Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 1 Hydref 2019.
Wel, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i'r diwydiant bwyd a diod i gynnal cenhadaeth fasnach cyn y daith genhadaeth fasnach bresennol i arloesi o ran y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar hyn o bryd yn Japan. Ond rwy'n credu fy mod i'n iawn wrth ddweud bod y farchnad ŵyn newydd agor i ni nawr yn Japan, ac mae Hybu Cig Cymru ochr yn ochr â'r genhadaeth fasnach honno ar hyn o bryd, yn ceisio hyrwyddo ein cynnyrch rhagorol.