Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 1 Hydref 2019.
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i gefnogi cyn-filwyr, ac un o'r ffyrdd y gallwn ni wneud hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol, rwy'n credu, yw sicrhau bod y concordat sydd gennym ni gydag awdurdodau lleol yn cael ei weithredu'n effeithiol ac i sicrhau bod ein cefnogaeth i gyn-filwyr pan fyddan nhw'n ceisio cael gafael ar wasanaethau'r GIG yn eu galluogi i wneud hynny mewn modd sy'n rhoi'r flaenoriaeth wirioneddol honno iddyn nhw pan eu bod yn ceisio cael gafael ar wasanaethau o ganlyniad i'r gwasanaeth y maen nhw wedi ei roi i'n gwlad.