Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 1 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:45, 1 Hydref 2019

Rydym ni'n sôn am bwysigrwydd y defnydd o iaith; gadewch imi droi at ddefnydd o'r iaith Gymraeg. Mi oedd hi'n ymddangos bod yna gryn gonsensws wedi'i gyrraedd i roi'r enw 'Senedd' ar y sefydliad yma. Mi fyddai deddfwriaeth newydd yn adlewyrchu'r ffaith mai Welsh Parliament ydy ystyr hynny, ond mi fyddem ni'n rhoi enw cynhenid Cymreig i'r sefydliad o ddechrau'r bennod nesaf yn ei hanes.