Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 1 Hydref 2019.
Rwyf innau hefyd yn ymuno i longyfarch Cymru ar fuddugoliaeth wych y penwythnos hwn. Mae Cwpan Rygbi'r Byd, wrth gwrs, yn ddigwyddiad chwaraeon gwych, ond mae'n gyfle hefyd i werthu Cymru i'r byd. Nid oes yr un owns o gig oen Cymreig yn cael ei fwyta yn yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd gan mai Seland Newydd sy'n dominyddu'r farchnad, a thybiwn mai'r un yw'r sefyllfa yn Asia hefyd. Gwerthir 92 y cant o'n cig oen sy'n cael ei allforio i'r UE. Byddwn yn gofyn i'r Gweinidog: beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo allforion cig oen Cymru i wledydd y tu allan i'r UE, fel Japan, cyn Brexit, wrth gwrs?