1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 1 Hydref 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr a chynrychiolwyr y pleidiau, ac, ar ran Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Trefnydd, mi gafodd llawer o bobl eu dychryn yr wythnos diwethaf gan beth o ddewis iaith Prif Weinidog Prydain yn Nhŷ'r Cyffredin, eu dychryn y byddai fo yn gallu bod mor ddi-hid o ofnau Aelodau Seneddol ynglŷn â thrais corfforol yn eu herbyn, a'i fod o mor barod i amharchu'r cof am Aelod Seneddol gafodd ei llofruddio oherwydd ei daliadau. Ar ba bynnag ochr i'r ddadl Brexit mae rhywun, a wnewch chi ymuno â fi i gondemnio yr hyn glywon ni gan un sydd i fod i ddangos arweiniad?
Yn sicr mi wnaf i ymuno â chi, a byddwn yn atodi fy enw i ac enw'r Llywodraeth, ac rwy'n siŵr ein plaid yn ei chyfanrwydd, o ran cael ein syfrdanu'n llwyr gan yr iaith a ddefnyddiwyd gan Brif Weinidog y DU o ran rhywbeth cwbl ddinistriol ac ofnadwy sydd wedi digwydd. Ac rydym ni'n ei ddeall fel cynrychiolwyr etholedig, ond byddai gan Jo deulu—mi oedd ganddi deulu yn amlwg—y mae hyn wedi peri loes dybryd iddo. Y cwbl y mae'r math o iaith y mae'r Prif Weinidog yn ei ddefnyddio yn ei wneud yw pentyrru mwy o loes ar ben hynny.
Fel y dywedais yn fy nghwestiwn cyntaf, mae'n rhaid i bob un ohonom ni, wrth gwrs, ar ddwy ochr y ddadl gael ein tôn yn gywir. Darllenais ddiweddariad polisi Llywodraeth Cymru ar Brexit, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, 'Dyfodol mwy disglair i Gymru', ac yn y ddogfen honno mae'r Llywodraeth yn awgrymu cynigion, gan gynnwys allgludo ymfudwyr yn ddiannod ac olrhain ymfudwyr drwy yswiriant gwladol. Nawr, gan roi o'r neilltu am eiliad y rhagrith yn y fan yna o ddweud, ar adeg pan bleidleisiodd cynhadledd eich plaid eich hun i gynnal ac ymestyn rhyddid i symud, a ydych chi'n deall pryderon y gallai hyn, mewn gwirionedd, gynyddu synnwyr o greu amgylchedd gelyniaethus tuag at ymfudwyr ac a allai annog mewn gwirionedd y math o anoddefgarwch sydd wedi dod yn gymaint o nodwedd o'r ddadl Brexit?
Rwy'n ofni eich bod chi'n cymysgu dau beth sy'n gwbl ar wahân yn y fan yma, ac rydych chi'n cam-gynrychioli, rwy'n credu, a bod yn deg, yr hyn a ddywedasom yn 'Dyfodol mwy disglair i Gymru', ac yn enwedig yr hyn a ddywedasom am ymfudo. Felly, nid ydym ni wedi argymell allgludiadau gorfodol yn unman yn y ddogfen honno, ac nid ydym ni wedi argymell nac wedi sôn am amgylchedd gelyniaethus i ymfudwyr o unrhyw le yn y byd yn unman ychwaith, na gorfodi cardiau adnabod, sydd, mi wn, yn rhywbeth y mae Plaid Cymru hefyd wedi dweud y byddem ni'n ceisio eu gorfodi. Yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud yw bod angen i'r DU fod yn fwy effeithiol o ran sicrhau bod dinasyddion yr UE sy'n symud yma yn gwneud hynny ar sail deddfwriaeth rhyddid i symud yr UE. Nid yw hynny'n rhoi hawl anghyfyngedig i breswylio mewn gwlad arall yn yr UE neu yn Ardal Economaidd Ewrop, gan fod rhyddid i symud yn berthnasol i bobl gyflogedig neu hunangyflogedig a'r rheini sydd â moddau annibynnol, neu fyfyrwyr. A dyna'n union sy'n digwydd mewn gwledydd eraill ar draws Ewrop ac ar draws yr AEE. Felly, i gymryd Iwerddon, er enghraifft, dim ond am dri mis y caniateir i wladolion yr AEE, ac eithrio'r DU, aros yn Iwerddon fel ceisiwr gwaith, ac ar yr adeg honno, cewch aros dim ond os ydych chi'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig neu os ydych chi'n ariannol ddigonol neu'n fyfyriwr. Ac os edrychwn ni ar Norwy, mae'n rhaid i chi gofrestru gyda'r heddlu o fewn tri mis a gallwch aros hyd at chwe mis fel ceisiwr gwaith, ond, os na chewch chi swydd o fewn chwe mis, mae'n rhaid i chi adael Norwy, a Norwy, wrth gwrs, sydd yn y safle uchaf ar fynegai democratiaeth Uned Gwybodaeth yr Economist. Felly, mae'r hyn yr ydym ni'n ei awgrymu yn cyd-fynd yn bendant â'n rheolau presennol a'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, ac nid yw'n ddim mwy na hynny.
Rydym ni'n sôn am bwysigrwydd y defnydd o iaith; gadewch imi droi at ddefnydd o'r iaith Gymraeg. Mi oedd hi'n ymddangos bod yna gryn gonsensws wedi'i gyrraedd i roi'r enw 'Senedd' ar y sefydliad yma. Mi fyddai deddfwriaeth newydd yn adlewyrchu'r ffaith mai Welsh Parliament ydy ystyr hynny, ond mi fyddem ni'n rhoi enw cynhenid Cymreig i'r sefydliad o ddechrau'r bennod nesaf yn ei hanes.
Mae 'Senedd' wedi dod yn fwyfwy arferol pan fydd pobl yn cyfeirio at y lle hwn. Ydyn, maen nhw'n alw'n Cynulliad Cymru, maen nhw'n ei alw'n Cynulliad Cenedlaethol, maen nhw'n ei alw'n Cynulliad, ond yn gynyddol mae'r adeilad hwn yn cael ei adnabod fel y Senedd yn y ddwy iaith, sy'n perthyn i bob un ohonom ni yng Nghymru, pa bynnag un neu rai yw ein hiaith neu ieithoedd o ddewis. A nawr gallwn gymryd y cam bach ond arwyddocaol o fabwysiadu'r enw hwnnw ar gyfer y sefydliad ei hun. Ym mis Tachwedd, dywedodd y Prif Weinidog,
Pe byddai'n rhaid i mi ddewis, byddai'n rhaid i mi ddewis y Senedd.
Nawr, cynnig eich plaid chi yw dewis y Senedd/Welsh Parliament. Pa mor analluog ydych chi'n credu yw pobl Cymru i ymdopi ac, yn wir, croesawu'r gair 'Senedd', yn yr un modd ag mai'r 'Dáil' yw'r norm yn Iwerddon, er enghraifft? A pha mor awyddus ydych chi i weld y Prif Weinidog yn cefnogi ei reddfau ei hun ar hyn, yn hytrach na chyfuno â'r Torïaid i gael gwared ar yr enw uniaith Gymraeg?
Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, fy mod i'n credu mai mater i'r Cynulliad Cenedlaethol yw hwn, yn hytrach na mater i Lywodraeth Cymru, oherwydd byddwn i gyd yn bwrw pleidlais rydd ar y mater penodol hwn, fel yr wyf i'n siŵr y bydd Aelodau eraill hefyd.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Gweinidog, gwn fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith da iawn yn y maes hwn, ond pa gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gefnogi cyn-filwyr yng Nghymru?
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i gefnogi cyn-filwyr, ac un o'r ffyrdd y gallwn ni wneud hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol, rwy'n credu, yw sicrhau bod y concordat sydd gennym ni gydag awdurdodau lleol yn cael ei weithredu'n effeithiol ac i sicrhau bod ein cefnogaeth i gyn-filwyr pan fyddan nhw'n ceisio cael gafael ar wasanaethau'r GIG yn eu galluogi i wneud hynny mewn modd sy'n rhoi'r flaenoriaeth wirioneddol honno iddyn nhw pan eu bod yn ceisio cael gafael ar wasanaethau o ganlyniad i'r gwasanaeth y maen nhw wedi ei roi i'n gwlad.
Gweinidog, fel yr ydym ni wedi gweld heddiw yn y newyddion, mae'n wych gweld Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cymryd rhan yn y treial rhyngwladol hwn i gynorthwyo cyn-filwyr sydd ag anhwylder straen wedi trawma. Ar hyn o bryd, mae ein GIG yng Nghymru yn cael grant sylweddol o £150,000 gan Help for Heroes i ariannu tri therapydd seicolegol llawn amser ledled Cymru, sydd wedi bod yn helpu i leihau'r amseroedd aros i gyn-filwyr gael triniaeth. Yn anffodus, mae'r cyllid hwn i fod i ddod i ben ym mis Hydref 2020 a cheir pryderon ynglŷn â'r effaith y bydd hyn yn ei chael, yn enwedig gan fod targedau ar gyfer asesiadau a thriniaeth yn cael eu methu ar hyn o bryd. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo felly i gynyddu'r cyllid ar gyfer cyn-filwyr yn y GIG o fis Hydref 2020 i sicrhau bod y gwasanaethau ar gyfer cyn-filwyr yn cael eu cynnal yn y blynyddoedd i ddod?
Wel, yn amlwg, mae'r Gweinidog iechyd yma i glywed y pryderon penodol yr ydych chi wedi eu codi, ac nid oes gen i unrhyw amheuaeth y bydd gwasanaethau i gyn-filwyr ar draws y Llywodraeth yn rhan o'r trafodaethau wrth i ni barhau i archwilio ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Fel y mae'r Gweinidog yn gwybod, rwy'n siŵr, mae Llywodraeth y DU wedi creu swyddfa ar gyfer materion cyn-filwyr y tu mewn i Swyddfa Gabinet y DU yn ddiweddar, gan ddod ag arbenigwyr i mewn o Swyddfa'r Cabinet a'r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod dull cyfannol o ymdrin a materion cyn-filwyr. Nawr, bydd y swyddfa newydd hon yn gweithio i gydgysylltu a llywio polisi Llywodraeth y DU ar les, iechyd meddwl a chorfforol, addysg a chyflogaeth cyn-filwyr. Ers blynyddoedd lawer, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am gyflwyno comisiynydd lluoedd arfog a chyn-filwyr, a fyddai'n atebol i'r Cynulliad hwn ac a fyddai'n hyrwyddo anghenion cymuned y lluoedd arfog ac yn sicrhau bod pwerau datganoledig yn cael eu defnyddio'n llawn i gynnig y cymorth angenrheidiol. Gweinidog, o ystyried y gwaith sy'n cael ei wneud ar lefel y DU, a wnaiff Llywodraeth Cymru ailystyried nawr cyflwyno comisiynydd lluoedd arfog a chyn-filwyr fel bod cymorth i'n personél ymroddgar yn y lluoedd arfog yn cael ei roi ar sylfaen briodol i sicrhau eu bod nhw wir yn cael y gwasanaethau y maen nhw'n eu haeddu?
Wel, gwn fod Llywodraeth y DU wedi sefydlu, fel y dywedwch, y swyddfa newydd dros faterion cyn-filwyr, ac fel Llywodraeth Cymru rydym ni'n awyddus iawn i ymgysylltu â nhw. Rwy'n credu y bu rhywfaint o ymgysylltu ar lefel swyddogol eisoes i weld sut y gallwn ni weithio orau gyda'n gilydd i gynorthwyo cyn-filwyr, oherwydd, yn amlwg, bydd rhai agweddau wedi eu datganoli a rhai heb eu datganoli. Pryd y gallwn gydweithio'n agos â'r Weinyddiaeth Amddiffyn a phartneriaid eraill i gyflawni dros gymuned y lluoedd arfog yma yng Nghymru, byddwn yn sicr yn ceisio gwneud hynny.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Croesawaf y Gweinidog Cyllid i'w sesiwn yn ateb cwestiynau i'r Prif Weinidog yr wythnos hon, a hyderaf bod y Prif Weinidog wedi bod mor llwyddiannus yn hyrwyddo Cymru oddi ar y cae ag y mae'r tîm wedi bod hyd yn hyn ar y cae yn Japan. Mae'r Llywodraeth wedi neilltuo agenda heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ei pharatoadau pe byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb cyffredinol, ac mae'n iawn y dylai Lywodraeth gyfrifol wneud y paratoadau hynny, ac y dylai eu cyhoeddi i'w gwneud yn destun craffu. Felly, gobeithiwn y bydd honno'n ymdrech ddidwyll y prynhawn yma. Hoffwn hefyd anfon ymddiheuriadau gan Caroline Jones o'n grŵp ni nad yw hi'n gallu cymryd y sesiynau ar iechyd a llywodraeth leol gan ei bod hi'n mynd gydag aelod o'i theulu i'r ysbyty.
O gofio'r angen am y craffu cyfrifol hwnnw, a all y Gweinidog gadarnhau i mi, pan ddywedodd Jeremy Miles ar 17 Medi y byddai'r Llywodraeth yn cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith economaidd Brexit yn fuan, a yw hynny'n gyfystyr â'r ddogfen hon, 'Dyfodol mwy disglair i Gymru: Y rhesymau dros aros yn yr UE'? Onid pwyslais y ddogfen hon, yn hytrach, yw ei bod yn ddogfen ymgyrchu? Ac o ystyried ei theitl, oni fyddai'n fwy priodol i'r Llywodraeth ei chyhoeddi i geisio dylanwadu ar y refferendwm cyn iddo gael ei gynnal, yn hytrach na nawr, dair blynedd a hanner ar ôl iddi golli?
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eglur o'r cychwyn bod aros yn yr Undeb Ewropeaidd er lles gorau Cymru. Gwnaed y ddadl honno gennym cyn y refferendwm yn 2016 ac nid oes dim yr ydym ni wedi ei weld ers y dyddiad hwnnw wedi gallu ein hargyhoeddi ein bod ni wedi bod yn anghywir yn hynny o beth. O ran y ddogfen, ydy, mae honno'n cynnwys y dadansoddiad economaidd, ac nid ein dadansoddiad ni yn unig, wrth gwrs; rydym ni wedi cael cymorth y prif economegydd i ddatblygu hwnnw. Ond nid ni yw'r unig bobl sy'n edrych ar hyn, wrth gwrs. Os nad ydych chi'n hoffi'r hyn a ddarllenwch gan Lywodraeth Cymru, gallwch bob amser edrych ar y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, er enghraifft, sydd wedi cynhyrchu rhagolygon ar gyfer ei datganiad yn y gwanwyn a ddangosodd y byddai twf yn debygol o barhau i fod yn siomedig yn ystod y pum mlynedd nesaf, a disgwylir i CMC y pen gynyddu ar gyfradd flynyddol gyfartalog o ddim ond 1 y cant, o'i gymharu â chyfartaledd hirdymor o 2.4 y cant. Mae hynny, wrth gwrs, yn rhagdybio ein bod ni'n gadael yr UE gyda chytundeb. Felly, rwy'n credu bod y darlun yn edrych hyd yn oed yn fwy llwm pe byddem ni mewn sefyllfa lle mae gennym ni Brexit 'heb gytundeb'.
Addawodd y Gweinidog ddiweddariad i ni ar yr asesiad economaidd hwnnw, ond yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw ailgyhoeddi adroddiadau y mae'r Llywodraeth wedi cyfeirio atyn nhw o'r blaen. Mae gennym ni yn y fan yma amcangyfrifon y Llywodraeth ei hun—yn y crynodeb gweithredol mae hyn—sy'n awgrymu, gyda Brexit 'heb gytundeb', y bydd yr economi tua 9 y cant yn llai ymhen 15 mlynedd nag y byddai wedi bod fel arall. Daw hynny, rwy'n credu o 26 Chwefror o dan adroddiad Trysorlys Philip Hammond a gyhoeddwyd bryd hynny. Mae'n dweud mewn gwirionedd y byddai economi'r DU 6.3 y cant i 9 y cant yn llai, ac yna mae'n ychwanegu at yr adran y mae eich Llywodraeth chi yn ei dyfynnu 'gan dybio nad oes unrhyw gamau'n cael eu cymryd'. Onid yw honno'n dybiaeth hynod o annhebygol? Onid yw Llywodraethau, yn union fel y sector preifat, yn mynd i wneud newidiadau, cymryd camau mewn ymateb i'r hyn sy'n digwydd? Rydych chi'n cyfeirio yn ôl at y rhagolwg hwnnw, ond nid ydych chi'n cyfeirio yn yr un modd at ragolygon Banc Lloegr, sydd wedi cael eu diwygio am i lawr ddwywaith ers i'r rhagolwg hwnnw gael ei gyhoeddi. Ac onid yw'n wir hefyd bod Banc Lloegr—? Rydych chi'n dweud yn eich adroddiad ar y risg strategol o ansefydlogrwydd economaidd bod
Sterling wedi gostwng yn sylweddol ers y refferendwm a chan fod y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb wedi dwysáu, gallai hyn drosi dros amser i chwyddiant cynyddol ar rai cynhyrchion.
Ond nid yw wedi gwneud hynny; cyrhaeddodd chwyddiant uchafbwynt o 3.1 y cant ar ôl y refferendwm, mae'n 1.7 y cant erbyn hyn. Pan fo Banc Lloegr wedi haneru ei amcangyfrif a rhagweld y gallai fod ergyd o 5 y cant os byddwn yn gadael heb unrhyw gytundeb cyffredinol, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod hynny ar sail y dybiaeth bod Banc Lloegr ei hun yn ymateb i'r amgylchiadau hynny trwy godi cyfraddau llog o 0.75 y cant i 4.5 y cant? Onid yw hynny'n gwbl annhebygol a ddim yn sail synhwyrol y dylai Llywodraeth Cymru fod yn cynllunio arni?
Efallai, os edrychwn ni yn ôl ar yr hyn sydd eisoes wedi digwydd, y gallai roi syniad i ni o beth arall sydd i ddod. Mae economi'r DU wedi tanberfformio o'i chymharu ag economïau mawr eraill ers cyhoeddi'r penderfyniad i alw refferendwm yr UE yn 2015. Ers y refferendwm ei hun, amcangyfrifir bod CMC rhwng un a dau bwynt canran yn is nag y byddai wedi bod fel arall, ac at ddibenion eglurhaol, mae hynny rhwng £300 a £600 y person y flwyddyn yng Nghymru. Mae'r Aelod yn cyfeirio at Fanc Lloegr, ac maen nhw wedi darparu rhagolwg wedi'i ddiweddaru ar gyfer yr economi ym mis Awst, sy'n canolbwyntio mwy ar y rhagolwg tymor agosach. Dros y 12 mis nesaf, mae'r banc yn disgwyl twf cymedrol yn unig o ran CMC, felly dim ond 1.5 y cant, a bydd busnesau—Banc Lloegr sy'n ei ddadlau, nid fi—yn amharod i fuddsoddi yn erbyn cefndir o bryderon sy'n gysylltiedig â Brexit, ac, wrth gwrs, ochr yn ochr â hynny, nid yw'r banc yn disgwyl i allforion net gyfrannu'n sylweddol at dwf. Felly, rydym ni bob amser yn awyddus i glywed yr hyn sydd gan Fanc Lloegr i'w ddweud, ond yn anffodus i Mark Reckless, ni fydd dim o hynny yn newyddion da iddo ef.