1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 1 Hydref 2019.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y posibilrwydd o ddatblygu morlyn llanw ym Mae Abertawe? OAQ54416
Rydym ni'n parhau i weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i ddod o hyd i brosiectau buddsoddi i sicrhau bod gan y diwydiant ynni'r môr yng Nghymru, gan gynnwys bae Abertawe, ddyfodol cryf a chadarnhaol. Rydym ni'n ystyried adroddiad tasglu dinas-ranbarth bae Abertawe ar fodelau posibl ar gyfer darparu morlyn yng Nghymru.
Trefnydd, diolch am hynna. Fel y dywedasoch, awgrymodd adroddiad tasglu dinas-ranbarth bae Abertawe rai syniadau a fyddai'n troi pennau yn wir, gan gynnwys cymuned arnofiol o hyd at 10,000 o gartrefi a siopau ym mae Abertawe. Cynigir hefyd fferm solar arnofiol a chanolfan ddata danddwr i gwmnïau technoleg gadw gweinyddion yn oer, ym mae Abertawe. Adroddir hefyd bod cost y cynllun wedi gostwng gan 30 y cant, o'r £1.3 biliwn gwreiddiol. Nawr, fel y soniasoch, cyflwynwyd yr adroddiad hwn i Lywodraeth Cymru ym mis Mai eleni, ac, yn gynharach y mis hwn, dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart, bod Llywodraeth Cymru, yn ystod trafodaethau, wedi ymateb yn gadarnhaol i'r adroddiad. Wel, yn absenoldeb unrhyw beth yn ein cyrraedd, a allech chi roi gwybod i Aelodau'r Cynulliad nawr beth yw barn Llywodraeth Cymru ar yr adroddiad, a phryd yr ydych chi'n disgwyl gwneud penderfyniad ffurfiol, yn enwedig o ran unrhyw fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn?
Diolchaf i Dai Lloyd am godi'r mater hwn. Wrth gwrs, mae'r tasglu y mae'n cyfeirio ato yn cael ei arwain gan gyngor dinas Abertawe, ar ran dinas-ranbarth bae Abertawe. A daw'r aelodau o amrywiaeth eang o gyrff statudol a rheoleiddio, a fydd yn ofynnol, er mwyn bwrw ymlaen ag unrhyw brosiectau posibl, pe byddai model ariannol addas yn cael ei gyflwyno. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i'r tasglu hwnnw eisoes i ymgymryd â nifer o becynnau gwaith, wedi eu caffael gan arbenigwyr annibynnol, sy'n edrych yn fanwl iawn ar y modelu ariannol, yr achos busnes a'r materion cyflenwi seilwaith. A bwriedir i'r gwaith hwnnw, mewn gwirionedd, ddatblygu model ariannol a allai gynnwys cymysgedd o ffrydiau refeniw a chyfalaf, adfywio ehangach—ac rydych chi wedi rhoi rhai enghreifftiau o hynny—a chynigion arloesi sy'n gysylltiedig ag ynni, a rhai agweddau eraill hefyd. Felly, mae'n bosibl y gallai fod yn gynllun cyffrous iawn. Mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mawr ynddo. Byddwch yn cofio, o dan y cynllun blaenorol, bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno y byddai hyd at £200 miliwn o gyfalaf trafodion ariannol ar gael i gefnogi hynny, a gallaf gadarnhau y byddai'r cyllid hwnnw ar gael o hyd pe byddai modd cyflwyno model hyfyw sy'n cynnig gwerth am arian.
Rwy'n falch iawn o glywed y sylwadau olaf yna, Trefnydd. Dyna oedd rhan o'r cwestiwn yr oeddwn i'n mynd i'w ofyn i chi, ond byddwch yn falch o wybod nad dyna oedd y cwestiwn cyfan. Rwy'n credu mai'r pwynt pwysig i'w wneud yn y fan yma yma yw bod y syniad hwn sy'n gwneud synnwyr perffaith yn dal i fod yn syniad gwych i'r rhanbarth, i Gymru gyfan ac, yn wir, i gadwyn gyflenwi'r DU. Mae grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y fan yma yn sicr yn gwneud ei farn yn hysbys i Lywodraeth newydd y DU, a gobeithiaf fod eich Llywodraeth chithau yn gwneud hynny hefyd. Yn rhan o hynny, tybed a allech chi roi syniad i mi o'r craffu y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ar y modd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymdrin â'r cais am drwydded forol ar gyfer y prosiect gwreiddiol, oherwydd y peth olaf yr ydym ni eisiau ei weld, gydag unrhyw syniadau newydd, yw oedi o'r math hwnnw yn digwydd eto?
Diolch. Rwy'n falch iawn o glywed y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi'r pwysau y gallan nhw ar Lywodraeth y DU o ran cefnogi morlyn llanw i fae Abertawe. Ac, wrth gwrs, mae Plaid Lafur y DU wedi dweud y byddai'n rhywbeth y byddai'n awyddus i geisio ei gyflwyno pe byddai yn y sefyllfa o allu ffurfio Llywodraeth. Ond mae'n bwysig bod yr holl faterion hynny yn ymwneud â'r drwydded forol yn cael eu hystyried yn llawn. Gwn fod y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr amgylchedd a materion gwledig yn gwbl ymwybodol o'r rheini, a byddem yn ystyried hynny ochr yn ochr ag unrhyw rwystrau posibl eraill y byddai'n rhaid i ni eu goresgyn wrth i'r prosiect, gobeithio, symud yn ei flaen.
Trefnydd, er nad oedd y cynlluniau cychwynnol yn ffafriol, ni ellir gorbwysleisio'r potensial i forlynnoedd llanw fynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd a'n hargyfwng ynni sydd ar ddod. Trefnydd, un ffordd ddelfrydol o dreialu'r dechnoleg fyddai drwy brosiect ar raddfa lai ar y cyd â defnyddiwr ynni trwm. A fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried menter ar y cyd â gwaith dur Port Talbot er mwyn dangos potensial morlynnoedd llanw i ddatgarboneiddio ein cyflenwad ynni?
Wel, mae Llywodraeth Cymru yn llawn cynnwrf am botensial ynni'r môr yn gyffredinol ac yn uchelgeisiol yn ei gylch. A gwn fod Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi siarad yng nghynhadledd ynni'r môr ddoe ddiwethaf yn Nulyn. Ac roedd yn sôn am fwy na £71 miliwn o gyllid Ewropeaidd y cytunwyd arno ac a fydd yn darparu dros £117 miliwn o fuddsoddiad yng Nghymru, a bydd rhywfaint o hynny yn y rhanbarth yr ydych chi'n ei gynrychioli. Ceir busnes yn Abertawe, sy'n ddatblygwr ynni'r tonnau—Marine Power Systems—ac maen nhw wedi cwblhau eu treialon môr blwyddyn o hyd yn llwyddiannus, gan brofi hyn yn ystod yr haf. Mae eu prototeip graddfa chwarter WaveSub wedi cyrraedd ei gerrig milltir hanfodol, a dyfarnwyd €13 miliwn o'r cyllid hwnnw iddyn nhw i ddylunio a gweithgynhyrchu dyfais ar raddfa fwy. Felly, mae llawer iawn o waith ac ymdrech yn mynd ymlaen ym maes ynni'r môr yn gyffredinol.
Hoffwn ychwanegu at yr unfrydedd ar draws pleidiau gwleidyddol ar hyn. Bydd morlynnoedd llanw yn datblygu ar draws y byd—mae hynny'n anochel. Mae trydan dibynadwy a chyson yn rhywbeth y mae angen i ni fod yn ei ddatblygu. Yn dilyn y cynnydd tebygol i gostau adeiladu yn Hinkley Point, sy'n bodoli ochr yn ochr â'i gostau storio a gapiwyd, a bron yn sicr—er nad ydym wedi eu cael eto, byddant yn cael eu tanysgrifennu—costau ei ddymchwel, mae cost morlyn llanw yn sylweddol llai na chost Hinkley Point erbyn hyn. A wnaiff y Gweinidog ofyn i'r Llywodraeth wneud y pwynt i Lywodraeth San Steffan, os gall Hinkley Point fynd yn ei flaen, yna ni allwn weld unrhyw reswm pam na all morlyn llanw Abertawe?
Yn hollol, ac mae cynifer o resymau pam y bydd morlyn llanw Abertawe yn mynd yn ei flaen, yn enwedig oherwydd y rhan bwysig y gallai ei chwarae o ran mynd i'r afael â lefelau sgiliau yn y rhanbarth a darparu cyfleoedd am swyddi rhagorol, a rhoi Cymru ar flaen y gad technoleg fyd-eang newydd. Oherwydd, fel y dywed Mike Hedges, mae ynni morlyn llanw yn mynd i ddigwydd yn y byd, ac oni fyddai'n wych pe byddai Cymru ar y rheng flaen yn hynny o beth?