Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 1 Hydref 2019.
Gwn fod llawer o dristwch a gwae ar feinciau Llafur ynghylch Brexit, ond un o'r cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit, wrth gwrs, yw cyfle i fynd i'r afael â'r prosesau caffael sydd gennym ni yng Nghymru a'u gwella er mwyn rhoi cyfle gwell i fusnesau Cymru fanteisio ar gaffael sector cyhoeddus. Pa gamau sydd gan Lywodraeth Cymru ar y gweill i ddiwygio eich prosesau caffael fel y gall ein busnesau yma ffynnu ar ôl i ni adael yr UE?