Brexit Heb Gytundeb

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 1 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:06, 1 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Mae amcangyfrif Llywodraeth y DU ei hun yn awgrymu y byddai economi'r DU tua 9 y cant yn llai ymhen 15 mlynedd nag y byddai wedi bod fel arall yn sgil Brexit 'heb gytundeb'. Mae Banc Lloegr wedi amcangyfrif bod pob person yng Nghymru eisoes £1,000 yn waeth eu byd nag y bydden nhw wedi bod o ganlyniad i ansicrwydd Brexit, a bydd safonau byw hefyd yn dioddef wrth i brisiau gartref a'r gost o deithio dramor gynyddu, o ganlyniad i ddibrisio a thariffau.