddim yn cymryd y cam yna yn ôl i edrych ar siâp y gyllideb gyfan a sut mae hynny'n cysylltu ag amcanion neu uchelgais polisi'r Llywodraeth. Rwy'n credu bod hwnna yn ffactor canolog o'n gwaith ni fel pwyllgor, a phwyllgorau eraill. A phan soniodd e fod ganddo fe dair blaenoriaeth, roeddwn i'n poeni ei fod e'n mynd i ddweud, 'Blaenau Gwent, Blaenau Gwent a Blaenau Gwent', ond wnaeth e ddim, er clod iddo fe: addysg, trafnidiaeth gyhoeddus a newid hinsawdd. Ac, wrth gwrs, dyna'r pwynt. Hynny yw, bydd gan bob Aelod tair blaenoriaeth wahanol, dwi'n siŵr, fel rŷm ni wedi clywed gan eraill heddiw, a dyna yn union fwriad y ddadl yma, wrth gwrs, sef rhoi llwyfan a rhoi llais i'r blaenoriaethau hynny wrth i'r Llywodraeth ffurfio ei chyllideb.
Mi wnaeth Rhun, Dawn Bowden ac eraill sôn am y tensiwn yma rhwng cyllido gwasanaethau iechyd a gwasanaethau eraill, a Mike Hedges hefyd yng nghyd-destun gwerth ataliol buddsoddi mewn gwasanaethau cymdeithasol neu ofal cymdeithasol yn enwedig. Rŷm ni wedi clywed yng nghyd-destun llywodraeth leol—. Mi ddefnyddiodd Nick Ramsay'r term 'saturation point' a dwi wedi clywed 'tipping point' a 'rŷm ni ar ymyl y dibyn.' Mae'r llinellau yma'n gyson yn cael eu dweud wrthym ni, ond dwi yn meddwl bod yr amser wedi dod i'r Llywodraeth 'front-o' lan i hyn a bod angen gwneud rhywbeth nawr am y sefyllfa.
Mi gododd Mark Reckless bwynt pwysig, dwi'n meddwl, ynglŷn â'r disconnect rhwng ymgysylltu â rhanddeiliaid a'n craffu ni o'r gyllideb. Mae yn anochel, fel oedd e'n ei ddweud, oherwydd ei bod hi'n executive-led process ac efallai bod canfyddiad y cyhoedd yn un sy'n awgrymu eu bod nhw'n meddwl bod gennym ni fwy o ddylanwad efallai nag y byddem ni'n licio, yn sicr. Ond nid dim ond yng nghyd-destun cyllid mae hynny'n wir, wrth gwrs. Dwi'n meddwl bod hynny'n wir ym mhob cyd-destun yn aml iawn: y diffyg gwahaniaethu yma rhwng Llywodraeth Cymru a rôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ond eto mae'n tanlinellu, rwy'n credu, yr angen i gryfhau llais Aelodau meinciau cefn ac Aelodau'r Cynulliad yma fel rhan o'r drafodaeth honno.
Dwi'n rhannu'r rhwystredigaeth ynglŷn â'r cylch gwariant un flwyddyn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, dyw hynny ddim wedi stopio, os dwi'n iawn, Llywodraeth yr Alban rhag cynnig sicrwydd mwy hirdymor i'w cyrff cyhoeddus nhw, ond dwi yn deall dyw hi ddim yn hawdd gwneud hynny. Ond mae gwneud hynny hefyd yn caniatáu iddyn nhw ddefnyddio'r arian hwnnw yn fwy effeithiol, ac yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae'n rhaid inni wneud i bob punt weithio mor galed ag sy'n bosib.
Diolch i John Griffiths am ein hatgoffa ni ynglŷn ag addysg a'r angen i ariannu ysgolion, eto yng nghyd-destun y gwariant ataliol yma. Yr hyn ŷn ni'n chwilio amdano fe mewn gwirionedd yw'r shifft yma, ontefe, rhyw fath o decisive shift i fuddsoddiad ataliol, ac mae gwasanaethau ieuenctid, wrth gwrs, yn un rhan bwysig iawn o hynny.
Jest i ymateb yn sydyn i rai o sylwadau'r Gweinidog hefyd, mi gawsom ni restr o brojectau: Ynni Ogwen, I CAN ym Mangor, yr RSPB yn Llyn Efyrnwy, Tai Ceredigion ac yn y blaen. Dwi'n teimlo weithiau mai dyna'r perig, ontefe? Hynny yw, mae modd pwyntio at brojectau unigol i amlygu rhywbeth neu'i gilydd, ond dyw e ddim o reidrwydd yn cynrychioli newid systemig yn y ffordd mae'r Llywodraeth yn mynd ati i greu ei chyllideb. Mae hynny'n dod nôl, rwy'n credu, at yr hyn roedd Alun Davies yn ei ddweud: sut allwn ni gryfhau'r cysylltiad yna rhwng llinellau yn y gyllideb ac uchelgais polisi a chanlyniadau polisi'r Llywodraeth? Hynny yw, y gwahaniaeth yma rhwng outputs ac outcomes, ac rwy'n credu mai yn fanna, os lwyddwn ni i ddatrys fel pwyllgor ac fel Cynulliad ac fel Llywodraeth y conundrum yna a chreu'r cyswllt clir yna, yn hytrach na mynd ati i restru projectau, rwy'n credu efallai y byddwn ni wedi cyrraedd y man lle byddwn i'n licio inni gyrraedd.
Felly, gyda hynny o sylwadau, eto, gaf i ddiolch i'r holl Aelodau am gyfrannu? Dwi'n teimlo ein bod ni wedi cael blas ar y math o drafodaeth y dylen ni fod yn ei chael o gwmpas blaenoriaethau cyllidebol Llywodraeth Cymru, ond i wneud hynny yn y blynyddoedd i ddod yn llawer, llawer cynharach yn y broses. Diolch.