Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 25 Medi 2019.
Ac i mi, y broblem yw methiant gormod o'r bobl sydd o blaid aros, gan gynnwys ac yn enwedig efallai yn San Steffan, i dderbyn canlyniad y refferendwm. Maent wedi treulio tair blynedd a mwy yn tyfu'n fwyfwy hyderus ac yn mynd ymhellach ac ymhellach yn erbyn yr hyn a ddywedasant yn y gorffennol i geisio rhwystro canlyniad y refferendwm hwnnw, ac rwy'n credu mai'r gwrthodiad hwnnw i weithredu'r canlyniad a gwrthodiad elît sydd o blaid aros, y sefydliad efallai, i weithredu penderfyniad eu pleidleiswyr sydd wedi arwain at yr anawsterau a wynebwn yn awr.
Fodd bynnag, hoffwn ganolbwyntio ar ddatganoli a'i drywydd. Roeddwn wedi gobeithio, gyda'r hyn a ddaeth yn Ddeddf Cymru 2017, y byddem yn cyrraedd setliad sefydlog. Mae'n fy nharo bod y system yn gymharol sefydlog mewn llawer o wledydd ledled y byd lle y ceir llywodraeth ddatganoledig ac mewn rhai achosion, llywodraeth ffederal. Mae'n fy nharo bod y DU yn eithriad yn yr ystyr fod yna newidiadau cyfansoddiadol o'r fath sydd wedi parhau cyhyd ac ymddengys nad oes pen draw i'w weld. Roeddwn wedi meddwl y byddai'n gweithio'n well gyda'r modelau cadw pwerau, ac rwy'n meddwl bod rhywfaint o'r bai ar Lywodraeth y DU efallai o ran diffyg hyblygrwydd wrth ymgysylltu â sefydliadau datganoledig i ddod o hyd i setliad a fyddai'n fwy sefydlog o bosibl. Ac yn awr, rwyf i a chyd-aelodau o'm mhlaid hyd yn oed yn gweld meysydd lle byddai'n gwneud synnwyr i gael mwy o ddatganoli, ac rydym ni ein hunain yn amau a yw'r system sefydlog honno'n realistig ag ystyried y setliad a gyrhaeddwyd gennym yn 2017.
Hoffwn dynnu sylw at ddwy enghraifft yma lle rwyf wedi fy mherswadio i raddau helaeth gan areithiau a wnaed gan Weinidogion y Llywodraeth a chan eraill yn y Siambr hon fod yna achos cryf dros ddatganoli pellach. Un o'r rheini yw'r doll teithwyr awyr. Rwy'n credu bod adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig o San Steffan ac arweiniad David T.C. Davies wedi dylanwadu arnaf o ran hynny, ac mae'r adroddiad unfrydol a gawsant, rwy'n credu, yn dweud bod hyn yn rhywbeth y dylid ei ddatganoli o'u goruchwyliaeth hwy i'n goruchwyliaeth ni, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn hapus i'w gefnogi.
Mae'r rheilffyrdd hefyd yn faes lle y cefais fy mherswadio o'r achos dros ragor o ddatganoli, yn rhannol oherwydd y Gweinidog, Ken Skates, sydd, yn fy marn i, yn gwneud achos da iawn dros yr angen am fuddsoddi pellach yng Nghymru. Ond nid mater o arian yn unig ydyw. Mae'n fater o drefniadaeth, ac a dweud y gwir, nid wyf yn teimlo bod strwythur y rheilffyrdd yn y Deyrnas Unedig wedi gweithio'n arbennig o dda. Yn fwyaf arbennig, buaswn yn feirniadol o Network Rail o ran ei reolaeth, ei anhyblygrwydd, ei fiwrocratiaeth, ei un model ar gyfer pawb, ac yn bennaf, ei gost. Mae darparu atebion rheilffyrdd i'w weld mor anhygoel o ddrud. Fe'm trawyd hefyd gan Transport for London a'i lwyddiant cymharol o ran integreiddio, a Mersey Rail yn yr un modd, wrth edrych ar hwnnw'n fwy diweddar. Mae'n fy nharo, o ystyried yr hyn a welsom gan Network Rail a sut y mae'r system wedi gweithio, ond hefyd, rwy'n credu, pa mor dda y gwnaeth Llywodraeth Cymru o ran negodi a chytuno ar fasnachfraint Cymru a'r gororau, rwy'n credu bod yr achos wedi'i wneud dros ddatganoli'r rheilffyrdd. Credaf ein bod wedi gweld problemau ers i Trafnidiaeth Cymru gymryd drosodd, a chredaf eu bod yn mynd yn brin o amser i'w beio ar sail y system flaenorol ac mae angen cymryd cyfrifoldeb, ond yn gyffredinol, credaf fod y cyflawniad yn un y byddem am ei gefnogi, a chredwn y byddai rhagor o ddatganoli yn y maes hwnnw o fudd i Gymru.
Symudaf yn awr at bwynt 4 yn ein cynnig lle y nodwn sefyllfa'r A55, a'r M4 yn fwy diweddar, rwy'n credu, fel rhwydweithiau traws-Ewropeaidd o dan erthyglau 154 i 156 o Gytuniad Rhufain, ac rydym wedi derbyn mesur o oruchwyliaeth yr Undeb Ewropeaidd dros y ffyrdd hynny oherwydd yr effaith y maent yn ei chael ar Iwerddon a'r graddau y maent yn mynd y tu hwnt i ffiniau'r DU. Am yr un rhesymau, a rhesymau cryfach, rwy'n credu, gallem weld achos dros fesur o ymwneud ar ran y DU i'r graddau fod yr hyn sy'n digwydd gyda'r llwybrau hynny'n bwysig iawn, nid yn unig i Gymru, ond i'r DU yn ehangach.
Nid yw yn ei sedd yn awr, ond gwnaeth pwynt a wnaeth Alun Davies yn gynharach wrth edrych ar yr M4 gryn argraff arnaf mewn gwirionedd. Edrychodd ar yr achos economaidd a'r costau a'r manteision, a gwnaeth y pwynt ynghylch pa mor gymharol fach y cyfrifwyd y manteision i'w etholwyr ym Mlaenau Gwent, a gwrthgyferbynnodd hynny â'r manteision sylweddol iawn i bobl sy'n byw ym Mryste a lleoedd gryn dipyn ymhellach na hynny yn Lloegr. Ac fe ddywedodd, yn deg efallai, 'Pam y dylai boeni am y manteision iddynt hwy? Pam y dylem wario arian trethdalwyr Cymru ar hynny?' A chan fod ganddo'r rôl hon bellach yn edrych ar strwythurau'r DU y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi iddo i wneud argymhellion, buaswn yn dweud, 'Ydy, mae'n iawn am hynny', ond os oes gennym system lle y caiff y costau i gyd eu hystyried, gan ein bod yn ysgwyddo'r holl gostau yng Nghymru, ond bod manteision sylweddol iawn i bobl eraill, er enghraifft yn Lloegr, nad ydym yn cymryd unrhyw sylw ohonynt am nad dyna yw ein mandad, onid yw hynny'n awgrymu y gallem fethu buddsoddi'n ddigonol? Ac os oes budd mawr i bobl dros y ffin yn Lloegr mewn gwirionedd, onid oes rôl i Lywodraeth y DU gefnogi'r ffyrdd hynny a thalu amdanynt o bosibl?
Gofynnwyd i'r Cwnsler Cyffredinol nos Sul gan gadeirydd y pwyllgor dethol Cymreig, pe bai ei swyddogion ac eraill yn gweithio i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn rhoi'r arian i dalu am y ffordd liniaru hon, a fyddai'n ei chyflawni. Gobeithio y bydd yn ystyried hynny, oherwydd nid ydym am gyfyngu ar economi Cymru ac ymwahanu oddi wrth Loegr, ac yn enwedig yr ardaloedd mwy ffyniannus. Mae angen inni sicrhau bod y ffordd honno'n weithredol, ac rwy'n credu bod rôl briodol hefyd i Lywodraeth y DU yn hyn o beth wrth inni geisio ymdrin â datganoli mewn modd cytbwys. Mae modd ei gyfiawnhau'n fwy mewn rhai meysydd, ond mae yna feysydd lle y gallem elwa o gymorth Llywodraeth y DU.