Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 1 Hydref 2019.
Wel, gwn fod Llywodraeth y DU wedi sefydlu, fel y dywedwch, y swyddfa newydd dros faterion cyn-filwyr, ac fel Llywodraeth Cymru rydym ni'n awyddus iawn i ymgysylltu â nhw. Rwy'n credu y bu rhywfaint o ymgysylltu ar lefel swyddogol eisoes i weld sut y gallwn ni weithio orau gyda'n gilydd i gynorthwyo cyn-filwyr, oherwydd, yn amlwg, bydd rhai agweddau wedi eu datganoli a rhai heb eu datganoli. Pryd y gallwn gydweithio'n agos â'r Weinyddiaeth Amddiffyn a phartneriaid eraill i gyflawni dros gymuned y lluoedd arfog yma yng Nghymru, byddwn yn sicr yn ceisio gwneud hynny.