Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 1 Hydref 2019.
Rydym ni'n parhau i weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i ddod o hyd i brosiectau buddsoddi i sicrhau bod gan y diwydiant ynni'r môr yng Nghymru, gan gynnwys bae Abertawe, ddyfodol cryf a chadarnhaol. Rydym ni'n ystyried adroddiad tasglu dinas-ranbarth bae Abertawe ar fodelau posibl ar gyfer darparu morlyn yng Nghymru.