7. Dadl y Blaid Brexit: Y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 25 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 6:05, 25 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Oni bai fy mod yn camgymryd yn fawr, rwy'n cofio'r Aelod yn siarad ym mis Gorffennaf am awydd i gael mwy o ddatganoli, ac nid wyf yn credu ei fod wedi bod yn ôl yn y lle hwn cyn i mi glywed adroddiadau amdano'n siarad yng Nghasnewydd yn dweud ei fod bellach am ddiddymu'r Cynulliad. Pam y newid dros doriad yr haf?