Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 1 Hydref 2019.
Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno atgyfeiriadau deintyddol electronig ar draws pob arbenigedd deintyddol, gan gynnwys orthodonteg. Mae hyn yn golygu y bydd byrddau iechyd yn ymwybodol o ffynhonnell, cymhlethdod a nifer yr atgyfeiriadau. Bydd y system e-atgyfeirio yn gwella ansawdd yr atgyfeiriadau ac yn lleihau'r amseroedd aros i gleifion gael triniaeth.