Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 1 Hydref 2019.
Mae'r system atgyfeirio electronig yn gwneud yn dda. Mae llawer iawn wedi manteisio arni ac mae 98.6 y cant o ddeintyddion eisoes yn defnyddio'r system honno, ac maen nhw'n dweud ei bod yn hawdd ei defnyddio, ei bod yn gweithio'n dda a'i bod yn gwneud bywyd yn haws iddyn nhw, ond hefyd, yn bwysig, i'w cleifion ac i feddygon ymgynghorol ysbytai. Am y tro cyntaf, mae cleifion eu hunain yn gallu olrhain eu hatgyfeiriadau ar-lein, ac felly maen nhw'n gallu teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn fwy yn eu gofal ac yn cael eu hysbysu'n well amdano. Er mai dim ond dyddiau cynnar yw'r rhain, mae dros 20,000 o atgyfeiriadau wedi mynd drwy'r system eisoes, ac mae tua thraean o'r rheini wedi bod ar gyfer orthodonteg.
Nid oes targedau amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol, gan gynnwys orthodonteg, fodd bynnag, o fewn 12 mis i gychwyn cyflwyno'r system, bydd gan fyrddau iechyd fanylion ffynhonnell, cymhlethdod a nifer yr holl atgyfeiriadau at bob arbenigedd deintyddol, a bydd hynny wedyn yn helpu i gynorthwyo byrddau iechyd i wneud penderfyniadau cynllunio sy'n seiliedig ar dystiolaeth am y ddarpariaeth o wasanaethau. Bydd y broses fwy cadarn o atgyfeirio hefyd yn ei gwneud yn haws nodi darpariaeth gwasanaethau lleol ac anghenion hyfforddi ar lefel practis hefyd, oherwydd, fel y dywedodd Vikki Howells, nodwyd rhai achosion o atgyfeiriadau lluosog a bydd y system yn gallu sicrhau nad yw'r mathau hynny o bethau yn parhau i ddigwydd.