Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 25 Medi 2019.
Rwy'n deall hynny, ond nid wyf yn credu eich bod wedi ymateb i'r datganiad a wneuthum ei bod yn ymddangos yn rhyfeddol iawn i lawer o bobl eich bod yn cyflwyno dadl economaidd dros aros yn yr UE, heb wneud yr un ddadl economaidd yn fwy pwerus oherwydd pwysigrwydd ein cysylltiadau economaidd ar draws y DU.
Nawr, o ran safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig, rydym eisoes wedi cofnodi ein bod yn cefnogi datganoli'r rheilffyrdd a mwy o gyfrifoldeb dros y system reilffyrdd yma yng Nghymru, a buaswn yn cytuno'n llwyr â rhai o'r sylwadau a wnaethoch yn arbennig am ddiffyg ymatebolrwydd Network Rail i fod eisiau gwneud yn siŵr fod digon o fuddsoddi a chynnal a chadw yma ar ein rheilffyrdd ledled y wlad. Rwyf wedi'i chael yn anodd iawn ymdrin â hwy ar lefel etholaethol, ac nid oes gennyf amheuaeth nad yw honno'n farn a rennir ar draws y Siambr hon. Hefyd, wrth gwrs, rydym yn cefnogi camau—mewn ffordd wahanol ac yn arddel safbwynt gwahanol i'n plaid yn y DU—i sicrhau bod y doll teithwyr awyr yn cael ei datganoli i Gymru, gan ein bod yn credu bod cyfleoedd economaidd y gallwn eu cael o ddatganoli'r doll teithwyr awyr. Rwy'n credu bod achos posibl hefyd dros ddatganoli rhai materion telathrebu i Gymru, er enghraifft. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am gyflwyno'r cynllun band eang cyflym iawn, ac mae hwnnw wedi bod yn gymharol lwyddiannus mewn llawer ffordd, er bod rhai diffygion o hyd mewn rhannau gwledig o fy etholaeth. Ond unwaith eto, rwy'n credu bod achos da i'w wneud dros gael mwy o gyfrifoldebau i Gymru mewn perthynas â thelathrebu. Mae gennym eisoes gyfrifoldebau cynllunio am bethau megis uchder mastiau ac ati, am deleffoni symudol, ac mae'n gwneud synnwyr perffaith i mi i wneud yn siŵr fod y pethau hynny'n cael eu rhoi at ei gilydd mewn rhyw ffordd, rwy'n meddwl, o ran y sefyllfa yn y dyfodol.
Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd strategol yr M4 a'r A55 a ffyrdd eraill yng Nghymru i rwydwaith y DU, a chredaf y gallwch ddadlau'r ddwy ffordd o ran pwy sy'n gyfrifol am y rheini, ond yn sicr, rydym am weld mwy o fuddsoddi yn ein ffyrdd, oherwydd mae cysylltiadau trafnidiaeth gwell yn helpu i hybu ffyniant. Ni allwn anwybyddu'r ffaith bod cysylltiad gwell ag ardaloedd sy'n llewyrchus yn golygu eich bod yn tueddu i wneud yn well yn economaidd eich hun. Mae tystiolaeth gref iawn fod hynny'n wir, a dyna pam y credwn fod ffyrdd fel yr A55, yr A40, yr M4 a'r llwybrau strategol o'r gogledd i'r de yng Nghymru yn eithriadol o bwysig o ran yr angen i gael gwell cysylltedd ar draws y wlad.
Felly, rydym yn hapus i gydnabod y pethau hynny yn y ddadl hon, ac os gallwn gael dadl hynaws, efallai y cawn rywfaint o gonsensws er mwyn gallu datblygu rhai o'r pethau hyn yn y dyfodol.