Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 1 Hydref 2019.
Gweinidog, ym mis Ebrill cyflwynodd y Llywodraeth y gronfa economi gylchol—cronfa o £6.5 miliwn. Mae dwy ffenestr ar gyfer elfen grantiau bach y gronfa honno wedi cau erbyn hyn, ac mae'r un ffenestr ar gyfer y grant mwy newydd ddod i ben. A ydych chi mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch sut y mae'r grantiau hynny wedi bod—. A ydyn nhw wedi bod yn llwyddiannus o ran nifer y defnyddwyr ac elfennau diwydiant sydd wedi manteisio arnyn nhw? Rwy'n sylweddoli na allwch chi roi'r union niferoedd i ni, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi roi hynny ar y cofnod yn ddiweddarach, ond a allwch chi roi argraff gyffredinol i ni o sut y mae pobl ledled Cymru wedi manteisio ar y cyfleoedd grant hynny?