Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 1 Hydref 2019.
Yn hollol, ac mae cynifer o resymau pam y bydd morlyn llanw Abertawe yn mynd yn ei flaen, yn enwedig oherwydd y rhan bwysig y gallai ei chwarae o ran mynd i'r afael â lefelau sgiliau yn y rhanbarth a darparu cyfleoedd am swyddi rhagorol, a rhoi Cymru ar flaen y gad technoleg fyd-eang newydd. Oherwydd, fel y dywed Mike Hedges, mae ynni morlyn llanw yn mynd i ddigwydd yn y byd, ac oni fyddai'n wych pe byddai Cymru ar y rheng flaen yn hynny o beth?