Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 1 Hydref 2019.
Gallaf gadarnhau y cynhaliwyd cyfarfodydd dros yr haf rhwng uwch reolwyr ar draws yr holl bartïon dan sylw i symud ymlaen a goresgyn rhai o'r heriau a nodwyd o ran cyflwyno'r cynllun ym Mharc Lansbury. Rwy'n clywed bod cynnydd da yn cael ei wneud, ond bod pethau wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl. Ond, bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ar 16 Hydref, a fydd yn ceisio datrys y problemau hynny sy'n weddill, a byddaf yn sicrhau eich bod chi'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar ôl hynny.